 |
| Bwlch yr Oerddrws |
“The shortest distance between two points is under
construction” – Noelie Altito
Cyn parhau, dyma rybudd bach - rydw i’n
ddyn sy’n hoff o freuddwydio am brosiectau mawr. Mewn bywyd arall efallai mai
fi oedd yn gyfrifol am gomisiynu Mur Mawr Tseina, neu’r pyramidiau. Ond yn
wahanol i’r prosiectau epig, ond diwerth, rheini, dw i’n credu fod y prosiect
hwn yn un dra phwysig i Gymru.
Rydw i’n credu ei fod yn hanfodol
adeiladu ffordd o safon rhwng de a gogledd Cymru. Na, dydw i ddim am ddadlau
fod angen traffordd. Fe fyddai ffordd unffrwd â digon o le i oddiweddyd lorïau
Mansel Davies yn gwneud y tro mewn ambell i fan arbennig o gul. Ond fe ddylai
95% o’r ffordd rhwng de a gogledd Cymru fod yn ffordd ddeuol, o leiaf.
Mae Cymru ymhell ar ei hol hi o’i gymharu
â gwledydd eraill o ran cysylltiadau trafnidiaeth. Mae’r ffyrdd o’r gorllewin
i’r dwyrain yn weddol ar y cyfan (yr M4 a’r A55). Ond mae unrhyw un sy’n anelu
trwyn y car am y gogledd neu’r de yn mynd i fod yn gweithio’n galed. Mae’r
llwybrau defaid yma’n perthyn i’r ganrif ddiwethaf. Maen nhw’n gul ac yn
droellog. O ystyried natur amaethyddol y rhan fwyaf o ganolbarth Cymru mae hynny’n
gyfuniad ofnadwy, am ei fod bron a bod yn amhosib pasio tractor neu drelar Ifor
Williams. Mae hynny’n ychwanegu oedi pellach at daith sydd eisoes yn un hir a
llafurus.
Dros y dyddiau diwethaf rydyn ni wedi
cael cip ar gynlluniau trafnidiaeth rhai o wledydd eraill Ynysoedd Prydain. Mae
Llywodraeth San Steffan yn bwriadu adeiladu rheilffordd newydd £32bn
rhwng Llundain a Birmingham – gan gynnwys
twnnel £500 er mwyn bodloni Aelod Seneddol Chesham & Amersham (ac Ysgrifennydd
Cymru) Cheryl Gillan.
Mae Llywodraeth yr Alban newydd
ddatgelu cynllun £12.8 biliwn sy’n cynnwys gwaith i wella rhwydwaith
ffyrdd y wlad. Mae’r cynlluniau yn cynnwys gwneud ffyrdd yr A9 a’r A96 yn
ffyrdd deuol. Mae’r A96 yn mynd o Inverness i Aberdeen, a’r A9 yn mynd o Perth
i fyny drwy fynyddoedd y gogledd i Inverness. Dyw’r ffyrdd yma ddim yn cysylltu
cymunedau mwy na rhai gogledd a de Cymru. Maen nhw’n mynd drwy dirwedd hyd yn
oed yn fwy mynyddig nag Eryri. Ac mae arweinwyr busnes wedi croesawu’r
cynlluniau yn wresog.
Beth am gymharu’r cynlluniau beiddgar
rhain â
chynlluniau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, a ddatgelwyd ddoe? “Gosod un
camera cylch cyfyng ar yr A465 yng Nghwm Clydach, gwella’r groesfan ar yr A458
yn y Trallwng, a rhoi rheilins newydd ar y bont droed ger y rheilffordd ar yr
A487 ym Machynlleth.” Uchafbwynt y cynllun £13m fydd ailddatblygu cylchfan
Abercynon. Maen nhw’n gobeithio y bydd y prosiectau uchelgeisiol yma wedi eu
cwblhau erbyn 2014. Unwaith eto ceir pwyslais ar
wella'r cysylltiadau rhwng y gorllewin a'r dwyrain.
A bod yn deg, roedd ymdrech lew yn ystod
tymor y Senedd ddiwethaf i wella’r cysylltiadau ffyrdd rhwng de a gogledd
Cymru. Mae gennym ni ffordd osgoi newydd yn Llandysul a Phorthmadog, ac mae yna
waith wedi ei wneud ar ledu maint y ffordd ger Machynlleth. Mae’n debyg mai
dylanwad Ieuan Wyn Jones yn yr Adran Drafnidiaeth oedd hyn. Roedd y galw am y
newidiadau hyn yn amlwg, ac fe ddylai’r gwaith fod wedi ei wneud degawdau yn ôl.
Serch hynny cafodd IWJ ei feirniadu’n hallt gan Bwyllgor Cyllid Cynulliad
Cenedlaethol Cymru am beidio â chanolbwyntio ar wella’r cysylltiadau rhwng y
gorllewin a’r dwyrain yn lle. Doedd ffyrdd o’r de i’r gogledd yn “ateb
anghenion defnyddwyr,” medden nhw.
I ryw raddau rydw i’n deall eu pwynt nhw,
ac yn deall pam fod pwyslais ar wella’r ffyrdd rhwng gorllewin a dwyrain Cymru.
Wedi’r cwbl, mae Lloegr yn wlad gyfoethocach na Chymru ac mae’r rhan fwyaf o
fusnesau sy’n seiliedig yng Nghymru yn gweithredu dros Glawdd Offa. Ond beth am feddwl ‘y tu allan i’r bocs’ am
eiliad.
Os nad oes ffyrdd o safon yn mynd o’r
gogledd i’r de, oes yna unrhyw syndod fod yr holl draffig, a’r holl fusnes, yn
llifo o’r gorllewin i’r dwyrain? Fe fyddai yn amhosib cynnal busnes o, dweud,
Aberystwyth, sy’n gwasanaethu Abertawe a Llandudno. Dyw’r ffyrdd ddim yn ddigon
da. Yng Nghymru mae gennym ni lawer iawn o bobol yn byw yn y gogledd, a llawer
iawn yn byw yn y de, a phentrefi a threfi marchnad ar wasgar yn y difethwch
rhwng y ddau begwn. Mae yna fusnesau yn nhrefi’r canolbarth, ond rhai bach ydyn
nhw ar y cyfan sy’n gwasanaethu anghenion y cymunedau o’u cwmpas yn unig. Pe
bai yna rwydwaith ffyrdd o safon yn mynd drwy’r canolbarth fe fyddai modd ehangu
potensial economaidd y trefi yma a sefydlu busnesau sy’n gwasanaethu anghenion
Cymru gyfan yn hytrach na’r gogledd, neu’r de, neu’r pentrefi lleol yn y
canolbarth, yn unig.
Mae’r ddadl nad oes galw am ffordd o safon drwy ganol Cymru
yn Catch-22, felly. Byddai ffordd yn creu’r galw. Wele’r llun isod o’r M25 yn
1983 ac yna yn 2009:
Mae busnesau a chymunedau cyfan yn bodoli
heddiw oherwydd fod yr M25, a traffyrdd tebyg, wedi creu’r galw. Yng Nghymru
rhaid disgwyl nes bod ceir a loriau yn tagu canol trefi cyn ystyried adeiladu
ffordd osgoi.
Yn ogystal â dadl economaidd mae yna
ddadl genedlaetholgar o blaid adeiladu ffordd o dde i ogledd Cymru. Er gwaethaf
datganoli mae’n parhau yn wir fod cysylltiadau cryfach gan ogledd Cymru â
dinasoedd y tu hwnt i’r ffin yn Lloegr na sydd â dinasoedd y de. Dywed sawl un
mai ‘Lerpwl yw prifddinas gogledd Cymru’. Mae’r un peth yn wir am dde Cymru a
dinasoedd ar hyd yr M4 i Lundain. Mae’r map uchod, sy’n dangos daearyddiaeth
galwadau ffôn Ynysoedd Prydain, yn awgrymu hyn yn gryf:

Er gwaethaf canlyniad y refferendwm ym
mis Mai sy’n awgrymu fod Cymru gyfan bellach yn cefnogi’r Cynulliad
Cenedlaethol, rydyn ni’n parhau yn wlad ranedig. Serch hynny does yna ddim
unrhyw wahaniaeth mawr rhwng y ‘gogs’ a’r ‘hwntws’. A dweud y gwir yn
ddiwylliannol rydw ‘n credu bod fwy o wahaniaeth rhwng gorllewin a dwyrain
Cymru na’r de a’r gogledd. Y broblem sydd wrth wraidd y diffyg cydlynrwydd
cenedlaethol yma yw bod y ffyrdd rhwng y de a’r gogledd yn rhai ofnadwy o wael.
Fyddai neb o Gaernarfon yn ystyried pigo i lawr i Gaerdydd i wneud ei siopa yn
hytrach na Chaer neu Lerpwl, oherwydd bod cyrraedd yno’n gymaint o frwydr. Fe
fyddai ffordd ddeuol rhwng y de a’r gogledd yn gwneud mwy i sicrhau fod
‘Cymru’n Un’ nag unrhyw gytundeb gwleidyddol.
Raid ystyried y gost o adeiladu ffordd o’r
fath, a does dim amheuaeth y byddai’r gost yn uchel. Mae pob milltir o ffordd
ddeuol yn costio £16.2 miliwn i’w adeiladu. Petai Lywodraeth Cymru yn
penderfynu ar y dewis ceidwadol a throi'r A470 yn ffordd ddeuol, fe fyddai yn
costio tua £2.5 biliwn i wneud hynny. Mae hynny’n lawer iawn o arian, ond ni
fyddai angen ei dalu mewn un swm. Petai’r llywodraeth yn targedu cwblhau’r
gwaith tua 2025 (yr un pryd ag y mae Llywodraeth yr Alban yn bwriadu cwblhau eu
ffordd ddeuol nhw o Perth i Inverness), fe fyddai’r gost yn fawr ond yn ddigon
ymarferol. Wedi’r cwbl, mae’r Alban newydd gyhoeddi eu bod nhw am wario £12.8
biliwn ar wella isadeiledd y wlad, a Llywodraeth San Steffan am wario £32
biliwn ar arbed ugain munud ar y siwrne trên o Firmingham i Lundain, felly pam
na ddylai Cymru wario arian tebyg ar wella ei ffyrdd? Fe fyddai yn well ddefnydd o arian y
trethdalwr na'r awyren o Gaerdydd i Ynys Môn, yn sicr.
Un gwrthwynebiad arall yr ydw i’n ei
glywed droeon wrth ddadlau fod angen gwella trafnidiaeth ffyrdd Cymru yw nad
oes modd gwneud hyn oherwydd bod Cymru’n wlad fynyddig. Mae’r ffyrdd fel y maen
nhw, yn gul ac yn droellog, am nad oes modd iddynt fod fel arall. Platiau
tectonig a rhewlifau o filoedd o flynyddoedd yn ôl sy’n penderfynu eu cwrs. Mae
hyn yn lol. Wrth adeiladu ffyrdd mae’n rhaid addasu’r tirwedd. Pryd oedd y tro
diwethaf i chi fod ar draffordd, neu hyd yn oed ffordd ddeuol, sydd ar yr un
lefel a’r dirwedd o’i amgylch? Dydyn nhw ddim yn mynd i fyny ac i lawr gydag
ymdoniad y tir na chwaith yn gwyro i bob cyfeiriad er mwyn osgoi ryw fryncyn
neu ei gilydd. Mae hyd yn oed y llwybrau defaid sy’n dringo i fyny mynyddoedd y
gogledd wedi eu torri o’r clogwyni gan ddyn. Gyda jac codi baw a digon o amser
gellid gosod traffordd i fyny’r Wyddfa. (Dydw i ddim yn argymell hyn wrth
gwrs).
Mae diogelwch yn ddadl arall o blaid
adeiladu ffordd o safon o de i ogledd Cymru. Mae’r A470, â’i gyfuniad eclectig
o heolydd syth a throellog yn fwy peryg o lawer na ffordd ddeuol ‘undonog’.
Mae’r map yma gan y BBC sy’n dangos lleoliad pob marwolaeth ar y ffyrdd rhwng
1999 a 2010 yn awgrymu’n gryf fod nifer anghymesur yn digwydd ar ffyrdd cefn
gwlad troellog.
Rydw i wedi galw’r blog yma yn ‘asgwrn
cefn’ am ddau reswm. Yn gyntaf am fy mod i’n credu y byddai’r ffordd ddeuol yn
fath o ‘asgwrn cefn’ fyddai yn cryfhau Cymru. Ac yn ail oherwydd y byddai angen
rhywfaint o asgwrn cefn ar Lywodraeth Cymru i’w gomisiynu!
Os nad ydych chi eisoes wedi eich argyhoeddi, dyma rai traffyrdd llawer mwy uchelgeisiol o bob cwr o'r byd:
Traffordd 1 Awstralia,
Traffordd Traws-Siberia, a
Thraffordd Traws-Canada.
Llwybr
y ffordd
Y dewis mwyaf amlwg i Lywodraeth Cymru
fyddai adeiladu ffordd ddeuol ar hyd llwybr presennol yr A470. Byddai yn rhai
adeiladu ffyrdd osgoi o amgylch ambell i dref wrth gwrs. Ond byddai hyn yn
darparu llwybr gweddol hwylus o Gaerdydd i Landudno. Fe fyddwn i’n ddigon hapus
â hyn.
Mae’r cynlluniau eraill ychydig yn fwy
uchelgeisiol, ac yn golygu creu ffordd gyfan gwbl newydd. Yn hytrach na mynd
drwy dir uchel gogledd Cymru fe fyddai yn cymryd mantais o’r tir isel ar yr
arfordir er mwyn creu llwybr uniongyrchol o’r de ddwyrain i’r gogledd orllewin.
Fe fyddai’r cynllun yma’n siŵr o fod yn
un dadleuol am ei fod yn golygu adeiladu pont ar draws tri aber ar hyd arfordir
y gorllewin. Ond rhaid cofio fod pontydd eisoes yn bodoli ar hyd dau o’r
aberoedd hyn. Mae pont ffordd (cul iawn) a thrên yn croesi’r dyfroedd rhwng
Penrhyndeudraeth a Thalsarnau ac mae pont trên yn croesi’r aber rhwng y Bermo a
Llwyngwril. Byddai croesi’r aberoedd hyn yn golygu fod ffordd llawer mwy
uniongyrchol o Aberystwyth i Borthmadog, a gelir gwneud y ffordd o Borthmadog i
Fangor yn ffordd ddeuol gan gysylltu â ffordd ddeuol yr A55, gan ychwanegu
ffordd osgoi ar gyrion Caernarfon.
Elfen ddadleuon arall yn y cynllun yma yw
y byddai yn golygu croesi ‘Anialwch Cymru’ yn y canolbarth. O ystyried fod yr
anialwch hwn ar fin gael ei hagru gan filoedd o dyrbinau gwynt beth bynnag,
efallai na fyddai un ffordd ddeuol ar ei draws yn gwneud cymaint â hynny o
wahaniaeth i naws y lle. Serch hynny mae yna drydydd opsiwn ar gael:
Mae’r cynllun yma i bob pwrpas yn cysylltu
diwedd ffordd ddeuol yr A48, ffordd ddeuol sy’n estyniad o’r M4, â
dechrau’r A55 ym Mangor. Fe fyddai hefyd yn creu ffordd osgoi i Lambed ac
Aberystwyth.
Dim ond syniadau yw’r rhain er mwyn
sbarduno trafodaeth wrth gwrs a petai'r cynlluniau i adeiladu ffordd ddeuol yn
cael eu dilysu dw i’n siŵr y byddai llwybrau amgen yn cael eu cynnig!
O.N. Os rhoi'r pwyslais ar ffyrdd o'r
dwyrain i'r gorllewin, pam ddim creu ffordd o safon o Aberystwyth a chanolbarth
Cymru i'r ail ddinas fwyaf ym Mhrydain, sef Birmingham? Ar ôl gorffen y ffordd
o’r de i’r gogledd, fe ddylai hyn fod yn flaenoriaeth!