Nofel newydd ar y ffordd – Dadeni

Rwy’n falch o gyhoeddi y bydd nofel newydd gen i yn cael ei chyhoeddi yn y gwanwyn. Dadeni fydd fy nhrydedd nofel, ar ôl Igam Ogam yn 2008 a’r Argraff Gyntaf yn 2010. Rydw i wedi bod yn gweithio ar y nofel am flynyddoedd lawer, ond roedd tri o blant bach, PhD a dechrau swydd newydd mwnn maes cwbl wahanol wedi fy atal rhag ysgrifennu'n greadigol am y tro. Diolch i fwrsariaeth gan Lenyddiaeth Cymru cefais gyfle i gwblhau’r gwaith y llynedd, a diolch i'r Lolfa fe fydd yn cael ei chyhoeddi.

Dyma rai manylion pellach:

Pan aiff lladrad yn nhŵr Llundain o’i le, caiff yr archeolegydd Bleddyn Cadwaladr a’i fab Joni Teifi eu galw i ddatrys yr achos. Ond mae’r hyn y maent yn ei ddarganfod ar safle’r drosedd yn eu gwthio i ganol rhyfel am einioes Cymru sy’n ymestyn yn ôl miloedd o flynyddoedd. Wrth i rymoedd tywyll fygwth y Senedd Cymru, mae’r ddau yn wynebu ras yn erbyn amser i ddod o hyd i grair dinistriol a all newid cyfeiriad hanes y genedl.

Nid dyma’r clawr swyddogol ond poster a greais i’n photoshop er mwyn hyrwyddo’r nofel - nes bod dylunydd profiadol yn creu clawr go iawn:



Fel ydych chi’n gallu ei ddyfalu wrth edrych ar y darlun, mae yna bwyslais ar wleidyddiaeth a chwedloniaeth Cymru yn y nofel gyffrous hon - fy hoff bynciau!


Fe wna i flogio ychydig yn rhagor am Dadeni dros y misoedd nesaf, wrth i'r dyddiad cyhoeddi agosáu. Yn y cyfamser, croeso i chi ddilyn y ffrwd Twitter.

Comments