Sut fyddai Cymru 30 etholaeth yn edrych?

Rwy’n ysgrifennu nofel newydd ar hyn o bryd o’r enw Dadeni, a fydd yn cael ei chyhoeddi gan y Lolfa y flwyddyn nesaf.

Mae tua hanner y nofel wedi ei gosod yng Nghaerdydd ac mae’n ymwneud i raddau helaeth â’r Senedd a gwleidyddiaeth Cymru. Mae gwleidyddion, gan gynnwys Aelodau Cynulliad, ymysg y prif gymeriadau.

Er bod y nofel wedi ei gosod yn y presennol mae mewn fersiwn amgen o'r Gymru fodern lle mae’r system etholiadol ychydig yn fwy cyfrannol.

Yn hytrach na bod 40 Aelod Cynulliad yn cael eu hethol i gynrychioli etholaethau, a 20 yn cael eu hethol i gynrychioli rhestrau rhanbarthol, mae yna 30 AC etholaeth a 30 AC yn cael eu hethol ar y rhestrau rhanbarthol.

Er mwyn sicrhau cysondeb drwy gydol y nofel rydw i wedi creu map o’r etholaethau a fydd yn ymddangos ynddo. Rydw i wedi defnyddio ystadegau'r Comisiwn Ffiniau er mwyn sicrhau eu bod yn agos o ran maint.

Dyma'r etholaethau. Mae'r lliwiau er mwyn eu gwahaniaethu yn unig. Nid ydynt yn dynodi pa blaid sydd wedi cipio'r sedd!




Mae yna bum rhanbarth, a bob un yn cynnwys chwe etholaeth, ac mae yna chwe Aelod Cynulliad rhanbarthol hefyd yn cael ei ethol i gynrychioli bob un:


Mae’r Comisiwn Ffiniau ar hyn o bryd yn brysur yn ceisio torri niferoedd etholaethau etholiadau San Steffan Cymru i 29. Rwy’n credu y byddai yn syniad gwell eu torri i 30 er mwyn osgoi dryswch â’r Cynulliad.

Mae croeso iddyn nhw ddefnyddio’r map yma os ydyn nhw eisiau!

Er diddordeb, dyma’r seddi a phwy sy’n meddu arnynt ar ddechrau’r nofel.

Llafur = 26 sedd

Ceidwadwyr = 11 sedd

Plaid Cymru = 10 sedd

UKIP = 10 sedd

Democratiaid Rhyddfrydol = 3 sedd

Rhanbarth Gogledd Cymru

Ynys Môn ac Arfon - Llafur
Arfordir Gogledd Cymru – Y Ceidwadwyr
Clwyd – Y Ceidwadwyr
Flint a Rhuddlan - Llafur
Alyn a Glannau Dyfrdwy - Llafur
Wrecsam - Llafur

Seddi rhestr

1.      Plaid
2.      Plaid
3.      UKIP
4.      UKIP
5.      Ceidwadwyr
6.      Llafur

Rhanbarth Canolbarth Cymru

Gogledd Powys  - Ceidwadwyr
Bae Ceredigion  - Plaid
Caerfyrddin a Llanelli - Plaid
Dwyrain Caerfyrddin a De Powys - Ceidwadwyr
Gwynedd - Plaid
De Sir Benfro - Y Ceidwadwyr

Seddi rhestr

1.      Llafur
2.      Llafur
3.      Llafur
4.      UKIP
5.      UKIP
6.      Dems Rhydd

Rhanbarth Gorllewin De Cymru

Pen-y-bont ar Ogwr - Llafur
Gŵyr - Llafur
Port Talbot a Masteg - Llafur
Dwyrain Tawe a Chastell-Nedd - Llafur
Gorllewin Abertawe - Llafur
Bro Morgannwg – Llafur

Seddi Rhestr

1.      Plaid
2.      Plaid
3.      Dems Rhydd
4.      Ceidwadwyr
5.      UKIP
6.      UKIP

Rhanbarth Canol De Cymru

De Ddwyrain Caerdydd - Llafur
De Orllewin Caerdydd - Llafur
Gogledd Ddwyrain Caerdydd - Llafur
Gogledd Orllewin Caerdydd - Llafur
Rhondda - Llafur
Cwm Cynon – Llafur

Seddi Rhestr

1.      Plaid
2.      Plaid
3.      Ceidwadwyr
4.      Ceidwadwyr
5.      UKIP
6.      UKIP

Rhanbarth Dwyrain De Cymru

Blaenau Gwent - Llafur
Merthyr Tudful - Llafur
Caerffili - Llafur
Sir Fynwy - Y Ceidwadwyr
Casnewydd - Llafur
Torfaen – Llafur

Seddi Rhestr

1.      UKIP
2.      UKIP
3.      Ceidwadwyr
4.      Plaid
5.      Dems Rhydd
6.      Llafur

Comments