Gwrthrychedd honedig y Frenhines



Un o ddadleuon pennaf y rheini sydd am gadw’r Frenhines yn bennaeth ar y wladwriaeth yw nad yw hi’n ymyrryd â gwleidyddiaeth mewn unrhyw ffordd. 

Hynny yw, mae’r Frenhines yn cau ei cheg ac yn dweud dim heblaw am ryw eiriau gwag adeg Dolig. Llawer gwell na chael arlywydd ymyrgar, medden nhw.

Mae’r stori, neu’r ‘ymddiheuriad’, gan y BBC heddiw yn un rhyfedd. Maen nhw’n ymddiheuro oherwydd bod y gohebydd Frank Gardner wedi  datgelu manylion trafodaeth rhyngddo ef a’r Frenhines ar Radio 4. 

Roedd y Frenhines wedi dweud wrtho ei bod hi wedi rhoi pwysau ar gyn-ysgrifennydd gwladol i sicrhau bod Abu Hamza yn cael cic allan o’r wlad. 

Er gwaetha’r ymddiheuriad, mae hyn yn PR gwych i’r Teulu Brenhinol, wrth gwrs. Mae’r Frenhines wedi ei dal – red handed – yn cefnogi alltudio un o’r dynion mwyaf amhoblogaidd yn y wlad.

Ond mae’r stori yn datgelu rhywbeth mwy sinistr hefyd. Sef nad yw’r Frenhines yn cau ei cheg wedi’r cwbl. Mae hi’n barod iawn i geisio dylanwadu ar ohebydd dylanwadol, ac ysgrifennydd gwladol - heb anghofio ei chyfarfod wythnosol â’r Prif Weinidog.

Felly beth sydd gennym ni fan hyn yw’r BBC yn ymddiheuro am feiddio datgelu sylwadau pennaeth y wladwriaeth, un sy’n honni bod yn gwbl wrthrychol ym mhob ffordd.

Yn fy nhyb i, mae yna rywbeth sinistr iawn am y ‘confensiwn’ yma sy’n cuddio dylanwad y Frenhines. Rydyn ni’n gwybod bod y Tywysog Charles wrth ei fodd yn ymyrryd, hefyd. A fydd yr un ‘confensiwn’ yn ei warchod ef?

Yn bersonol fe fyddai yn well gen i gael Arlywydd ymyrgar – o leiaf fe fydden ni’n gwybod pan mae’n gwthio ei big i mewn.

Comments

  1. Yn hollol. Dw i'n methu deall pam mae angen i'r gohebydd 'ymddiheuro' am wneud ei waith. Os yw'r confensiwn yn gelwydd wedi'r cyfan (ac roedd yn un anodd iawn ei gredu beth bynnag), mae'n stori bwysig ac roedd yn ddyletswydd arno i'w thorri. Pam ddylai'r wasg drin Mrs Windsor yn wahanol i unrhyw ffigwr cyhoeddus arall?

    ReplyDelete
  2. Mewn llys y goron swydd y barnwr ydi ista'i mewn ar ran y cwin. Sut mae'r dyn yma yn mynd i gael achos teg rwan mae wedi'i ragfarnu?

    ReplyDelete
  3. Beth sydd eisiau nawr yw i bob un sydd wedi clywed barn gan frenhines Lloegr gyhoeddi'r ffaith a'r farn honno.

    ReplyDelete

Post a Comment