Un o ddadleuon pennaf y rheini sydd am gadw’r Frenhines yn
bennaeth ar y wladwriaeth yw nad yw hi’n ymyrryd â gwleidyddiaeth mewn unrhyw
ffordd.
Hynny yw, mae’r Frenhines yn cau ei cheg ac yn dweud dim
heblaw am ryw eiriau gwag adeg Dolig. Llawer gwell na chael arlywydd ymyrgar,
medden nhw.
Mae’r stori, neu’r ‘ymddiheuriad’, gan y BBC heddiw yn un
rhyfedd. Maen nhw’n ymddiheuro oherwydd bod y gohebydd Frank Gardner wedi datgelu manylion trafodaeth rhyngddo ef a’r
Frenhines ar Radio 4.
Roedd y Frenhines wedi dweud wrtho ei bod hi wedi rhoi
pwysau ar gyn-ysgrifennydd gwladol i sicrhau bod Abu Hamza yn cael cic allan o’r
wlad.
Er gwaetha’r ymddiheuriad, mae hyn yn PR gwych i’r Teulu
Brenhinol, wrth gwrs. Mae’r Frenhines wedi ei dal – red handed – yn cefnogi alltudio
un o’r dynion mwyaf amhoblogaidd yn y wlad.
Ond mae’r stori yn datgelu rhywbeth mwy
sinistr hefyd. Sef nad yw’r Frenhines yn cau ei cheg wedi’r cwbl. Mae hi’n
barod iawn i geisio dylanwadu ar ohebydd dylanwadol, ac ysgrifennydd gwladol -
heb anghofio ei chyfarfod wythnosol â’r Prif Weinidog.
Felly beth sydd gennym ni fan hyn yw’r
BBC yn ymddiheuro am feiddio datgelu sylwadau pennaeth y wladwriaeth, un sy’n
honni bod yn gwbl wrthrychol ym mhob ffordd.
Yn fy nhyb i, mae yna rywbeth sinistr iawn
am y ‘confensiwn’ yma sy’n cuddio dylanwad y Frenhines. Rydyn ni’n gwybod bod y
Tywysog Charles wrth ei fodd yn ymyrryd, hefyd. A fydd yr un ‘confensiwn’ yn ei
warchod ef?
Yn hollol. Dw i'n methu deall pam mae angen i'r gohebydd 'ymddiheuro' am wneud ei waith. Os yw'r confensiwn yn gelwydd wedi'r cyfan (ac roedd yn un anodd iawn ei gredu beth bynnag), mae'n stori bwysig ac roedd yn ddyletswydd arno i'w thorri. Pam ddylai'r wasg drin Mrs Windsor yn wahanol i unrhyw ffigwr cyhoeddus arall?
ReplyDeleteMewn llys y goron swydd y barnwr ydi ista'i mewn ar ran y cwin. Sut mae'r dyn yma yn mynd i gael achos teg rwan mae wedi'i ragfarnu?
ReplyDeleteBeth sydd eisiau nawr yw i bob un sydd wedi clywed barn gan frenhines Lloegr gyhoeddi'r ffaith a'r farn honno.
ReplyDelete