Faint sy’n darllen? Neb!

Nol ym mis Medi sgwennais i gofnod yn holi faint oedd yn darllen blogiau Cymraeg mewn gwirionedd. Dw i erioed wedi cadw cofnod Google Analytics ar y blog yma ond sylwais i heddiw bod Blogger bellach wedi ychwanegu teclyn ‘Stats’ tebyg i’r un ar Wordpress sy’n caniatáu i unrhyw un sydd eisiau gweld y ffigyrau wneud hynny heb orfod gludo ryw ddarn afrosgo o gôd cyfrifiadurol i mewn i’w templed.

Beth bynnag, ar ôl cwyno bod angen gwneud mwy o ffws ynglŷn â faint sy’n darllen blogiau  Cymraeg dyma fi’n penderfynu bod yn gwbl agored a chynnwys ‘hit counter’ yn y seidbar.

A’r ateb i’r cwestiwn, ‘faint sy’n darllen’? Wel, neb. Zip. Nil. Nada. Dim ond 1,000 o ymwelwyr sydd wedi bod ar y blog yma mewn blwyddyn a hanner! Mae gwefan Golwg yn cael mwy na hynny cyn 9am bob bore!

Bah. Angen diweddaru bach amlach o hyn ymlaen dwi’n meddwl...!

Comments

  1. Blogio'n aml a dweud rhywbeth sy'n troi'r drol efo rhywun neu'i gilydd pob hyn a hyn fyddai fy awgrym i Ifan.

    ReplyDelete
  2. Cytuno´n llwyr. Teitl da yn helpu hefyd - yn enwedig dywediad o ryw fath achos bydd pobl yn cyrraedd y blog wrth chwilio am rywbeth arall. Ac os yw'n ddiddorol fe ddychwelan nhw.

    ReplyDelete

Post a Comment