A ddylen ni falio am y darllenwyr?

Kate Roberts
Rydw i wedi bod yn darllen Rhwng Gwyn a Du gan Angharad Price yr wythnos yma. Mae’r llyfr yn ymwneud yn bennaf gyda derbyniad Seren Wen ar Gefndir Gwyn gan Robin Llywelyn pan gafodd y nofel ei ryddhau yn Eisteddfod Genedlaethol 1992.

Ar y pryd roedd yna ambell un yn chwyrn yn erbyn penderfyniad y beirniaid a roddodd y Fedal Ryddiaith i’r nofel, gan ddweud ei bod hi wedi ei hysgrifennu ‘er boddhad yr awdur – ynghyd â rhyw ddyrniad o feirniaid yn unig’.

Roedd hwnna’n fy atgoffa i o’r dyfyniad yma wnes i ddarllen wrth ysgrifennu traethawd yn y brifysgol:

“Swydd yr awdur, meddai [Kate Roberts], yw meddwl am y bobol y mae’n eu creu yn hytrach na’i darllenwyr a bod yn driw iddynt hwy. Pe rhoddai gwir artist funud o feddwl ar ei ddarllenwyr ni fyddai’n waeth iddo roi’r ffidil yn y to ddim.”

- Eigra Lewis Roberts, ‘Fel Trôr i Ffwrdd’ Llen y Llenor: Kate Roberts (1994, Gwasg Pantycelyn) Tud 114

Mae hwn yn gwestiwn sydd, mae’n siŵr, yn rhannol gysylltiedig gyda’r cofnod blaenorol ynglŷn â denu darllenwyr. I ba raddau y dylai nofelydd ysgrifennu er mwyn ei ddarllenwyr, ac i ba raddau y dylai ysgrifennu er ei fwyn ei hun?

Oes cyfrifoldeb ar rywun sy’n ysgrifennu yn y Gymraeg i ysgrifennu deunydd sy’n denu darllenwyr? Oes ganddo gyfrifoldeb i’r wasg sy’n buddsoddi mewn cyhoeddi’r nofel i ysgrifennu rywbeth sy’n mynd i werthu?

(Dylai rhywun sy’n cyhoeddi ar y we ysgrifennu er mwyn ei ddarllenwyr? Os na, pam cyhoeddi’r peth o gwbwl?)

Dw i ddim yn gwybod yr ateb i’r cwestiwn a dweud y gwir. Alla’i ddweud gyda fy llaw ar fy nghalon na wes i ysgrifennu Igam Ogam ar gyfer cynulleidfa am mai darn o waith cwrs oedd o, a doeddwn i ddim yn disgwyl i neb ond fy nhiwtor ei ddarllen. Doeddwn i heb ddisgwyl y byddai’n ennill Gwobr Goffa Daniel Owen ac y byddai’n cael ei gyhoeddi fel yr oedd. Pe bawn i’n gwybod hynny a fyddwn i wedi ysgrifennu nofel wahanol?

Ond gyda’r Argraff Gyntaf roeddwn i wedi cael fy nghomisiynu i ysgrifennu nofel a fydd yn cael ei chyhoeddi. Ac fe wnes i benderfyniad ymwybodol i ysgrifennu nofel yr oeddwn i’n meddwl y byddai pobol yn ei fwynhau. Efallai wrth edrych yn ôl a gallu ail-ddarllen y nofel o’r newydd fe fydd hi’n bosib i fi weld sut effeithiodd hynny ar y gwaith.

Dwi’n credu mai’r unig beth all awdur ei wneud ydy ysgrifennu er mwyn ei bleser ei hun a gobeithio y bydd unrhyw beth sy’n hwyl iddo ef neu hi ei ysgrifennu yn hwyl i’w ddarllen hefyd.

Dyna wnaeth Robin Llywelyn – a Seren Wen ar Gefndir Gwyn yw un o fy hoff nofelau erioed.

Comments

  1. Mond rhyw chwe mis yn ol y darllenais i Seren Wen ar Gefndir Gwyn - digwydd ei weld mewn ffiar lyfrau ail-law Cymdeithas yr Iaith wnes i. Wyddwn i ddim am y llyfr cynt. Dw i'n falch i mi wneud achos wne si ei fwynhau'n fawr iawn.

    Mae enwau defnyddiwyr rhai o aelodau maes-e yn wenud sens rwan.

    Roedd hiwmor y llyfr yn gret (yn enwedig enwau'r cymeriadau), anaml iawn fydda i'n piffian chwerthin wrth ddarllen llyfr. Aeth y stori bach yn ddifflach jyst cyn diwedd, ond digon i fi beidio ei fwynhau.

    Pan dw i'n breuddwydio am Gymry rydd, dw i'n gweld conventions Seren Wen ar Gefndir Gwyn yn CIA Caerdydd a lot o bobl od (fi falle?) yn gwisgo fyny fel Pererin Byd a Tincar Shaffrwm.

    ReplyDelete
  2. Rydw i'n meddwl bod rhaid i'r awdur fod yn ymwybodol o'r darllenwr i ryw radd. Os mae awdur yn ysgrifennu ar gyfer fe ei hunan yn unig, pam cyhoeddi? Wrth gyhoeddi rhywbeth rydw i'n gobeithio y bydd pobl eisiau ei brynu, ac yn sgil hynny mae rhyw fath o berthynas yno. Mae rhyw fath o ddyletswydd i'r person sy'n darllen. Ond faint o sylw ydy'r perthynas 'na yn haeddu? Wn i ddim. Mae'n gwestiwn da. Byddwn i'n dweud 'mod i'n ysgrifennu gydag amcan o gyrraedd a diddori pobl sy'n debyg i fy hunan mewn ffordd. Efallai bod hynny'n fel ysgrifennu ar gyfer fi fy hunan, ond nid yr un peth.

    ReplyDelete
  3. Os mae awdur yn ysgrifennu ar gyfer fe ei hunan yn unig, pam cyhoeddi?

    Pam gwneud unrhywbeth greadigol o gwbl felly? Ai plesio pobl eraill yw diben celf?

    ReplyDelete

Post a Comment