Ffiniau Cymru Hyper-leol

Roeddwn i mewn cynhadledd ar newyddion hyper-leol yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Teithiais yno yn awyddus i weld a fyddai yna unrhyw beth yn cael ei ddweud a fyddai yn newid fy meddwl ers i mi ysgrifennu'r darn barn yma ar wefan Ffrwti y llynedd.

Yn anffodus yr argraff a gefais oedd bod llawer o'r cyffro a'r hyder a oedd yn perthyn i newyddion hyper-lleol pan fynychais gynhadledd debyg yn ôl yn 2012 bellach wedi diflannu.

Y broblem yn y bôn oedd sut oedd ariannu'r mentrau yma. Doedd neb eto wedi dod o hyd i fodd o wneud hynny, y tu hwnt i werthu hysbysebion drwy argraffu copïau printiedig. O ystyried mai cymryd lle papurau lleol a oedd yn prysur edwino oedd y bwriad i ddechrau, doedd hyn ddim yn llenwi dyn â llawer o hyder.

Un syniad diddorol, a arddelwyd gan wefan o'r enw The Bristol Cable oedd codi arian ymysg aelodau o'r gymuned a oedd am hybu newyddiaduraeth ymchwiliadol yn yr ardal. Ond symiau eithaf bychain oeddynt yn eu trafod mewn gwirionedd - dim digon o gadw newyddiadurwr proffesiynol mewn gwaith llawn amser.

Bydd angen llawer o feddwl ac arbrofi er mwyn dod o hyd i fodel busnes sy'n golygu bod newyddion hyper neu dra-leol yn gynaliadwy.

Doedd dim trafodaeth am y Gymraeg yn y gynhadledd, a oedd efallai yn gyfle wedi ei golli o ystyried hanes Papurau Bro yma a gwefannau megis Clonc360.

Cymru Hyper-leol

Cododd un drafodaeth ddiddorol ag ongl Gymreig iddi ar Twitter, serch hynny, sef beth fyddai ffiniau ardaloedd hyper-lleol yng Nghymru.

Digwydd bod yn ôl yn 2009, cyn lansio gwefan Golwg 360, fe dreuliwyd ychydig o amser yn pendroni'r union gwestiwn hwnnw.

Y bwriad i ddechrau oedd y byddai unigolion a oedd yn ymweld â'r wefan yn gallu dewis 'ardal' a chael newyddion oedd wedi ei deilwra iddyn nhw eu hunain.

Yn anffodus oherwydd problem dechnegol wrth lansio'r wefan roedd rhaid symleiddio rywfaint ar yr hyn a oedd ar gael.

Rwyf hefyd yn amheus a fyddai'r newyddiadurwr druan wedi gallu creu digon o gynnwys i gynnal 51 o ardaloedd gwahanol!

Gan fy mod i bellach yn ymchwilio i hanes y wasg yng Nghymru rwy'n effro i'r angen i gadw deunydd ar gyfer haneswyr y dyfodol.

Hyd y gwn i dim ond ar fy hen liniadur mae'r map yma bellach yn bodoli, felly roeddwn i'n meddwl y dylwn i ei roi ar-lein yn rywle.

Yn ôl un o gyflwynwyr y gynhadledd roedd trigolion Llundain yn ystyried unrhyw beth o fewn tair milltir iddyn nhw eu hunain yn 'hyper-leol'.

Yng Nghymru rwy'n credu bod yr ardaloedd ychydig yn fwy.

Greddf newyddiadurol Dylan Iorwerth sy'n gyfrifol am faint a siâp yr ardaloedd.

Es i ati wedyn i'w lunio allan o hen lyfrau cod post, cyn sganio a gludo popeth at ei gilydd yng nghrombil y cyfrifiadur.




Dylai bod modd i chi glicio arno neu ei lawrlwytho i weld pob manylyn.

Comments

  1. Dwi'n cymyd na 51 ardal o'r papurau bro sydd ar gael? O'm mhrofiad i, mae'r system o godau post yn gweithio'n reit dda. Oherwydd pwysigrwydd Abergele fel tref farchnad gyda swyddfa post mawr ei hun, mae'r cod post LL22 yn mynd cyn belled a Pandy Tudur, sydd ddim yn bell o Lanrwst (fel sydd i'w weld ar y map). Yn ogystal a hyn, mae'n digon rhesymol dweud bod Abergele a'r Rhyl yn rhannu nifer o'r un newyddion.

    Er bosib yn her reit fawr creu digon o gynnwys i 51 ardal penodol, buaswn yn dweud bod modd e.e. creu 51 ardal yn ôl y papurau bro, ond hefyd ail-adrodd rhai straeon i mewn mwy nac un ardal. Gellir cyfuno papurau bro Y Glannau (Glannau Clwyd a gwaelod y dyffryn) ac Y Gadlas (Y fro rhwng dyffrynoedd Conwy a Chlwyd). Buasai newyddion o'r Rhyl (Y Glannau) fod yn berthnasol i drigolion Llanfair Talhaiarn (Y Gadlas), ond ddim i drigolion Pandy Tudur (Y Gadlas), er eu bod bron iawn o fewn LL22 i gyd.

    ReplyDelete
  2. Difyr. Heb fynd i ddadlau dros y ffiniau, mae llwyddiant (yn Saesneg) Wrexham.com yn enghraifft o sut y gall safleoedd hyper-lleol ymdreiddio i'r psyche lleol. Mae'r heddlu a phawb yn cyfeirio at @wrexham yn eu trydariadau a phob damwain a 'tailback' ar yr A483 ar y wefan yn gynt na gwefannau swyddogol. Mae'r wefan yn cyflogi aelod o staff er dwi'm yn gwybod faint o incwm sy'n dod yn uniongyrchol o'r wefan ei hun, gan fod o'n rhan o gwmni IT mwy. Debyg y byddai @ynysmon @bangor @arfon neu @aber yn gweithio cystal efo'r brwdfrydedd iawn.
    Un peth difyr i nodi - dydi print ddim yn farw, yn sicr o ran hysbysebion. Mae'r cwmni Herald yn profi hynny.

    ReplyDelete

Post a Comment