Hir Oes i’r Cymry Taeog!


"Dylwn i fod wedi aros adref!"
Mae fy ffrwd Twitter wedi ffrwydro â chynddaredd unwaith eto wrth i garfan o gyd-Gymry dderbyn cael eu hurddo yn aelodau o’r Ymerodreath Brydeinig. Efa Gruffudd Jones oedd yn ei chael hi ryw chwe mis yn ôl, ond nawr Cerys Matthews sydd wedi ei dal hi gan y Twitterati. ‘Every day, when I wake up, I thank the Lord I’m British?’

Dywed Adam Price mewn trydariad heddiw:

Testun trueni yw gweld mawrion ein cenedl yn ildio un ar ol y llall i wobrwyon y Sefydliad Brydeinig. Ble ar y ddaear mae'n hunan-barch?

Serch hynny mae hanes ein cenedl yn awgrymu bod gennym ni le i ddiolch i’r Cymry di-asgwrn cefn yn ein plith. Gellid dadlau na fyddai ein hiaith a’n diwylliant ni’n bodoli heddiw pe na bai’r Cymry mor tu hwnt o liprynnaidd. Wele er enghraifft y modd y cafodd y Cymry eu trin yn y canol oesoedd o’u cymharu â’r Gwyddelod a’r Albanwyr. Oherwydd bod Cymru wedi ymostwng mor barod i ewyllys coron Lloegr, ni aethpwyd ati i geisio dinistrio’r iaith frodorol â’r un eiddgarwch ac a welwyd yn y gwledydd rheini. Mae’r hanesydd Victor Durkacz wedi dadlau bod yr iaith Gymraeg wedi goroesi’r oesoedd canol yn rhannol oherwydd nad oedd ganddi unrhyw gysylltiad â gwrthryfel yn yr un modd a’r Aeleg neu’r Wyddeleg, ac felly na wnaeth Lloegr drafferthu ceisio ei difa. Yn ôl Richard Suggett, Eryn M. White a Geraint H. Jenkins ystyrir Cymry yn dalaith fach deyrngar a diffwdan gan Loegr yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd y Ddeddf Uno yn ymdrech amlwg i geisio integreiddio Cymru yn ieithyddol a diwylliannol i Loegr - ond ni chafodd ryw lawer o effaith. Doedd dim cymaint â hynny o angen llywodraethu gwlad mor dawel a diffwdan a Chymru, mewn unrhyw iaith. Drwy gadw eu pennau i lawr, fe oroesodd y Cymry.

Mae’r un peth yn wir wrth ystyried Oes Fictoria. Er bod y Llyfrau Gleision yn datgelu bod agwedd y wladwriaeth Brydeinig at y Gymraeg yn parhau yn hollol wrthwynebus, ni wnaethpwyd ryw lawer o ymdrech i geisio cael gwared ohono. Efallai eu bod nhw’n ystyried y Cymry yn ddigon abl i ddifodi eu hiaith eu hunain. Roedd y Cymry wedi gwirion ar yr ymerodraeth a’r dyfodol llewyrchus yr oedd yn ei gynnig iddynt. Roedd yr Eisteddfod yn cynnal cystadlaethau ar sut orau i ddefnyddio’r ŵyl fel modd o ledaenu’r Saesneg. Roedd yr Ymneilltuwyr Cymraeg yn talu i godi capeli Saesneg o’u pocedi eu hunain ar gyfer twristiaid a newydd ddyfodiaid, ac yn gyrru addolwyr Cymraeg iddynt er mwyn cynyddu’r niferoedd. Mae’n wir fod ambell un o arweinwyr Cymreig y cyfnod wedi dadlau y byddai dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgolion yn syniad da - ond fel modd o hwyluso’r broses o  drosglwyddo’r Saesneg i’w plant. Teimlai gwladgarwyr megis Michael D Jones yr angen i yrru ei gyd-Gymry ymaith i Batagonia a dechrau o’r newydd. ‘Cymru lân, Cymru lonydd’ oedd ein gwlad, ‘gwlad y menig gwynion’, oedd yn cymryd balchder mawr yn eu teyrngarwch i’r wladwriaeth Brydeinig. Rywsut, er gwaethaf ymdrechion taer y Cymry eu hunain, fe oroesodd yr iaith.

Fel cnofil sy’n cymryd arno ei fod wedi marw fel bod cath yn gadael llonydd iddo, llwyddodd iaith a diwylliant y Cymry i osgoi bod yn unrhyw fath o fygythiad i’r Saeson nes bod yr Ymerodraeth Brydeinig wedi mynd a’i phen iddi. Brwydrodd y Gwyddelod a’r Alban yn ôl, ac er bod un wlad yn annibynnol, a’r wlad arall yn ymylu ar fod felly, mae eu hieithoedd bron a bod wedi eu difa fel ieithoedd cyntaf, byw.

Wrth gwrs dyw’r un wlad yn mynd i selio ei ‘myth’ cenedlaethol ar ei gallu i gadw ei phen i lawr ac osgoi cythruddo unrhyw un arall. Fe fyddai yn well gennym ni edrych yn ôl at Owain Glyndŵr, a Llywelyn ein Llyw Olaf, ac arweinwyr eraill - ond onid y cyfan y llwyddon nhw i’w gyflawni oedd tynnu nyth cacwn i’w pennau? Beth am gymryd y cyfle yn lle i ddiolch i Cerys Matthews ac MBEs eraill y byd yma am blygu glin i’r Cwîn - efallai y cawn ni ganiatâd i siarad y Gymraeg am ychydig flynyddoedd eto! :P

Comments

  1. Fe ellir dadlau fod pethau yn newid hefo'r Tuduriaid.

    ReplyDelete
  2. Diolch am y blog. Mae llawer o wir yn yr uchod. Ond mae'n deg nodi bod y Llyfrau Gleision (a wnaeth gymaint o ddrwg i'r Gymraeg) yn gynnyrch ofnau bod tueddiadau chwyldroadol yn cael eu swcro gan y Gymraeg yn ystod y 1830au a'r 1840au (e.e. Tarw Scotch, Terfysg Merthyr, Beca, Siartwyr). Erbyn yr 1860au, roedd yr ofnau hynny wedi hen gilio.

    ReplyDelete

Post a Comment