Ebargofiant


Bron i ddeg mlynedd yn ôl taniwyd fy niddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg wedi i mi gael benthyg y nofel Seren Wen ar Gefndir Gwyn gan un o'm ffrindiau. Doeddwn i heb ddarllen nofel Gymraeg ers blynyddoedd cyn hynny - ers dyddiau Cysgod y Cryman ac yr ‘Stafell Ddirgel yn yr ysgol uwchradd. Doedd cylch fy narllen yn Saesneg ddim yn arbennig o eang chwaith - fe fûm i’n byw ar ddiet melys o nofelau Terry Pratchett ac ambell i awdur ffantasi arall ers blynyddoedd. Ond roedd Seren Wen ar Gefndir Gwyn, gan Robin Llywelyn, wedi dal fy nychymyg yn syth. Roedd yn helpu wrth gwrs ei fod yn nofel ffantasi / ffuglen wyddonol o’r math yr oeddwn i eisoes yn ei fwynhau. Ond yn fwy na hynny fe wnaeth i mi sylweddoli fod yna bethau i’w mwynhau yn Gymraeg nad oedd ar gael yn Saesneg - ni fyddai Seren Wen ar Gefndir Gwyn wedi gallu bodoli mewn unrhyw iaith arall. Roedd y Gymraeg tafodieithol yn gymeriad yn y nofel i’r un graddau a Gwern Esgus, Siffrwd Helyg a'r lleill.

Rydw i wedi parhau i ddarllen a mwynhau, ac hyd yn oed ceisio ysgrifennu, nofelau Cymraeg ers hynny.

Mae Ebargofiant yn nofel arall hollol unigryw. Cefais fy atgoffa o Seren Wen ar Gefndir Gwyn sawl gwaith wrth ei darllen - yn bennaf am ei bod, yn y bôn, yn nofel ddigon hwyliog yn llawn cymeriadau hoffus, a’i bod yn yr un modd yn ryw fath o gymysgedd o ffantasi a ffuglen wyddonol.

Un peth arall sydd gan y nofel yn gyffredin â Seren Wen yw y bydd nifer o ddarllenwyr yn cael trafferth ei deall hi ar y dechrau. Derbyniad digon cymysg a gafodd Seren Wen - er gwaetha’r ffaith bod beirniaid y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod 1992 wedi dweud ei bod yn gampwaith - a hynny oherwydd ei bod wedi ei ysgrifennu mewn tafodiaith ogleddol. (Mae yna grynodeb da iawn o’r hanes yn Rhwng Gwyn a Du: Agweddau Ar Ryddiaith Gymraeg Y 1990au, gan Angharad Price.)

Os oedd pobl yn cael trafferth deall tafodiaith Seren Wen, hoffwn i weld eu hymateb i Ebargofiant! Mae’n gymysgedd o dafodiaith ac orgraff anghyffredin. Mae yna rifau yn gymysg â geiriau, geiriau mewn rhes heb fylchau rhyngddyn nhw, a’r holl eiriau ac enwau gwneud y mae rhywun yn eu disgwyl mewn nofel ffuglen wyddonol. Mae’n debyg bod y Cyngor Llyfrau wedi awgrymu y dylai’r awdur ei gwneud yn haws ei darllen. Rwy’n falch na wnaeth hynny, ond rhaid cyfaddef fy mod i wedi straffaglu braidd drwy fwd y tudalennau cyntaf, gan ddarllen ac ail-ddarllen bob brawddeg gan geisio gwneud synnwyr ohonynt.


Wy yw’r nofel hon, gyda phlisgyn trwchus. Mae’n anodd torri drwy’r plisgyn allanol hwnnw, ond o ddyfalbarhau gellid cael mynediad at y melynwy hynod flasus y tu mewn. Erbyn rhyw chwarter ffordd drwy’r nofel, pan mae’r plot wir yn dechrau symud o ddifri, roedd y darllen yn dod yn ddigon rhwydd. Erbyn ei diwedd doeddwn i ddim hyd yn oed yn sylwi ar yr orgraff, heblaw bod yr awdur yn dewis tynnu sylw ati (ac mae’n rhan hollbwysig o’r plot a’r themâu canolog). Roedd yn fy atgoffa o ddysgu i ysgrifennu mewn llawrfer newyddiadurol - yr iaith oedd mor ddiarth i ddechrau, wedi troi’n ail natur yn fuan iawn.

Un peth a oedd o ddefnydd mawr i mi oedd darllen y geiriau yn uchel - fel yr hen fynachod yn eu sgriptoria - nes fy mod i wedi deall eu hystyr nhw. Cyn hir daeth yr iaith yn rhan annatod o wead y nofel ac yn rhan o’r pleser o ddarllen.

Dydw i ddim am ddweud gormod am y melyn wy sydd y tu mewn i’r plisgyn - y byd, y plot, y cymeriadau, a’r themâu. Digon yw dweud fy mod i’n torri bol eisiau trafod y cyfan gyda rhywun arall sydd wedi profi’r cyfan! Mae yna sawl dirgelwch o fewn y plot i gnoi cil arnynt, ac rwy’n credu y bydd y themâu canolog yn destun dehongli a thrafod am amser hir iawn.

Efallai bod hyn i gyd yn gwneud i’r nofel swnio fel pe bai’n waith hynod o galed – ond fel y dywedais i, mae’n  nofel hynod o hwyliog, ac yn ddoniol, hefyd. 

Fel Seren Wen, dyma nofel sydd wedi rhoi archwaeth newydd i mi am lenyddiaeth Gymraeg. Nofel hollol unigryw, na fyddai wedi gallu bodoli mewn unrhyw iaith arall.
 

Comments

  1. Mae eisiau rhywle i'w thrafod. Mewn byd cyfiawn byddai'r orgraff yn cael ei mabwysiadu fel iaith gyfrin gan grŵp isddiwylliant Cymraeg.

    ReplyDelete

Post a Comment