S4/Caerfyrddin?


Lle fydd S4C yn mynd?
Mae S4C wedi cyhoeddi ei bod yn ystyried symud rhai swyddi o Gaerdydd i naill ai Wynedd neu Sir Gaerfyrddin. (Hynny yw os na fydd Qatar wedi llwyddo i’w llwgrwobrwyo i symud yno ar y funud olaf).

Rydw i’n gallu uniaethu â phenderfyniad S4C. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ger Caernarfon, ond yn byw ger Caerfyrddin. Pam ddim symud y plant i’r gogledd i fod yn gofis Dre?

Wedi’r cwbl, er nad oes prinder Cymry Cymraeg i’w cael yma, mae’n amlwg bod yr iaith yn araf ddirywio. O fynd i lawr i siop y pentref dydw i’n aml ddim yn clywed acenion Cymreig heb son am yr iaith Gymraeg. Fe es i ag un o’r plant i ddiwrnod mabolgampau mudiad meithrin ychydig fisoedd yn ôl, a chael dipyn o sioc mai ni oedd yr o’r ychydig deuluoedd yno oedd yn siarad Cymraeg.

Oni fyddai yn haws symud y plant i fyny i Gaernarfon, felly, a sicrhau eu bod nhw’n cael eu magu mewn tref lle mae'r mwyafrif helaeth yn siarad Cymraeg?

Mae yna un ddadl amlwg yn erbyn, sef - pa obaith i’r Gymraeg yn yr ardal yma os yw’r Cymry Cymraeg yn codi pac ac yn symud oddi yma?

Dyna pam nad ydw i’n cytuno â dadl Cai dros symud S4C i Gaernarfon. Dydw i ddim yn dweud na ddylid symud S4C i Gaernarfon, ond dydw i ddim yn credu bod gwendid y Gymraeg yng Nghaerfyrddin yn rheswm dros beidio symud i'r dref honno – i’r gwrthwyneb a dweud y gwir.

Yn un peth, dydw i ddim yn credu bod cyflwr yr iaith yng Nghaerfyrddin mor ddu ag y mae Cai yn ei awgrymu. Fel y soniais uchod, dyw pethau ddim yn wych. Ond o ran niferoedd, os nad canran, mae yna lwyth o Gymry Cymraeg yma. Fe fûm i’n siopa yng Nghaernarfon ddoe ac yn siopa yng Nghaerfyrddin heddiw. Yng Nghaernarfon ges i wasanaeth Saesneg - yng Nghaerfyrddin heddiw, fe gefais i wasanaeth uniaith Gymraeg.

Byddai lleoli S4C yn yng Nghaerfyrddin yn hwb i’r iaith yno - nid yn y dref yn unig, ond yn yr ardal o boptu iddi. Fe fyddai yn denu nifer o Gymry Cymraeg i fyw, neu i aros,  yn yr ardal. Ac fe fydden nhw’n Gymry Cymraeg mewn swyddi da a chanddynt ddawn dweud -y math all ddylanwadu ar wleidyddion ac ar arferion ieithyddol pobl eraill yr ardal. Dydw i ddim yn dadlau y byddai lleoli S4C yno yn gwneud newid anferth i ddyfodol yr iaith - yn yr un modd nag yw lleoli’r Eisteddfod genedlaethol yn y sir  y flwyddyn nesaf yn mynd i wneud newid anferth i ddyfodol yr iaith. Ond dyw hynny ddim yn ddadl dros gynnal yr Eisteddfod yng Ngwynedd bob blwyddyn.

Ni fyddai diffyg Cymraeg yng Nghaerfyrddin yn atal S4C rhag ffynnu yno, chwaith - mae wedi ffynnu cyhyd yng nghanol Caerdydd, wedi'r cwbl.

Medd Cai: “Ond mae yna lefydd lle mae'r llif yn erbyn yr iaith mor gryf fel y byddai unrhyw effaith cadarnhaol yn cael ei foddi.  Mae tref Caerfyrddin ymysg y llefydd hynny... Y broblem efo tref Caerfyrddin ydi bod y Gymraeg yn marw yno...”

Y broblem efo’r ddadl yma ydi ei bod yr un mor gymwys yng nghyd-destun Cymru gyfan. Mae’r iaith Gymraeg yn marw yng Nghymru. Os ydyn ni’n fodlon gadael Caerfyrddin  i’w ffawd, does dim llawer o obaith i weddill y wlad. Nid ryw fath o Arch Noa sy’n mynd i gario’r iaith i borfeydd breision yw Caernarfon, Penygroes, a’r ychydig lefydd eraill lle mae’r mwyafrif yn siarad yr iaith. Os ydyn ni eisoes yn cilio yno ac yn derbyn nad oes dim y gellid ei wneud dros lefydd fel Caerfyrddin, mae wir wedi canu ar yr iaith.

Comments

  1. Dydi'r Gymraeg ddim yn marw yn llawer o weddill Cymru Ifan - mae'r proffil demograffaidd yn iach yn llawer o'r wlad yn yr ystyr bod mwy o bobl ieuengach yn siarad yr iaith na sydd o bobl mewn oed mawr. Dydi hynny ddim yn wir am lawer o Sir Gaerfyrddin - er fy mod yn derbyn bod y patrwm yn well yn rhai o'r llefydd gwledig o gwmpas tref Caerfyrddin.

    Un o'r prif resymau am sefyllfa'r Gymraeg yn Sir Gar ydi di faterwch ei chyngor sir. Does yna ddim arwyddion bod y di faterwch yna'n newid. Dydw i ddim yn dadlau y dylid gadael y Gymraeg yng Nghaerfyrddin i'w ffawd - dwi jyst yn dweud bod defnyddio rhywbeth sydd a'r potensial i hybu iaith yn wastraff mewn ardal lle mae'r ddemograffeg yn ei gwneud yn anochel y bydd y canrannau yn parhau i gwympo am ugain mlynedd o leiaf.

    ReplyDelete
  2. Rwy'n cytuno bod dirywiad mawr wedi bod yn Sir Gaerfyrddin - ond er bod y canran wedi syrthio'n bell mae'n parhau yn iachach na'r cyfartaledd yn genedlaethol. Dim ond yn Ynys Mon, Ceredigion a Gwynedd mae'r Gymraeg yn fwy iach. Os yw'r Gymraeg yn marw yng Nghaerfyrddin, mae wedi marw yn bron i bobman arall yng Nghymru. Os gadael Caerfyrddin i'w ffawd fe fyddwn ni'n gwneud yr un fath yng Ngheredigion mewn 10 mlynedd, Ynys Môn mewn 20... A bydd Morrisons Caernarfon ddim yn cael unrhyw ffwdan dod o hyd i staff mewn 30.

    ReplyDelete
  3. Dydw i ddim yn dweud na ddylai S4C fynd i Gaernarfon gyda llaw - mae yna ddadleuon cryf dros wneud hynny - dim ond dweud ydw i na ddylai cryfder yr iaith yno fod yn un ohonyn nhw.

    ReplyDelete
  4. Gwynedd neu Sir Gâr?

    Beth am gael talwrn y prifeirdd?

    a'r wobr fydde cael lleoliad newydd s4c - mewn pryd i'w plant gael swyddi !



    ReplyDelete
  5. Deud ydw i os mai cynllunio ieithyddol ydi'r nod nad ydyw'n gynllunio da i leoli'r sefydliad lle na chaiff fawr o effaith.

    ReplyDelete
  6. Faint o pobol mae S4C yn cyflogi 50-100. Fydd ychydig o cannoedd o siaradwyr dwyiethog yn dylnwadu diwylliant ardal. Fel Gog fyddwn awgrymu fydda cael mwy o dylanwad yn caerfyrddin na Caernarfon felly. Cytuno efo Ifan a'r pwint yma. Na fydda 200 o Groegwyr symud i ardal gwneud y lle mwy groegaidd!??!?!

    ReplyDelete
  7. Clywch, clywch. Mae yna dueddiad i orliwio dirywiad yr iaith yn yr ardal hon. Ond eto, mae Cai yn taro'r hoelen ar ei phen - difaterwch ac hyd yn oed gelyniaeth tuag at yr iaith yw nodweddion Cyngor Sir Gaerfyrddin.

    ReplyDelete
  8. Ond Cneifiwr a yw'r difaterwch hwnnw tuag at yGymraeg wir yn alewyrchu barn y boblogaeth? Mae yna fwy o gynghorwyr PC nag unrhyw grŵp arall. Tra bod trwch poblogaeth y sir yn parhau o blaid y Gymraeg ni ddylid rhoi'r ffidil yn y to.

    Cai does dim tystiolaeth na fyddai lleoli S4C yng Nghaerfyrddin yn cael effaith. Fe allet ti ddadlau bod gwendid y Gymraeg yn y sir yn golygu bod mwy o angen am hwb i'r iaith nag yng Nghaernarfon.

    Rwyt ti'n dweud bod yr ystadegau yn dangos dirywiad anorfod, ond maen nhw hefyd yn dangos bod canran uwch o bobl ifanc y sir yn siarad Cymraeg na bron i unrhyw ran arall o Gymru. Gallai symud S4C i'r ardal argyhoeddi y bobl ifan rheini bod yr iaith yn berthnasol y tu hwnt i'w dyddiau ysgol. Does dim angen perswadio disgyblion ysgolion Caernarfon bod yr iaith yn berthnasol yn yr un modd.

    ReplyDelete
  9. Y pwynt efo tref Caerfyrddin Ifan ydi bod y canrannau o blant sy'n siarad y Gymraeg yn is na chanran y pensiynwyr. Mae hyn yn sefyllfa anarferol yng nghyd destun Cymru gyfan. Mae dirywiad felly yn anorfod yn yr ardal honno - ddim am byth ond yn y dyfodol canolig - 20 mlynedd efallai. Dwi ddim yn dweud na fyddai yna ddim effaith o gwbl - ond yr hyn ti'n ei wneud ydi defnyddio adnodd sydd a photensial i greu cynnydd i liniaru ychydig ar ddirywiad. O safbwynt cynllunio ieithyddol mae hynny'n wastraffus.

    Dydi barn y cyhoedd ddim yn bwysig yn y ddadl yma fel y cyfryw - dydi agwedd y weinyddiaeth tuag at y Gymraeg, ddim yn debygol o newid yn y dyfodol agos - felly mae un o prif resymau tros y dirywiad yn aros mewn lle.

    ReplyDelete
  10. Dwi'n lecio'r ffordd mae cefnogwyr Y Fro yn creud taw 'synnwyr cyffredin' yw adleoli i Gaernarfon. Mae na syniad digon afiach ynghlwm yn hyn bod modd creu rhyw fath o ffortress Gwynedd all ddangos i'r twpsod eraill sut ma gneud hi.

    Fydd na ddim llawer o swyddi'n symud yn y bôn, a symbolaidd fydd y symud HQ yn fwy na unrhyw hwb swyddi anferth. Sir Gâr ydi'r no-brainer felly, gan bod Capten Dyfed eisoes yn gwneud PR push reit lwyddianus am odidowgrwydd Cyngor Gwynedd.

    Fe dybiwn i y byddai cryn bwysau'n dod gan y llywdoraeth i fynd i Sir Gar hefyd. Ardal Plaid Cymru neu ardal Llafur? P'un chi'n meddwl geith hi?

    Fydd hi werth mynd i Gaerfyrddin jest i glywed cyfryngis y Gogs yn diawlio bod Ieuan Air yn dda i ddim iddyn nhw bellach a fod rhaid nhw ddechrau cyfansoddi caneuon cwyno/sgriptiau teledu am yr A487 yn lle'r A470.

    ReplyDelete
  11. "Y pwynt efo tref Caerfyrddin Ifan ydi bod y canrannau o blant sy'n siarad y Gymraeg yn is na chanran y pensiynwyr. Mae hyn yn sefyllfa anarferol yng nghyd destun Cymru gyfan."

    Ond mae hynny o ganlyniad i ganran uchel o bensiynwyr sy'n siarad Cymraeg yno, yn hytrach na chanran isel o bobl ifanc sy'n siarad yr iaith. Beth bynnag, rwy'n credu bod angen ystyried y sir yn ei chyfanrwydd, yn hytrach na'r dref yn unig, wrth ystyried effaith symud S4C yno, gan bod pobl yn teithio i weithio yn y dref o bob rhan o'r sir, ac o waelod Ceredigion a dwyrain Sir Benfro. Mae'r canran o bobl ifanc sy'n siarad yr iaith yn y rhannau hyn ymysg y iachaf yng Nghymru. Os wyt ti'n edrych ar ystadegau Sir Gaerfyrddin yn ei chyfanrwydd mae'r ffigyrau ar eu gwaethaf ymysg y canol oed, 45-49, ac yn gwella yn sylweddol wrth symud yn ol drwy'r ystod oedran. Felly rwy'n gweld dy ddadl bod Caerfyrddin ryswut y tu hwnt i achubiaeth yn eithaf od - mae'n parhau yn un o brif ganolfannau yr iaith.

    "Ardal Plaid Cymru neu ardal Llafur? P'un chi'n meddwl geith hi?"

    Mae gan PC AC ac AS yn Sir Gar, yn ogystal a mwy o seddi yn y cyngor na neb arall, felly mae'n ddadlauol a ydi hi'n 'ardal Llafur'.

    (Gyda llaw, fel un a sy'n teithio ar hyd yr A487 i'r gogledd bob wythnos, allai dystio ei bod hi'n llawer brafiach na'r A470!)

    ReplyDelete
  12. Dydw i ddim wedi dweud bod Caerfyrddin y tu hwnt i achubiaeth Ifan. Dweud ydw i bod y canrannau yn rhwym o syrthio am tua ugain mlynedd arall. Mae'r patrymau oedran yn sicrhau hynny.

    Mae ardaloedd mwy Cymreig a llai Cymreig na Chaerfyrddin efo proffeil demograffaidd llawer iachach. Trosglwyddiad iaith sal, nid canran uchel o siaradwyr Cymraeg sydd y tu ol i'r gwahaniaeth rhwng plant a henoed.

    Dydi'r busnes plaid ddim yn bwysig - i lywodraeth San Steffan mae S4C yn atebol.

    Hefyd i ategu pwynt Jason ar fy mlog i - dydi Caerfyrddin ddim digon pell o Gaerdydd i wneud i neb godi pac - cymudo fyddai pobl.

    ReplyDelete
  13. Mae pobl yn comiwtio o Gaerfyrddin i Gaerdydd, ac o Gaerdydd i Lanelli. Fydde symud swyddi i Sir Gar ddim o reidrwydd yn golygu fod pobol yn symud

    ReplyDelete
  14. Ifan,

    Dwi'n nodi bod ti newydd ddweud bod ti am edrych ar y sir yn ei chyfanrwydd, ond i weld pa mor bell mae Tref Caerfyrddin wedi dirywio, mi wnes i edrych ar syt mae canran siaradwyr Cymraeg Oedran 3-14 yn cymharu efo wardiau mwyaf Cymraeg Siroedd eraill.

    Tref Caerfyrddin (3-14 oed): 41.5%

    Gwynedd 100% (Morfa Nefyn!)
    Isle of Anglesey 95% (yn Llangefni)
    Ceredigion 90%
    Conwy 89%
    Carmarthenshire 88% (er gwybodaeth : Llanfihangel-ar-Arth - Ceredigion yn y bon.. ;-)
    Denbighshire 87%
    Pembrokeshire 83%
    Powys 82%
    Neath Port Talbot 80%
    Monmouthshire 53%
    Flintshire 53%
    Swansea 49%
    Torfaen 49%
    Rhondda Cynon Taff 47%
    Wrexham 46%
    Caerphilly 44%
    Newport 42%
    Blaenau Gwent 41%
    Cardiff 37%
    Vale of Glamorgan 35%
    Bridgend 33%
    Merthyr Tydfil 31%

    Fellu dim ond 5 sir yng Ngymru sydd heb ward efo canran uwch o blant sy'n siarad Cymraeg na Tref Caerfyrddin (mi ro'n i'n synnu bod Caerdydd ddim yn uwch).

    Dwi'n siwr bod y 41.5% o blant Tref Caerfyddin efo Cymraeg 'gwell' na llawer ward mewn siroedd eraill a chanran llawer uwch, ond os mae symyd S4C i ardal fwy Cymreig ydi'r syniad, o leiaf symudwch o i dref sydd efo canran go lew o blant sy'n gallu siarad Cymraeg - mae na ddigon o ddewis.

    ReplyDelete
  15. Hoffwn wybod pam nad yw S4C yn ystyried Aberystwyth

    ReplyDelete
  16. Ioan, dyw hi ddim yn deg cymharu siroedd cyfan a tref unigol! Byddet ti'n gweld yr un tueddiad mewn trefi eraill fel Aberstwyth o'i gymharu efo'r cefn gwlad o'u cwmpas.

    "dydi Caerfyrddin ddim digon pell o Gaerdydd i wneud i neb godi pac - cymudo fyddai pobl."

    Rwy'n cytuno - fel y dywedais mae yna nifer o resymau dros ffafrio Caernarfon dros Gearfyrddin. Ond dyw gwendid yr iaith ddim yn un ohonyn nhw yn fy nhyb i.

    ReplyDelete
  17. "Ioan, dyw hi ddim yn deg cymharu siroedd cyfan a tref unigol! Byddet ti'n gweld yr un tueddiad mewn trefi eraill fel Aberstwyth o'i gymharu efo'r cefn gwlad o'u cwmpas."

    Dim mater o fod yn 'deg' ydio - cytuno am Aberystwyth, ond fasa fo ddim yn wir am Caernarfon, Llangefni, Bethesda, Pwllheli, Porthmadog etc.

    Dwi ddim yn gweld y pwynt o symud i Gaerfyrddin - waeth i ti symud i Orllewin Caerdydd ddim - pa ardal fydd efo'r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg ifanc mewn 20 mlynedd (heb son am y nifer uchaf hyd yn oed heddiw)?

    ReplyDelete

Post a Comment