Ystadegyn brawychus


Carwyn pwy?
Mae pawb yn hoffi ystadegau ar ôl etholiad. Ac er fy mod i’n siwr y bydd mwyafrif darllenwyr y blog yma yn ymfalchïo yn llwyddiant ysgubol Rhun ap Iorwerth yn is-etholiad Ynys Môn, mae’r diffyg sylw i’r etholiad yn y cyfryngau hefyd wedi gadael blas cas yn y geg.

Felly dyma un ystadegyn ychydig yn wahanol i chi, sef un a ddaeth i’r fei mewn pol piniwn YouGov yng Nghymru ryw bythefnos yn ôl. Yn ôl y pol, mae gan pobl Cymru well syniad pwy yw Nigel Farage na pwy yw Carwyn Jones. Roedd 23% yn rhy anwybodus i roi barn am Carwyn Jones, a dim ond 21% yn rhy anwybodus i roi barn am Nigel Farage. Yn ôl y Western Mail:

Nearly a fifth of voters in Wales told pollsters they felt unable to rate First Minister Carwyn Jones because they didn’t know enough about him – a higher figure than for any of the Westminster party leaders including even Ukip’s leader Nigel Farage.

Hynny yw, roedd mwy o bobl Cymru yn ymwybodol o arweinydd plaid sydd heb yr un Aelod Cynulliad nac Aelod Senddol nag oedd yn gwybod pwy oedd Prif Weinidog Cymru!

Mae’r rheswm yn amlwg wrth gwrs – mae Nigel Farage wedi cael llawer iawn o sylw yn y wasg Llundeinig tra nad yw Carwyn Jones, nac yn wir y wlad y mae’n brif weinidog arno, yn cael braidd dim. Dyw penawd stori y Guardian am y canlyniad ddim hyd yn oed yn crybwyll Plaid Cymru. Mae'r ras gyfan yn cael ei bortreadu o fewn naratif gwleidyddiaeth San Steffan. Diolch byth felly bod Nigel Farage wedi dod i Ynys Mon yn ddiweddar, neu ni fyddai yna braidd ddim son am is-etholiad Ynys Mon yn y wasg Brydeinig o gwbl!

Dydw i ddim am ymosod ar fy nghyd-newyddiadurwyr Cymreig, sy’n gwneud gwaith da iawn dan amgylchiadau anodd ac efo ychydig iawn o adnoddau o’i gymharu â’u cymrodyr Llundeinig. Nid eu bai nhw ydi hyn, ond yn hytrach strwythur y wasg yng Nghymru a’i waseidd-dra i’r wasg Brydeinig.

Wrth ymweld â safle’r BBC, rhaid clicio unwaith er mwyn cael mynediad at newyddion Prydeinig, ond rhaid llywio yn ddyfnach i grombil y wefan er mwyn dod o hyd i newyddion Cymreig (ac yn ddyfnach byth er mwyn cael newyddion Cymraeg). Mae’r newyddion am Gymru yn llythrennol mewn is-folder ar y wefan, mewn ysgrifen bach uwchben y penawdau mawr sydd fel arfer yn adrodd newyddion Prydeinig. Bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr wedi cael eu denu i ddarllen newyddion sy’n aml yn berthnasol i Loegr yn unig cyn hyd yn oed cyrraedd y penawdau Cymreig. Mae neges strwythur y wefan yn glir - newyddion Prydeinig sy’n bwysig ac ôl-ystyriaeth yw beth sy’n digwydd yng Nghymru.

Y BBC yw’r unig wasanaeth Saesneg sy’n gwasanaethu Cymru gyfan. Dyw gorwelion y Western Mail ddim yn ymestyn y tu hwnt i’r de ddwyrain, a does gan y Daily Post ddim diddordeb yn unrhywbeth sydd ymhellach i lawr na Machynlleth. Rhwng y ddau ceir casgliad o bapurau newydd lleol di-gymeriad a allai fod yn adrodd ar unrhyw le o Land’s End i Inverness.

Mae hyn yn broblem mawr pan mae yna etholiad yn y gogledd ar gyfer y senedd-dy yn y de. Dyw Ynys Mon ddim ar radar yr hwntws ac mae’r Senedd yn cael ei weld fel rhywbeth i goridor yr M4 gan y gogs. Roedd ymdrecion Rhun ap Iorwerth a Tal Michael yn syrthio rhwng dwy stôl.

Mae’r Western Mail a’r Daily Post ill dau hefyd yn atgoffa rhywun mai atodyn i newyddion pwysicach Prydain yw newyddion Cymru. Mae teitl y Western Mail yn amgrymu mai gwasanaethu ryw allbost ar gyrion yr ymerodraeth ydyw. Mae’r Daily Post yn endid traws-ffiniol sy’n gwasanaethu Lerpwl yn ogystal a Gogledd Cymru.

Papurau newydd a chylchgronnau Cymraeg yw’r unig rai i wasanaethau cynulleidfa ‘cenedlaethol’ erioed – h.y. Cymru gyfan a Chymru yn unig - ond gan mai dim ond 800 i 3,000 o bobl sy’n eu prynu dydyn nhw heb wneud ryw lawer o dolc yn y farchnad. Nid pawb sy'n darllen Golwg 360 chwaith.

Cymru’n Un?

Un o’r problemau mwyaf sydd gan y Cynulliad yn fy nhyb i yw ei bod yn gwasanaeth dwy ‘wlad’ gwahanol sydd heb gymaint a hynny o gysylltiad â’i gilydd, yn ogystal a ryw anialwch amhoblog rhyngddyn nhw. Mae pip cyflym ar y map yma ar wefan y Guardian yn dangos hynny’n glir. Un rhan o’r ateb i hynny, fel ydw i wedi dadlau o’r blaen, yw cysylltiadau trafnidiaeth llawer gwell rhwng y de a’r gogledd. Rhan arall o’r ateb yw gwasanaeth newyddion cenedlaethol sy’n gwasanaethu Cymru a Chymru yn unig.

Mae yna lawer o ymchwil ysgolheigaidd yn y maes sy’n profi gallu gwasanaeth newyddion i uno cenedl. Wrth ddarllen y papur neu wylio’r newyddion mae’r gwyliwr a’r darllenwr yn dychmygu ei hun yn rhan o gymuned ddychmygol o bobl sy’n gwneud yr un fath ag ef. Mae’n uniaethu â phobl nad yw erioed wedi eu cyfarfod hyd yn oed.

Dydw i ddim yn dweud bod angen hyn am fy mod i’n genedlaetholwr. Rydw i’n ei ddweud oherwydd bod gennym ni Gynulliad sy’n gwasanaethu tiriogaeth o’r enw Cymru, ac os yw’r sefydliad hwnnw am fod yn atebol mae angen i bobol gymryd diddordeb ynddo. Yr unig ffordd o wneud hynny yw cael gwasanaeth newyddion yng Nghymru sy’n pwysleisio i bobl bod y Cynulliad yn berthnasol i’w bywydau nhw .

Bydd nifer yn dadlau mai’r broblem yw bod Cymru a’i gwleidyddiaeth yn ‘boring’. Dydw i ddim yn derbyn hynny. Y cyfryngau sy’n cymryd pethau boring ac yn eu gwneud nhw’n ddiddorol. Pwy fyddai Nigel Farage heb sylw’r cyfryngau? Hen ddyn canol oed boring yn yfed peint mewn tafarn. Mae Ed Miliband yn hynod o boring, a David Cameron bron yr un mor ddiddim. Roedd isetholiad Ynys Môn llawn mor ddiddorol ag un Eastleigh, ond fe gafodd tua 0.1% o’r sylw. Y cyfryngau sy’n pernderfynu i raddau helaeth beth sy’n boring a beth sydd ddim. Mae yna gymeriadau diddorol a lliwgar iawn yn y Cynulliad, ym mhob un o’r pleidiau. A petai gwleidyddiaeth Cymru yn cael rhagor o sylw fe fydden ni’n denu mwy.

Mae yna lawer o bwyslais wedi bod ymysg cenedlaetholwyr ar bapur newydd Cymraeg dyddiol - ond y gwir yw nad oes gwasanaeth Saesneg dyddiol i Gymru gyfan eto, chwaith. Rwy’n siŵr y gellid sefydlu papur newydd ‘free sheet’ a gwefan i ddiwallu rhywfaint o’r angen amlwg yma. Ac rwy’n credu y dylai’r Cynulliad gyfrannu rhywfaint o’r arian er mwyn ei sefydlu. Heb y gwariant hwnnw o ychydig filiynau ar sicrhau bod pawb yn gwybod beth y maen nhw’n ei wneud, does dim modd eu dal nhw i gyfrif am beth a wneir â’r tua £13 biliwn arall.

Rwy’n gefnogol i ddatganoli rhagor o rymoedd i’r Cynulliad. Ond a bod yn gwbl onest dydw i ddim yn siŵr a ddylai hynny ddigwydd nes bod gan bobl Cymru well syniad beth sy’n digwydd yn eu Senedd-dy nhw eu hunain.

Comments

  1. "Wrth ymweld â safle’r BBC, rhaid clicio unwaith er mwyn cael mynediad at newyddion Prydeinig, ond rhaid llywio yn ddyfnach i grombil y wefan er mwyn dod o hyd i newyddion Cymreig (ac yn ddyfnach byth er mwyn cael newyddion Cymraeg)".

    Wel, dyna un ffordd o ddod o hyd i newyddion y BBC yn Gymraeg.

    Mae'r ddolen isod yn reit handi:

    http://www.bbc.co.uk/newyddion/

    ReplyDelete
  2. Nid pawb wrth gwrs sy'n cadw dolen benodol wrth law - mae'r rhan fwyaf naill ai efo dolen y wefan yn ei gyfanrwydd, neu yn mynd iddo o google. Google yw fy nhudalen gatref felly rydw i'n tueddi i wneud hynny.

    ReplyDelete
  3. Ar fin brolio'r Holyhead Mail, a gweld dy RT o drydar Carwyn Jones (cyng):

    Gwybodaeth diweddar a chyson unwaith eto gan y @HolyheadMail i'r etholiad. Cefnogwch ein papur lleol a sydd yn adnodd pwysig. #DaIawn
    Retweeted by Ifan Morgan Jones

    ReplyDelete

Post a Comment