Nifer ymwelwyr yr Eisteddfod



Mari Glwys yn joio ar y maes
Fe fûm i’n cadw cofnod ers blynyddoedd o ffigyrau ymwelwyr yr Eisteddfod. Pan oeddwn i’n gweithio i Golwg roedd yr Eisteddfod yn eu gyrru nhw draw bob dydd ac roeddwn i’n gwneud nodyn ohonyn nhw. Y dydd o’r blaen fe ddes i ar draws tudalen Wicipedia yn nodi’r ffigyrau – ond o edrych ar y cyfeiriadau ar waelod y dudalen daw’n amlwg mai’r ffigyrau oeddwn i wedi eu cyhoeddi ar Golwg 360 oedd ffynhonell y rhan fwyaf ohonynt! Felly waeth i mi gyhoeddi’r ffigyrau diweddaraf fan hyn ddim. Dyma’r cyfan yr oeddwn i’n gallu dod o hyd iddynt yn fy ffeiliau (rwy’n siwr bod mwy i’w gael ond o bosib wedi eu colli). Dydw i ddim yn cofio beth oedd ffynhonell y rhan fwyaf ohonynt, ond mae’r rhan fesul dydd wedi dod gan yr Eisteddfod eu hunain. Os oes gennych chi rai cynharach, rhowch wybod.




Nos Wener 1
Dydd Sadwrn 1
Dydd Sul 1
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Dydd Sul
Cyfanswm
Abergele 1995










167,225
Bro Dinefwr 1996










167,931
Meirion 1997










173,221
Bro Ogwr 1998










163,321
Môn 1999










161,725
Llanelli 2000










162,047
Dinbych 2001










142,609
Tyddewi 2002










126,751
Maldwyn 2003










155,390
Casnewydd 2004
1,011
16,172
14,046
18,080
15,142
22,438
18,771
24,505
15,548
2,072
147,785
Eryri 2005
1,451
15,932
12,759
20,720
19,182
21,343
20,737
26,307
19,389
-
157,820
Abertawe 2006
3,770
16,565
14,483
20,123
18,074
20,741
19,205
23,199
19,277
-
155,437
Fflint 2007
1,009
16,710
13,848
18,608
17,463
23,092
21,089
23,941
19,184
-
154,944
Caerdydd 2008
1,634
17,681
13,072
20,423
17,236
20,952
22,659
27,873
15,167
-
156,697
Meirion 2009
1,245
18,216
15,292
19,658
18,113
24,794
23,027
24,166
20,178
-
164,689
Blaenau Gwent 2010
3,136
14,702
25,097
15,461
13,363
16,126
18,096
17,294
13,658
-
136,933
Wrecsam 2011
1,586
17,881
16,794
16,048
17,004
20,898
17,902
23,428
17,351
-
148,892
Bro Morgannwg 2012
2,520
18,207
15,305
16,121
13,126
19,368
20,016
19,097
15,007
-
138,767
Sir Ddinbych 2013
2,202
16,571
16,032
15,754
17,813
19,626
19,864
28,237
17,507
-
153,606
 

Un peth a ddaw i’r amlwg wrth edrych ar y ffigyrau yw bod nifer yr ymwelwyr wedi syrthio dros y blynyddoedd. Mae Eisteddfod Sir Ddinbych eleni yn cymharu’r ffafriol â’r Eisteddfod ar yr un safle yn 2001... ond rhaid cofio mai dyna oedd blwyddyn clwy traed a’r genau, felly roedd y niferoedd yn anghyffredin o isel o ystyried y lleoliad ffafriol. Cymhariaeth well efallai fyddai Meirion 1997 a Merion 2009 - cwymp o bron i 9,000, o 173,221 i 164,689.

Dydw i ddim yn gwybod a yw hynny’n arwyddocaol ai peidio. Roedd y dyrfa uchaf mewn gêm Chwe Gwlad yn 1975 ond dyw hynny ddim yn golygu bod y gystadleuaeth yn llai poblogaidd heddiw. Efallai bod mwy yn dewis gwylio ar y teledu wrth i safon y darlledu wella.

Serch hynny, rhaid cofio hefyd bod mwy a mwy o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar y Maes ei hun erbyn hyn, er mwyn annog pobl i brynu tocynnau. Roedd y ffigwr o 28,237 o bobl ar y Maes ar y dydd Gwener eleni yn rhannol o ganlyniad i docynnau rhatach gyda’r nos i wylio Edward H Dafis yn perfformio ger y bar.

Daw’n amlwg hefyd fod gwahaniaethau o ran niferoedd rhwng y gwahanol ranbarthau o Gymru. Er mai dim ond pedair gwaith yr ymwelodd yr Eisteddfod â gogledd-orllewin Cymru yn yr 19 mlynedd a nodwyd uchod, roedd cyfartaledd nifer yr ymwelwyr (164,364) yn uwch na chyfartaledd unrhyw ran arall o Gymru. Ymwelodd yr Eisteddfod â’r de-ddwyrain chwech o weithiau ond dim ond 149,816 yw cyfartaledd nifer yr ymwelwyr. Roedd y cyfartaledd yn y de-orllewin a’r gogledd ddwyrain, sef 153,042 a 153,455, bron yn union yr un peth.

Wrth gwrs nid denu ymwelwyr yw unig nod yr Eisteddfod – mae angen mynd i ardaloedd di-Gymraeg hefyd er mwyn lledaenu’r newyddion da bod yr iaith Gymraeg yn fyw.

Comments

  1. Diolch am hyn.

    Casnewydd 2004 oedd fy hoff Eisteddfod i, rwy'n credu.

    Sylwi bod ffigurau Tyddewi'n isel, ond os cofiaf yn iawn roedd y tywydd yn wirioneddol hunllefus (nid fy hoff gyfnod yn byw mewn pabell mewn cae, o bell bell ffordd).

    Yn y cyd-destun yma, nid yw ffigurau eleni gystal ag yr oeddwn wedi meddwl. Hmm.

    ReplyDelete
  2. Tyddewi braidd yn bell o bobman hefyd. Un o'r llefydd mwyaf diarffordd yng Nghymru mae'n siwr. A heb anghofio y camerau cyflymder ar y ffordd adref... :P

    Wedi hoffi Meifod 2003, Casnewydd 2004 (am mai dyna'r blynyddoedd y bum i'n gwesrylla), Caerdydd 2008 (wnes i ennill rywbeth!) a Bala 2009 (hel straeon ar y maes).

    Wrth edrych yn ol fy hoff Eisteddfodau oedd y rhai wnes i wneud ymdrech go iawn a buddsoddi rywbeth ynddyn nhw. Y rhai gwaethaf oedd pan wnes i jesd troi fyny am y diwrnod heb ddim cynllun a cyflawni dim.

    ReplyDelete
  3. YEESSSS - cyfiawnhad dros greu'r rhestr ar Wicipedia! Diolch am lenwi'r bylchau - dw i am fentro eu defnyddio ar y Wicio, ond falle gyda nodyn ar y dudalen sgwrs yn esbonio mai o'r cofnod yma y daethant.

    Petai'r amser gyda fi, hoffwn roi blitz go iawn i'r erthyglau Eisteddfod ar Wicipedia - mwy o fanylion (h.y stats) ar y rhai am steddfodau unigol a thrawsneiwd yr erthygl am y Steddfod yn gyffredinol.

    ReplyDelete
  4. Ie Rhys mae angen ychydig o waith arnyn nhw. Lluniau o'r cadeiriau ayyb fyddai'n braf. Efallai y byddai yn werth cysylltu efo'r Eisteddfod eu hunain am wybodaeth. Fe wna i helpu os ga'i amser!

    ReplyDelete

Post a Comment