Cymru'n siarad



Llun o ymchwil Beaufort i ddefnydd pobl o'r Gymraeg

Mae Beaufort Research wedi cyhoeddi dau ddarn o waith ymchwil dros y dyddiau diwethaf. Mae un a gyhoeddwyd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ar ran S4C, BBC Cymru a Llywodraeth yn holi ynglŷn â defnydd pobl o’r iaith Gymraeg, a’r llall ar ran Comisiwn Silk ynglŷn â barn pobl am rymoedd y Cynulliad.

Un peth sydd gan y ddau gyhoeddiad yn gyffredin yw eu bod nhw’n datgelu dymuniad pobl Cymru i ail-gydio yn eu hunaniaeth Cymreig a thyfu fel cenedl. Maen nhw eisiau rhagor o hunanbenderfyniaeth ac maen nhw eisiau rhagor o’r Gymraeg.

Yn ôl yr ymchwil ar ran Comisiwn Silk mae 62% o boblogaeth Cymru eisiau i’r Cynulliad gael rhagor o rymoedd. Roedd wyth o bob 10 hefyd yn ymddiried yn y Cynulliad i weithredu er lles pobl Cymru.

Mae’r ymchwil i ddefnydd pobl o’r iaith Gymraeg yn dangos awydd go iawn ymysg y boblogaeth i wella eu Cymraeg. Roedd 99% o’r rheini a holwyd sy’n gallu siarad ychydig iawn o Gymraeg (y rhan fwyaf o’r rhain yn bobl ifanc sydd wedi derbyn ychydig o’u haddysg yn y Gymraeg ond heb siarad ryw lawer o’r iaith y tu allan i’r ysgol) yn dymuno gallu siarad Cymraeg yn well. Fe fyddai 92% ohonynt yn croesawu’r cyfle i wneud rhagor o ddefnydd o’u Cymraeg.

Beth sy’n rhwystredig felly yw nad yw’r cyfleoedd i siarad Cymraeg yn bodoli mewn sawl rhan o Gymru, a bod ymdrechion i ddatganoli rhagor o rymoedd i’r Cynulliad yn cael eu llesteirio bob gafael gan bleidiau yn San Steffan sydd yn y lleiafrif yng Nghymru.

Ond os ydych chi - fel fi - yn dymuno gweld Cymru sy’n meddu ar ragor o hunanreolaeth ac eisiau Cymru lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, mae’r canlyniadau yn rhai cadarnhaol iawn hefyd. Mae’r boblogaeth i raddau helaeth eisiau’r 'un peth a ni'.

Yr her yw sicrhau bod gan bobl well syniad beth sy’n mynd ymlaen yng ngwleidyddiaeth Cymru fel bod y gwleidyddion sy’n cael eu hethol yn cynrychioli dymuniadau’r wlad ac yn gweithredu arnynt.

Comments