Cwestiynau cyffredin am y Gymraeg - rhan II



Rydw i wedi sôn o’r blaen ei fod yn fwriad gen i greu gwefan a fyddai yn ymateb i rai camsyniadau ynglŷn â’r iaith Gymraeg. Yn dilyn nifer o erthyglau yn y wasg sy’n wrthwynebus i’r iaith Gymraeg dros yr wythnos ddiwethaf, a’r sylwadau negyddol sydd yn dod yn eu sgil, rydw i wedi penderfynu gwthio’r maen i’r wal a dechrau ar y gwaith.


Dyw’r wefan heb ei chwblhau eto felly fe fyddwn i’n gwerthfawrogi pe na bai’n cael ei rhannu yn rhy eang y tu hwnt i ddarllenwyr y blog yma. Ond fe hoffwn i wybod beth ydych chi yn ei feddwl, ac os oes gennych chi unrhyw syniadau am ddarnau newydd neu welliannau i’r cofnodion presennol.

Nid y nod yw pregethu na bod yn gas – does dim bai ar bobl os nad ydyn nhw’n deall gwerth yr iaith. Ein gwaith ni yw eu hysbysu. Y gobaith yw gwneud hynny mewn modd doniol a darllenadwy.

Comments

  1. Mae'n syniad da Ifan, yr unig ffordd o fynd i'r afael efo anwybodaeth yn y pen draw ydi darparu darpariaeth gywir a pherthnasol. Wyt ti wedi meddwl sut orau i roi cyhoeddusrwydd i'r wefan?

    ReplyDelete
  2. Diolch Cai. Rydw i eisiau casglu allbwn a gwneud ychydig yn rhagor o waith ar yr erthyglau unigol cyn dechrau tynnu sylw at y wefan. Yna'r gobaith yw annog Cymry i'w ledaenu drwy'r rhwydweithiau cymdeithasol, ac fe wna i anfon datganiad i'r wasg rhag ofn fod ganddyn nhw ddiddordeb hefyd.

    ReplyDelete
  3. Gwefan da iawn.

    Dw i'n cymryd dy fod ti wedi darllen Neighbours From Hell gan Mike Parker hefyd? Efallai mae eisiau rhyw fath o restr o 'Further reading'...

    Gweler hefyd: blog Nic Dafis http://mostpeculiar.wordpress.com/

    ReplyDelete
  4. Da iawn Ifan. Hoff iawn o dôn y darnau. Ysgafn ond cadarn. Hapus iawn i gyfrannu os wyt ti'n chwilio am help.

    Ond does dim gobaith yn y byd bod penguin yn dod o'r Gymraeg. No we nefar.

    ReplyDelete
  5. Diolch am y linc Carl, doeddwn i heb weld hynny o'r blaen. Syniad da am y rhestr darllen pellach... fe wna i ei ychwanegu.

    Rwy'n croesawu unrhyw gymorth, Dylan. Y nod yw bod hwn yn fenter cymunedol, ryw fath o wici-pethau-dwl-mae-pobl-yn-ei-ddweud-am-y-Gymraeg. Os allet ti feddwl am unrhyw syniadau am erthyglau neu newidiadau i'r erthyglau sydd yno'n barod, plis cyfranna.

    A dweud y gwir roeddwn i'n credu bod dy erthygl di sbel yn ol am y chwedl 'pawb yn siarad Saesneg' yn well na fy un i, ond dwi methu dod o hyd iddo ar wefan y BBC bellach. Bah.

    ReplyDelete
  6. Wel wir, mae'r BBC wedi'i ddileu! Diolch i Nicholas Michael Morgan am ei gadw er mwyn y genedl felly.

    Hefyd wedi gadael sylw tebyg mewn edefyn syladau ar Language Log

    ReplyDelete
  7. Er gwybodaeth, un o'm hoff enghreifftiau o'r math yma o beth yw'r Index to Creationist Claims ar wefan TalkOrigins (nad yw'n fywiog iawn bellach, yn anffodus). Adnodd gwerthfawr iawn iawn.

    ReplyDelete
  8. Gwych Dylan. Maent yn darllen yn llawer gwell na fy ymdrech brysiog i. Hoffet ti ail-ysgrifennu y cofnod yna yn seiliedig ar dy atebion cynhwysfawr ar y BBC a Language Log? Neu fa alla'i ladrata ohonynt er mwyn diweddaru'r cofnod.

    ReplyDelete
  9. A bod yn onest, 8 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r un BBC yn darllen fymryn yn blentynnaidd erbyn hyn. Y sylw LL yn well, er bod teipos ac ati. Hapus i'w addasu ar gyfer y wefan yma, neu croeso i ti wneud!

    ReplyDelete
  10. Ia mae'r un BBC ychydig yn ymosodol o bosib i'r ton 'amnestiol' yr ydw i'n anelu ato efo'r wefan. Cytuno bod yr un LL yn agosach ati. Os allet ti ei addasu fe fyddai o gymorth mawr.

    ReplyDelete
  11. Arbennig o dda. Cyhoedda a hyrwydda gynted a phosib!
    Yn fy marn i, mae gen' ti ormod o ddolenni. Ond, os am ddefnyddio dolen, gwna'n siwr ei bod yn agor tab newydd: mae nifer ohonyn nhw'n arwain y darllenydd oddi wrth wefan Why Welsh..

    ReplyDelete
  12. Dolch Wilias. Mae angen dipyn o ail-wampio cyn fy mod i'n hapus i gyhoeddi'r safle yn ehangach. Cafodd y wefan bresennol ei daflu at ei gilydd mewn ychydig oriau, ac rydw i wedi bod yn brysur ers hynny. Gobeithio y bydd modd i mi wneud dipyn o waith golygu dros y dyddiau nesaf.

    ReplyDelete
  13. Fe wna i addasu hwnna'n fuan felly. Ac mi dria i feddwl am bynciau eraill. Da iawn am roi dechrau arni.

    ReplyDelete

Post a Comment