Amddiffyn Syniadau


Mae’r blogiwr Syniadau dan y lach am iddo fod yn lym ei feirniadaeth o ymgeisydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn ystod ymgyrch yr is-etholiad yn Ynys Mon.

Mae’r Blaid wedi cadw caead ar bethau yn ystod yr etholiad ond gall rhywun synhwyru y bydd y “forces of hell” (chwedl Alistair Darling) yn cael eu rhyddhau ar ol i’r blychau pleidleisio gau. Mae Blogmenai eisoes wedi addo “dod at y tour de force mewn idiotrwydd narsistaidd yma - ond ar ol yr is etholiad”.


Os nad ydych chi wedi bod yn dilyn y saga, dyma rai o berlau Syniadau:

We do not need dishonest politicians like Rhun ap Iorwerth. If he's elected on Thursday he will be a liability to Plaid Cymru for years to come, because he clearly isn't interested in Plaid's policies for Wales. He is a cuckoo who has duped his way into our nest in order to follow a private agenda of his own, or the agenda of a narrow interest group within the party that refuses to accept democratic decisions made by the membership as a whole.
Supporting Wylfa B is a betrayal of what Plaid Cymru stands for. If Rhun ap Iorwerth is elected, it would be a tragedy for Plaid Cymru, for Ynys Môn and for Wales.

Digwydd bod rydw i’n anghytuno â sylwadau Syniadau ar Wylfa B. Rydw i’n tueddu i gefnogi ynni niwclear, yn bennaf am nad ydw i’n gweld ynni adnewyddadwy yn llenwi’r bwlch sydd wedi ei adael gan danwydd ffosil. Rwyf hefyd yn falch y bydd Wylfa B yn dod a swyddi i’r ardal, er nad yw hynny yn ei hun yn ddigon o reswm dros gefnogi’r datblygiad.

Dydw i ddim chwaith yn argyhoeddedig bod y mwyafrif o aelodau Plaid Cymru sy’n byw yn y gogledd-orllewin yn gwrthwynebu Wylfa B, fel y mae Syniadau yn ei honni (beth bynnag yw barn y blaid yn genedlaethol).

Ond er nad ydw i’n cytuno â barn Syniadau, dydw i ddim yn credu y dylid ei feirniadu am ddatgan y farn honno. Mae perffaith hawl iddo gael dweud ei ddweud ar bolisi'r blaid. A dweud y gwir mae’r fath drafodaeth gyhoeddus yn hanfodol i iechyd unrhyw ddemocratiaeth. Mae gan y pleidiau Llundeinig nifer di-ben draw o flogwyr lleyg sy’n dweud eu dweud yn blaen ar bob datblygiad yn San Steffan.

Bydd rhai’n dadlau mai amseru Syniadau sy’n anffodus fan hyn - y ffaith ei fod wedi penderfynu dweud ei ddweud mor ddi-flewyn ar dafod yn ystod ymgyrch etholiadol sydd mor bwysig i’r Blaid. Ond y cwestiwn yw, pryd arall allai fod wneud gwneud hynny?

Un o nodweddion unigryw ymgyrch Rhun yw nad oedd neb yn gwybod beth oedd ei farn ar amryw o faterion cyn iddo gael ei ddewis. A hyd yn oed ar ôl cael ei ddewis roedd ei bolisi ar Wylfa B yn niwlog a dweud y lleiaf, nes dyddiau olaf yr ymgyrch.

Petai Syniadau wedi cael cyfle i geisio darbwyllo'r ymgeisydd a’i ymgyrch i newid ei feddwl fisoedd neu flynyddoedd cyn yr etholiad rwy’n siŵr y byddai wedi gwneud hynny.  Ond dyma’r unig gyfle oedd gan Syniadau - a dyw disgwyl iddo gau ei big nes ar ôl yr etholiad, pan na allai ddylanwadu neb na dim, ddim yn deg iawn. 

Gallai Syniadau fod wedi dewis ei eiriau yn fwy gofalus  - roeddynt yn ymylu ar fod yn rhy bersonol ar adegau. Ond mae wynebu beirniadaeth o’r fath yn rhan annatod o fod yn wleidydd. Rwy’n siŵr bod Rhun wedi magu croen digon tew ar ôl blynyddoedd o newyddiadura i allu goroesi ambell i air cas gan flogiwr.

Pob parch i Syniadau gen i - mae’n amlwg bod ynni niwclear yn fater sy’n hynod o agos at ei galon, ac yn bwysicach iddo ef na llwyddiant etholiadol yn unig. Mae aelodau Plaid yn aml yn beirniadu Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol am fod yn geiliogod y gwynt sy’n fodlon aberthu eu hegwyddorion er mwyn sicrhau pleidleisiau.

Nid timoedd pêl droed yw pleidiau gwleidyddol, i’w cefnogi beth bynnag a ddaw - nid yr ennill ar bob cyfrif sy’n bwysig, ond beth fyddwn nhw’n brwydro drosto ar ôl ennill.

Rwy’n darogan y bydd Plaid yn ennill yr etholiad heddiw yn weddol gyfforddus. Os felly, yr unig niwed y bydd Syniadau wedi ei wneud yn y pen draw, fydd i’w enw da ei hun o fewn y Blaid.

Comments

  1. Fel mater o ddiddordeb wyt ti hefyd yn cefnogi'r ymosodiadau personol maleusus?

    ReplyDelete
  2. Nagydw - rydw i'n credu bod Syniadau yn ffeithiol anghywir, a beth bynnag ni ddylai fod wedi galw Rhun yn gelwyddgi heb unrhyw sail gadarn dros wneud hynny (does dim tystiolaeth e.e. ei fod wedi dweud ei fod yn gwrthwynebu Wylfa yn yr hystings, mae beth ydw i wedi ei glywed yn awgrymu i'r gwrthwyneb).

    Fel ydw i'n nodi uchod dylai fod wedi dweud ei eiriau yn fwy gofalus, ond roedd yn amlwg dan deimlad.

    Serch hynny os wyt ti'n sefyll i fod yn wleidydd, mae canran go helaeth o bobl yn mynd i gredu dy fod ti'n gelwyddgi beth bynnag. Felly ni ddylai Rhun gymryd y peth yn rhy bersonol.

    Amddiffyn hawl Syniadau i ddweud ei farn ar bolisi Plaid Cymru yn ystod yr etholiad ydw i, nid y geiriau a ddewisodd i wneud hynny.

    ReplyDelete
  3. Dwi wedi chwarae rhyw ran neu'i gilydd mewn degau o etholiadau ar hyd y blynyddoedd. Dydw i erioed wedi dod ar draws gwrthwynebwyr gwleidyddol yn defnyddio'r math yna o iaith am ei gilydd - erioed.

    Mae Michael wedi bod o dan deimlad am fis bellach, ac wedi bod yn mynd yn fwyfwy hysteraidd a phersonol. Mi fyddai rhywun yn disgwyl y byddai mis yn ddigon i ddyn yn ei oed a'i amser sortio ei hun allan.

    ReplyDelete
  4. Does neb yn rili ei feirniadu am ei farn, er ei bod yn ymddangos bod llawer o bobl o fewn y Blaid wedi penderfynu datgan eu bod yn cefnogi ynni niwclear dros yr wythnosau diwethaf, yn groes i bolisi'r Blaid (tydi Syniadau, yn fy marn i, ddim yn adnabod ei blaid ei hun hanner cystal ag y mae o'n ei feddwl, ond dadl arall ydi honno).

    Yr hyn mae Syniadau wedi'i wneud ydi tanseilio ymgeisydd ei blaid ei hyn - a hynny'n fwriadol ac yn ddibaid. Dwi'm yn dallt sut elli di amddiffyn hynny ar unrhyw lefel. Ddywedodd o echddoe yn blwmp ac yn blaen ei fod am i Rhun ap golli.

    Y gwir ydi, wedi pwdu mae o. Y mae Cai yn iawn i gyfeirio ato fel 'narsisistaidd' hefyd - y broblem ydi ei fod yn cael ei ddal mewn gormod o ddyledus barch gan rai pobl, ac mae'n meddwl fod ei farn o yn llawer pwysicach nag ydi o mewn difri. Dybiwn i dyna fydd Cai yn ei gyfeirio ato'n rhannol pan fydd o'n dod i flogio am y peth.

    ReplyDelete
  5. Nid dadl, neu sylwedd dadl, Syniadau sy'n mor annerbyniol ond tôn, iaith a ffyrnigrwydd ei ymosodiad. Jyst wedi 'gweld coch' mae'n debyg, wedi dangos anoddefgarwch barn anhrydeddus, rhydd, rhywun arall y Blaid. Mae'n amlwg bo fe'n teimlo yn angerddol dros fater ynni niwclear. Chwarae teg iddo. Dwi'm yn cytuno. Mae troi y peth yn 'existential meltdown' yn naïf 'in so many ways'... Dyna'r cwbl reali. Dwi'n dal i barchu ei waith ar ei flog, ond does rhaid imi gytuno ag ef bob tro ac dwi'n cael yr hawl i ddweud bo fe wedi gwneud camgymeriad difrif. Meanwhile... cannoedd a channoedd o bleidwyr wedi rhoi mis cyfan o'u bywydau dros helpu y Blaid ym Môn. Dwi eisiau ffowcysu arnyn nhw heddiw.

    Phil Davies

    ReplyDelete
  6. Ia- mae blogio yn gallu bwydo hunan bwysigrwydd dyn pan mae gwahanol gyfryngau prif lif yn tynnu ar y blog i greu eu naratif. Dydi hynny ddim llawer o ots pan mae gan y blogiwr synnwyr o berspectif o'i le ei hun yn y byd, ond pan mae'n uffar bach hunan bwysig beth bynnag mae perygl iddo chwyddo i fyny fel balwn - ac fel mae'n cael ei ddyfynnu mwy, mae'n mynd yn fwy gwyllt ac afresymol er mwyn cael ei ddyfynnu eto er mwyn teimlo yn bwysicach, ac yn bwysicach ac yn bwysicach.

    Ond y cwbl sydd yno yn y diwedd ydi un boi efo'i obsesiynnau yn eistedd ar din sylweddol wrth gyfrifiadur yn Llundain yn bwydo ei hunan bwysigrwydd tra'n tanseilio ei blaid - tra bod aelodau'r blaid honno - cannoedd ohonyn nhw yn ol pob tebyg wedi treulio dyddiau hir yng ngwres yr haf yn ymladd yr etholiad ty wrth dy, stryd wrth stryd, pentref wrth bentref.

    Mae aelodaeth o blaid yn galw am hunan ddisgyblaeth, parch at gyd aelodau a dealltwriaeth nad ni fel unigolion ydi canol y Bydysawd. Mewn geiriau eraill aeddfedrwydd personol. Does yna ddim arwydd o ddim o hynny yn yr achos yma.

    ReplyDelete
  7. Rwy'n cytuno efo'r sylwadau am don a iaith Syniadau, sy'n anffodus iawn (ond gan gofio wrth gwrs bod ysgrifennu ar-lein yn tueddu i rhoi'r argraff bod rhwyun yn fwy ffyrnig a milain nag ydyn nhw).

    Ond rydw i'n parhau i anghytuno efo'r pwynt yma -

    "Yr hyn mae Syniadau wedi'i wneud ydi tanseilio ymgeisydd ei blaid ei hyn - a hynny'n fwriadol ac yn ddibaid. Dwi'm yn dallt sut elli di amddiffyn hynny ar unrhyw lefel."

    Mae'n ddigon hawdd amddiffyn hynny. Y cwestiwn yw sut y mae cyfiawnhau cefnogi rhywun yr ydych chi'n anghytuno'n chwyrn ag ef.

    Petai'r Blaid yn dewis ymgeisydd fyddai yn dweud y dylai arfau niwclear Trident gael eu symud i Ynys Mon, beth fyddai'r ymateb wedyn? A fyddai gan flogwyr sy'n aelodau o PC yr hawl i ddweud y byddai yn well ganddyn nhw pe na bai yn ennill yr etholiad?

    Achos mae'n amlwg mai dyna sut mae Syniadau yn teimlo am y mater yma. Allai fo ddim cefnogi ymgeisydd sydd yn cefnogi ynni niwclear. Dylid parchu hynny, o leiuaf, os nad yr math o iaith mae wedi ei ddefnyddio er mwyn gwneud ei bwynt.

    Dydw i ddim yn deall y safbwynt yma y dylid cefnogi ymgeisydd plaid beth bynnag ei egwyddorion. Dylid cefnogi ymgeisydd am eich bod chi'n cytuno efo fo mwy na'r ymgeiswyr eraill - nid am ei fod 'ar eich tim chi'. Mae hynny'n arwain at sefyllfa lle y mae aelodau plaid yn fodlon i'w hymgeiswyr ddweud a gwneud unrhywbeth dim ond er mwyn ennill etholiad.

    ReplyDelete
  8. Rwy'n dueddol o gytuno ag Ifan. Mae'r ffaith bod yna rwyg yn rhengoedd y Blaid ar achos ynni niwclear yn hen stori a thwyllodrus byddid ceisio cuddio'r rhwyg hwnnw a ffugio nad ydyw'n bod jest oherwydd bod isetholiad pwysig ar y gweill. Llawer gwell yw cael y drafodaeth yn agored ac yn onest a gadael i'r pleidleiswyr tynnu eu barn eu hunain.

    Un o'r pethau sydd wedi fy nghynddeiriogi am ymgyrch y Blaid Lafur ym Môn yw'r ffug canfyddiad sydyn bod y blaid honno yn unfarn ar achos niwclear, er bod unrhyw un sydd wedi ymddiddori yn y pwnc yn gwybod bod ambell i aelod blaenllaw iawn o Lafur wedi bod yn gefn i'r ymgyrch gwrth niwclear ar hyd y blynyddoedd. Llawer gwell gen i onestrwydd Syniadau na thawedogrwydd a llyfrdra dan-din ymgyrchwyr gwrth niwclear Llafur.

    ReplyDelete
  9. "uffar bach hunan bwysig" meddai Cai Larsen - Clywch! Clywch!

    Dwi erioed wedi dod ar draws blogiwr sydd mor hoff o olygu sylwadau ag yw MH.

    ReplyDelete

Post a Comment