Plus ça change



Wrth edrych ar ddiwidrwydd, diniweidrwydd, a theyrngarwch ein cenedl, yn nghyd a'i sefyllfa foesol a deallol yn gyffredinol, yr ydym wedi synu peth at anngharedigrwydd ein brodyr o'r tudraw i Glawdd Offa tuag atom. Ychydig yw y breintiau neu y manteision ydym ni yn eu derbyn oddiar eu dwylaw. Nid yw ein hiaith, ein llenyddiaeth, ein defodau, na'n harferion yn eu bodloni. Y mae yn mron bob peth o'n heiddo yn annheilwng, iselwael, ffol-ddigrif, a di-werth; a mynant daeru pethau fel hyn yn ngwyneb ffeithiau ag sydd mor lluosog ac amlwg i'r gwrthwyneb. Y mae yr ymddygiad anfrawdol hwn yn anesboniadwy i ni. Nid ydym mewn un modd yn medru dyfod o hyd i athrawiaeth y pwnc—fod cenedl onest, ddiwyd, ddi-ddrwg, deyrngar, oleuedig, gwareiddiedig, a dwfn-grefyddol, yn wastad o dan farn o gondemniad gan gydgenedl ag y mae ei hamcanion, ei dybenion, a'i hegwyddorion gwladlywiaethol bob amser yr unrhyw. 

Ond paham y synwn gymaint at ymddygiad cenedl estronol, pan y mae genym rhai yn mhlith ein cenedl ein hunain ag sydd lawn mor amddifad o deimlad cenedlgarol. Ysgogynod yw y rhai hyn wedi cael tipyn o flas ar, ac elw oddiwrth, eu hymdrafodaeth a'r iaith Seisnig, ac yn tybio mai eu hanrhydedd a'u dyledswydd yw gwadu y Gymraeg, a rhoi iddi bob an air, drwy ei chyhuddo o fod yn arw, clogyrnog, a phrin mewn adnoddau i amlygu syniadaua golygiadau gwyddonol, &c. Un arall a ddaw, wedi cael ychydig o fisoedd o addysg yn un o golegau israddol ein gwlad, ag a ddywed nad oes genym un llyfr o awduraeth wreiddiol yn yr iaith. Un arall a ddaw ag a ddywed nad oes genym ddim gwell na ffregod o farddoniaeth yn ein hiaith. Hoff waith y tylwyth hyn yw diraddio iaith a llenyddiaeth eu gwlad, a dynoethi gwendidau, diffygion, a gwaeleddau eu cenedl o flaen y byd. Pa ryfedd, ynte, yn ngwyneb camwri or fath oddi wrth ein brodorion ein hunain, fod estroniaid yn cymeryd y fantais arnom i'n gwawdio a'n diraddio, ac edliw i ni ein hisraddoldeb.

Pwy a gredwn ynte? Ai Dic-Shon-Dafyddiaid ein gwlad - ai crach-feirniaid a chrach-ysgolheigion ein mwyn-gloddiau, ein trefydd, a'n dinasoedd, ynte gwyr o safle ac awdurdod? Boed i ni, annwyl gydwladwyr, beidio gostwng ein penau yn herwydd y saethau gwellt y mae rhagfarn, eiddigedd, a choegdyb yn eu hanelu atom. Boed i ni fynwesu mwy o hunan-hyder a hunan-barch, gan edrych wrth fyned heibio ar y sawl a geisiant ein darostwng gyda'r difaterwch neu y dirmyg a deilyngant.


-Y Gwladgarwr, Dydd Gwener Rhagfyr 13, 1878

Comments