UKIP a'r SNP - Dewch at eich gilydd yn gytûn...


Oes angen ail-frandio UKIP?
Nid fi yw’r cyntaf i nodi bod UKIP yn ymdebygu i ryw fath o Blaid Genedlaethol Lloegr, gan chwarae’r un fath o rôl yng ngwleidyddiaeth y wlad honno ac y mae Plaid Cymru a’r SNP yn ei chwarae yng Nghymru a’r Alban. Dyw polisïau’r pleidiau ddim byd tebyg wrth gwrs, ond mae hynny oherwydd bod tir canol gwleidyddiaeth Cymru a’r Alban ymhell i’r chwith o dir canol Lloegr.

Ond mae pob un o’r pleidiau yn elwa ar bobl sydd wedi cael llond bol ar y prif bleidiau, ac eisiau i’w gwledydd gael rhagor o reolaeth dros eu materion eu hunain. Mae Plaid a’r SNP eisiau llai o ymyrraeth gan San Steffan, ac UKIP eisiau llai o ymyrraeth o Frwsel.

Serch hynny dyw UKIP ddim yn fodlon cyfaddef mai plaid i Loegr yn bennaf ydyw. Hynny er bod cefnogaeth y blaid yn yr Alban tua 2% yn unig. (Er bod cefnogaeth y blaid yn uwch yng Nghymru rwy’n siwr bod hynny i raddau yn adlewyrchu y ffaith bod canran uwch o bobl sy’n ystyried eu hunain yn Saesnon yn byw yma.) Mae'r map i'r chwith yn awgrymu bod cefnogaeth y blaid ar ei gryfaf y pellaf o Gymru a'r Alban yr ydych chi'n mynd. Mae Farage ei hun wrth ei fodd yn chwarae rhan y ‘Little Englander’ sy’n darllen y Daily Express ac yn mwynhau peint yn ei dafarn lleol.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae polisi UKIP wedi symud o fod eisiau diddymu y Cynulliad a Senedd yr Alban, i fod eisiau sefydlu Senedd i Loegr sydd â'r un grymoedd a nhw.

Fe ddylai Plaid Cymru, yr SNP ac UKIP allu dod ymlaen â’i gilydd. Roedd yn ddiddorol felly gweld Farage yn cael ei alw’n ‘nazi scum’ gan brotestwyr yng Nghaeredin, ac yntau yn eu galw nhw’n ‘fascist scum’ yn ôl. Dydw i ddim yn credu bod yr un o'r ddwy ochr wedi ymateb mewn ffordd gytbwys fan hyn. Rwy’n credu fod perygl bod pleidiau cenedlaetholgar yn dechrau cyfeirio at ei gilydd gan ddefnyddio’r union ieithwedd ddilornus sydd wedi ei ddatblygu gan bleidiau mawr er mwyn wfftio bygythiad pleidiau fel y nhw. Oni ddylai arweinydd UKIP o bawb allu cydymdeimlo â dymuniad gwlad am ragor o hunanreolaeth, ac i’r gwrthwyneb?

Y cyfan sydd angen digwydd mewn gwirionedd yw bod UKIP yn cymryd y cam naturiol ac yn gollwng yr ‘UK’ ac ychwanegu ‘E’, ac fe fydd y pleidiau cenedlaetholgar yma yn gallu dod ymlaen yn gytûn.

Comments

  1. Heblaw am un peth, Ifan.

    O glywed geiriau Nigel Farage, daw hi'n amlwg nag yw e'n deall bod gwahaniaeth rhwng Prydain a Lloegr, ac o weld y maniffesto, does dim o'r syniad lleia gyda'r blaid ynglŷn â datganoli.

    "Clearly this is anti-British, anti-English. They even hate the union jack"

    "...a hatred of the English, the union jack and everything the UK represents"

    O leia tasen nhw'n mynd i bŵer (neu hyd yn oed cael llaw ar y llyw, fel y Dems Rhydd truan nawr), falle bydde trio cael "senedd i Loegr ar fodel Cymru yr Alban a Gogledd Iwerddon" yn arwain at ddatrys y dryswch sy rhwng y gwahanol fodelau, a chryfhau model datganoli i Gymru.

    ReplyDelete

Post a Comment