Bronnau ffug a jôcs budr


Rwy’n cofio’r cyngor ges i wrth fynd ati i gyd-ysgrifennu sgetsh ar gyfer fy nghlwb ffermwyr ifanc lleol: “Gwna’n siŵr bod yna ddigon o benolau, rhechan, a jôcs budr yna fo.”

Cyn i chi ddechrau meddwl mai ryw ffermwr di-chwaeth oedd ffynhonnell y cyngor yma - roedd yn brifardd sydd wedi ennill Coron a Chadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol!

Mae’r ddadl ynglŷn â sgetshys Eisteddfody Clwb Ffermwyr Ifanc yn un sydd wedi hollti fy nghyfeillion. Ar yr un ochor mae’r Twitterati Cymraeg sy’n unfrydol o’r farn mai sothach gwarthus a hiliol yw’r cwbl, ar y pen arall mae nifer o gyfeillion o Ddyffryn Teifi sydd wedi ymateb yn chwyrn i unrhyw feirniadaeth o’r sefydliad sydd mor agos at eu calonnau nhw.

Mae fy ffrwd Facebook yn ferw o bobol yn cwyno am gynnwys y sgetshys ar un llaw, a phobol yn cwyno bod S4C wedi tynnu’r sioe o Clic cyn iddyn nhw gael cyfle i’w wylio ar y llaw arall.

Un peth mae’n bwysig i bobol ei gofio yw nad sgriptwyr proffesiynol sy’n rhoi’r pethau yma at ei gilydd. Dynion a merched ifanc, rhai yn ddim mwy na phlant, sy’n mynychu’r ffermwyr ifanc a nhw sy’n creu’r deunydd. Mae’r amser a’r ymdrech y maen nhw’n ei fuddsoddi yn y gwaith yn anghredadwy. Ond mae eu hoed i raddau yn esbonio’r holl fronnau plastig a jôcs budr. Nid syniad ‘cefn gwlad’ am beth sy’n ddoniol yw hyn, ond syniad pobol ifanc am beth sy’n ddoniol (dyw lot o’r ffermwyr ifanc ddim yn ffermwyr).

Mae’r cystadleuwyr yma yn perfformio ar lwyfan am tua phum munud o flaen tyrfa o bobol ifanc eraill o’r Ffermwyr Ifanc. Mae’n anochel bod y comedi yn mynd i fod yn amlwg ac yn ddwl. Mae'r bobol ar Twitter sy'n galw am ryw fath o ddychan soffistigedig yn bod braidd yn afrealistig yn fy nhyb i.

Serch hynny roedd rhywfaint o’r cynnwys gafodd ei ddarlledu ar S4C o’r Eisteddfod nos Sadwrn yn annerbyniol - yn benodol y sgetsh ‘infamous’ am y ddau ddyn o China. Yn hynny o beth rwy’n credu bod y sianel a’r trefnwyr wedi gwneud cam â’r bobol ifanc fu’n cymryd rhan. Ar ryw bwynt fe ddylai rhywun oedd yn ddigon hen i wybod yn well fod wedi atal y peth rhag digwydd, neu o leiaf atal ei ddarlledu. Wedi’r cyfan, uchafbwyntiau'r sioe gafodd eu darlledu ar S4C - lle oedd y golygwyr?

Mae nifer o bobol wedi adfyddino ar y we ac ar y radio i amddiffyn y CffI rhag y cyhuddiadau o hiliaeth yn ei erbyn. Digon posib bod nifer o’r rhain wir ddim yn deall beth oedd yn bod ar y sgetsh - mae nifer o bobol felly i’w cael a dydyn nhw ddim yn gyfyngedig i’r ffermwyr ifanc nag i gefn gwlad. Ond rwy’n credu bod eraill yn gwrthateb mor chwyrn oherwydd bod y CffI yn rhan mor bwysig o’u bywydau a’u bod nhw’n teimlo bod pobol o’r ‘tu allan’ yn ymosod arno’n annheg. Doeddwn i ddim yn ymwybodol iawn o CffI cyn symud i Ddyffryn Teifi, ond mae’n rhan hynod o bwysig iawn o wead cymdeithasol yr ardal.

O brofiad personol gallaf ddweud bod 99.9% o’r hyn y mae’r Ffermwyr Ifanc yn ei wneud yn waith hynod gadarnhaol. Maen nhw’n gwneud gwaith eithriadol wrth hybu’r iaith a digwyddiadau cymunedol ar draws Cymru. Roedd fy nghariad yn aelod brwd am flynyddoedd ac fe fydd y plant yn cael mynd pan maen nhw’n ddigon hen. Mae angen dysgu gwersi o beth ddigwyddodd nos Sadwrn, ond mi fyddai yn cymryd nifer o gamau gwag cyn dadwneud y budd y mae’r Clwb Ffermwyr Ifanc wedi ei roi i Gymru dros y blynyddoedd.

P.S. Roedd ein sgetsh ni’n cynnwys toreth o benolau, bronnau ffug, rhechan, a jôcs budr. Ond doeddwn i heb feistroli’r hiwmor yn amlwg, achos roedd y sgetsh yn agos iawn at waelod y pentwr yng ngolwg y beirniad!

Dyma ambell i farn  amgen ar y pwnc - Dylan Llyr sy'n dadlau bod 'Hiliaeth amrwd' i'w weld yn y sioe, a Rhydian Mason yn dadlau i'r gwrthwyneb.

Comments

  1. Ni fyddai'n gymaint o broblem oni bai am ddau brif beth: 1) y ffaith bod y fath ddarnau wedi cael eu darlledu ar sianel deledu genedlaethol, a 2) bod dadleuon y sawl sydd wedi neidio i amddiffyn yr eitemau ar Radio Cymru a Golwg 360 ac ati mor wirioneddol erchyll.

    Pe na bai camerâu S4C yno, byddwn wedi anwybyddu'r holl beth (a dweud y gwir, mae'n siwr na fyddwn hyd yn oed wedi dod yn ymwybodol ohono).

    Mae darn Rhydian Mason yn ofnadwy gyda llaw.

    ReplyDelete
  2. Mae'n anhygoel bod y sgetsh wedi ei ddangos gan S4C. Roedd yn amlwg bod nifer mawr o wylwyr wedi dod i benderfyniad yn annibynol o'i gilydd bod y sgetsh yn annerbyniol - pam nad oedd y gloch wedi canu yn S4C cyn i'r peth gael ei ddarlledu? YMaen nhw'n hidlo yr eisteddfod yn reit llym fel arfer i gael gwared ar unrhyw beth allai achosi tramgwydd.

    O ran y bobol ar Radio Cymru a Golwg 360 - maen nhw'n bod ym mhobman a mae'n nhw'n swnllyd. Mae'r un bobol i weld ar wefannau eraill, yn enwedig y Telegraph a'r Daily Mail. Petawn i'n colli cwrsg dros 'bobol yn anghywir ar y we' fydden i ddim yn cysgu'r nos!

    ReplyDelete
  3. Ond...ond....

    dyma fara menyn blogwyr wedi'r cyfan

    ReplyDelete
  4. Blog diddorol Ifan; diolch.

    (Disclaimer: dwi heb weld y sgets, dim ond wedi gweld lluniau o’r actorion a disgrifiadau o’r cynnwys.)

    Y peth arferol sy'n digwydd pan fo rhywun yn cwyno am rywbeth yn y cyfryngau y maen nhw'n eu ffindio'n anymunol ydy bod nifer o bobol yn ymateb yn y ffyrdd hyn:

    1) "Paid a bod mor PC!/it's PC gone mad!";
    2) Cymryd bod y cwynwr yn sarhau rhywbeth ehangach na phwnc y gwyn, e.e. mudiad neu grwp o bobol;
    3) Dadlau nad ydy'r cwynwr yn medru cymryd joc ("hwyl diniwed") a/neu bod y peth "heb frifo neb";
    4) Reductio ad absurdum, e.e. os ydw i'n cwyno yn erbyn un joc rhywiaethol gan Jimmy Carr, yna dwi hefyd yn erbyn pob math arall o hiwmor lle mae'r targed yn rhywun sydd ddim yn fi.

    Mae'r ymatebion yn erbyn y rhai gwynodd am y Ddeuawd Ddoniol (e.e. yn y sylwadau ar y stori ar wefan Golwg360) yn dilyn y patrwm uchod, ran fwyaf. Nid mod gen i broblem efo pobol yn amddiffyn eu barn, ond dyma fy mhroblemau i efo'r dadleuon uchod ta waeth:

    1) Beth sydd o’i le efo PC? Onid diffiniad reit dda o PC ydy i beidio a thrin pobol mewn ffordd sarhaus? Mewn gwirionedd, mae bod yn wrth-PC yn golygu eich bod yn derbyn y dylai pawb gael dweud be bynnag maen nhw eisiau am unrhyw un arall heb orfod poeni am yr ymateb. Ond yn fy marn i ddylai hiwmor ddim fod yn greulon oni bai fod targed yr hiwmor mewn rhyw ffordd yn ‘haeddu’ y creulondeb hwnnw. Mae dychan os ydy’r dychanedig yn aelod seneddol neu’n selebriti neu’n ffigwr rhyngwladol yn OK os ydy’r hiwmor yn ffordd i ni danseilio’r ffigwr hwnnw rywsut. Er enghraifft, byddai modd gwneud hwyl am ben Silvio Berlusconi am ei holl dramgwyddau. Ond fyddai hi hefyd yn OK gwneud hwyl am ben Berlusconi am ei fod yn Eidalwr—h.y. deillio’r hiwmor o hynny ac nid o’i feiau? Na, yn fy marn i. Fel mae rhywrai eraill wedi ei awgrymu, am wn i na fyddai pobol gwrth-PC Cymru’n hapus pe bai rhywun yn y cyfryngau Saesneg yn dechrau dychanu’r Cymry mewn ffordd mor hyll a’r ddeuawd am y ddau Tseiniwr.

    2) Fel dywedaist ti, Ifan, mae llawer o dda i’w ddweud dros y Ffermwyr Ifanc yng Nghymru, ac nid oes synnwyr mewn eu gwaradwyddo nhw oherwydd natur eu sgetsys. Yn wir, mae angen, i raddau, pwyntio allan y ffaeleddau prin er mwyn gwella mudiadau fel hyn ar y cyfan. Petasai’r ffaeleddau’n mwy cyson yna byddai problem. Ac nid y Ffermwyr Ifanc yn unig sy’n gwneud y sgetsys o’r math yma, wrth gwrs. Dwi wedi gweld sgetsys gan yr Urdd sy’n amrwd iawn o ran eu aeddfedrwydd. Mae nosweithiau llawen ddi-ri yn cynnwys hiwmor sydd ar y continwwm yma, a llawer ohono’n perthyn i oes a fu. Os oes bai yma nid bai’r Ffermwyr Ifanc ydy o, ond bai cynilleidfaoedd Cymru (a Lloegr ac ati, mewn gwirioonedd) am beidio a sylweddoli pan fo hiwmor yn mynd rhy bell.
    (...)

    ReplyDelete
  5. (parhad)
    3) Di-os bod rhai’n cwyno am bethau anchwaethus yn y cyfryngau am resymau anghywir. Er enghraifft, weithiau mae comediwr yn dweud rhywbeth sydd yn amlwg i fod i’w gael ei gymryd fel eironi. Mae Stewart Lee yn gwneud y math yma o beth drwy’r amser. Ac weithiau mae aelod o’r cyhoedd yn clywed hyn ac yn ymateb fel ei fod o ddifri. Ond dim hynna sydd yma, yn fy marn i. Mae modd i mi, er enghaifft, dderbyn a mwynhau ystod eang o hiwmor, hyd yn oed llawer ohono sy’n “close to the bone”, ond cael fy ngwrychyn wedi ei godi pan fo pethau’n mynd, yn fy marn i, yn rhy bell. Mae’r ddadl bod gan neb hawl i wrthwynebu i bethau’n un hurt. Mae hefyd yn hurt awgrymu nad oes gan rywun hawl i bwyntio allan i gomediwyr bod un o’u jocs wedi brifo rhywun. Dylai comediwr ystyried os ydy’r hyn maen nhw’n ei wneud yn werth ei wneud os ydy o’n plesio 95% ac yn digio 5%. Am wn i y byddai artistiaid y sgetsys dan sylw yn nodi bod y gynilleidfa wedi eu mwynhau a bod y beirniad wedi dyfarnu un ohonyn nhw’n haeddiannol o wobr. Ond yn fy marn i dydy’r ffaith eich bod yn plesio’r mwyafrif ddim o reidrwydd yn golygu eich bod yn iawn bob tro. (Drwy ddigrifwyr y mae synnwyr hiwmor pobol yn cael ei feithrin mewn gwirionedd, a dybiwn y bod pobol yn cael eu dylanwadu gan yr hyn maen nhw’n ei weld ar lwyfannau ac ar deledu ac ati.)

    4) Mae reductio ad absurdum yn beth peryglus i’w wneud, a dwi’n euog ohono weithiau. Mae’n ffordd hawdd o danseilio dadl rhywun arall. Hwyrach mod i wedi ei ddefnyddio yn y paragraffau uchod! Ond y broblem efo awgrymu bod rhywun yn erbyn pob hiwmor achos eu bod nhw yn erbyn un enghraifft o hiwmor anchwaethus ydy bod hynny’n (i) caniatau popeth ac (ii) yn camddehongli safle’r dadleuwr. Yn fy marn i mae’n iawn i rywun ddweud “ro’n i’n ffindio’r sgets am y ddau ddyn o Tseina’n annymunol am ei fod o’n defnyddio hen ystrydebau sydd yn diraddio pobol Tseiniaidd ac, yn fwy o bosib na hynny, yn awgrymu mai dyma lefel hiwmor siaradwyr Cymraeg heddiw” heb i’r person hwnnw orfod casau popeth arall am y CFfI, popeth arall am gefn gwlad Cymru, popeth arall am hiwmor y Cymry ac holl gyfryngau Cymru.

    Yn y bon dwi’n cytuno efo’r hyn ddywedodd Dylan (os y deallais i o’n iawn). Mae hawl gan y bobol ifanc yma i gyflwyno’r fath hiwmor, ond mae hawl hefyd gan bobol eraill i wrthwynebu iddo ac i fynegi hynny. Rol S4C ydy nid i ddarlledu popeth gan Gymry fel pe bai o i gyd yn gyfartal, achos mae angen cofio bod S4C yn wyneb cyhoeddus yr iaith a’r diwylliant. A dylai cynilleidfaoedd a digrifwyr Cymru edrych ar eu hunain yn fanwl a mesur os mai dyma’n wir ydy’r diwylliant maen nhw isio i’r byd weld, cyn dadlau mai traddodiad ydy o ac felly bod traddodiad o’i hanfod yn rhywbeth i’w drysori—waeth pa mor sarhaus ydy o.

    ReplyDelete
  6. Wel, dyma'r petha calla dwi di darllan am hyn i gyd hyd yma. Amen Peredur ac Ifan!

    ReplyDelete
  7. ddylia'r ffermwyr ifanc gallio a ddylia S4C godi eu safonau cywilyddus i hunain- ma'n anodd stumogi'n gwlad fychan ni weithia.

    ReplyDelete
  8. peidiwch a'i wylio os nad ydych yn ei hoffi - syml!

    ReplyDelete
  9. Na. Er gwell neu er gwaeth, fel Cymry Cymraeg mae S4C yn ein cynrychioli. Pe darlledir rhywbeth fel hyn heb unrhyw. feirniadaeth, byddai'n adlewyrchu'n uffernol arnom.

    Embaras oedd fy nheimlad pennaf wrth wylio, oherwydd dyma ein sianel ni.

    ReplyDelete
  10. Rwy'n aelod o dîm sy'n gweithio ar brosiect pwysig newydd sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg a hoffen ni ofyn am eich help. Tybed a fyddai modd i chi anfon eich cyfeiriad ebost ata i fel 'mod i'n gallu anfon mwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda?

    Cofion,
    Dr Dawn Knight, Prifysgol Newcastle CorpwsCymraeg@gmail.com

    ReplyDelete

Post a Comment