Gwobrau Blogio Cymru


Yr wythnos diwethaf fe fues i lawr ar gyrion Caerdydd yn penderfynu ar restr fer y Wales Blog Awards

Roedd dros 300 o flogiau wedi eu henwebu eleni ac roedd penderfynu ar y goreuon yn glamp o dasg. Wedi darllen drwyddyn nhw yn unigol, fe dreuliais i a’r pedwar beirniad arall ddiwrnod cyfan mewn ystafell (gyda chymorth brechdanau a llawer iawn o sudd oren) yn hidlo’r 300 i lawr i’r tua 30 sydd ar y rhestr fer.

Mae’r rhestr bellach wedi ei gyhoeddi ar y wefan swyddogol fan hyn.

Y newid mawr eleni o safbwynt blogiau Cymraeg ydi eu bod nhw’n cael eu cynnwys yn yr un catgeoriau a’r blogiau eraill, yn hytrach na dan gategori ar wahân.

Roeddwn i wedi trafod y rhesymau y tu ôl i’r penderfyniad hwnnw yn fy erthygl ar wefan Global Voices ym mis Gorffennaf. Felly yn hytrach nag esbonio unwaith eto waeth i fi ddyfynnu y darn perthnasol:

These online Welsh language communities do not, however, exist in a bubble. As well as being part of a community in and of itself, Welsh blogs are a part of countless other clusters. They are part of a wider blogging scene within Wales.
Blogmenai, which is written by a member of the nationalist party Plaid Cymru, is part of a wider political blogosphere. Dylan Llyr’s blog Anffyddiaeth (Atheism) also exists in a community of religious (or irreligious) blogs. His blog often interacts with another English language blog, written by a Welsh speaking atheist who sometimes translates Dylan’s musings for his own followers. Technologies such as Google Translate complicate things further – many Welsh language blogs now feature a button to automatically translate their content into English.

This is reflected in the decision of the Wales Blog Awards this year not to consider Welsh language blogs as their own unique category, as was the case in previous years. Welsh language political blogs will be in the politics section, Welsh language lifestyle blogs will be in the lifestyle section, and so on. That is recognition, I think, not only that Welsh language blogs are good enough to compete against English language blogs on the same platform, but that the Welsh language blogosphere’s influence extends far beyond the boundaries of the language itself.

Yn anffodus un o sgil effeithiau'r penderfyniad yma ydi bod llai o flogiau Cymraeg ar y rhestr fer eleni- mae yna un blog gyfan gwbl Gymraeg, Hacio’r Iaith, ar restr y blogiau technolegol, ac un blog ddwyieithog, y Cneifiwr, ar restr fer y blogiau gwleidyddol.

Ond wedi gwneud y penderfyniad i gynnwys blogiau Cymraeg yn yr un categorïau a’r rhai Saesneg, roedd rhaid eu gwobrwyo nhw ar sail teilyngdod. Doeddwn i ddim eisiau cynnwys blogiau Cymraeg nad oedd yn haeddu bod yna dim ond am eu bod nhw yn Gymraeg - ac fe fyddwn i wedi bod yn ddigon hapus peidio cynnwys unrhyw flogiau Cymraeg o gwbl os nad oedden nhw’n cwrdd â’r safon.
Yn anffodus nid oedd nifer o’r blogiau Cymraeg gorau (yn fy nhyb i) wedi eu henwebu o gwbwl, a doedd y rhai oedd wedi eu henwebu yn aml ddim cystal â’r blogiau Saesneg gyrhaeddodd y rhestr fer.

Serch hynny gellir bod yn sicr bod y blogiau Cymraeg sydd wedi cyrraedd y rhestr fer wedi gwneud hynny am eu bod nhw’n llawn haeddu bod yno. A dweud y gwir mae’r broses wedi bod yn dipyn o agoriad llygaid i mi ynglŷn â safon y blogiau sy’n cael eu hysgrifennu yng Nghymru. Efallai bod y wasg draddodiadol yn wan iawn yng Nghymru, ond serch hynny (neu efallai oherwydd hynny) mae safon ein blogiau gorau ni yn uchel iawn.

Bydd cyfle i'r cyhoedd ddewis eu hoff flog o'r rhestr fer ar gyfer gwobr Blog Gorau Cymru - felly cofiwch bleidleisio!

Comments

  1. Twt lol Ifan. Mae'n amhosib cyfiawnhau dim ond un blog Cymraeg tra bod 31 Saesneg ar y rhestr fer. Mae Y Cneifiwr yn ddifyr iawn ond go brin y galli di ei alw'n ddwyieithog yn fy marn i.
    Mae Hacio'r iaith yn ardderchog ac yn haeddu ennill ei gategori, ond peryg y system newydd ydi mae blogs Saesneg fydd yn mynd a hi ymhob categori, bob blwyddyn.
    Digon y yrru blogwyr Cymraeg i droi yn 'ddwyieithog' efallai...
    (Gwell i mi ddatgan diddordeb gan imi enwebu un blog -ond prysuraf i bwysleisio nad fy un i oedd hwnnw).

    ReplyDelete
  2. "Mae'n amhosib cyfiawnhau dim ond un blog Cymraeg tra bod 31 Saesneg ar y rhestr fer."

    Felly fe fyddai yn well cynnes blogiau Cymraeg digon cyffredin eu safon a hepgor blogiau Saesneg o safon gwell? Hynny yw, rhoi mantais i rai blogiau am eu bod nhw'r Gymraeg yn unig?

    Fe alla'i feddwl am nifer o flogiau Cymraeg eraill a fyddai wedi cyrraedd y rhestr fer yn eu categori, ond yn anffodus doedd yr un o'r rheini wedi eu henwebu ar gyfer y gwobrau.

    "peryg y system newydd ydi mae blogs Saesneg fydd yn mynd a hi ymhob categori, bob blwyddyn."

    Dyw hynny ddim o reidrwydd yn wir, ond bydd gan blogiau Seasneg fantais amlwg gan bod cymaint yn fwy ohonyn nhw. Ond y dewis arall yw mynd yn ol at yr hen system lle roedd y blogiau Cymraeg wedi eu gwahanu yn llwyr mewn categori ar wahan, sydd ddim yn ateb boddhaol chwaith.

    ReplyDelete
  3. Cytuno fod angen ystyried safon, ond peth creulon iawn ydi'r label 'dim teilyngdod'. A beth bynnag, mae 5 blog ar un rhestr fer, pedwar ar un arall, a thri ar y rhan fwyaf. Mae rhestr fer o ddau yn yr adran gymunedol yn siwr o fod yn glec i hyder y rhai eraill oedd ar y rhestr hir.. ni fyddai angen "hepgor blogiau Saesneg o safon gwell" o gwbl.
    Ta waeth, beth am gael enillydd Saesneg ac enillydd Cymraeg ymhob categori (a chwtogi nifer y categoriau os oes angen), efo'r cyhoedd yn pleidleisio am un brif wobr yr un fath? Mae'n bosib weithiau y bydd angen atal y gwobrau, ond o leia' mae'r cyfle yn decach i'r blogwyr Cymraeg.
    Wedi deud hyn i gyd, mae prif enillydd 2011 wedi mynd yn ddistaw iawn tydi. Unarddeg post yn unig gafwyd ar yr ardderchog FFWTBOL hyd yma eleni. Siom.

    ReplyDelete
  4. Yn anffodus un o sgil effeithiau'r penderfyniad yma ydi bod llai o flogiau Cymraeg ar y rhestr fer eleni

    Dw i'n meddwl mai'r diffyg niferoedd sy wedi cael eu henwebu sy'n gyfrifol am hyn ac ni rhyw ddiffyg yn y drefn newydd.

    DW i ddim chwaith yn credu bydd neb yn colli cwsg am beidio cael eu henwebu nac yn mynd i newid iaith eu blogiau o'r herwydd.

    Nid mod i'n rhyw ffan mawr o gystadlaethau fel hyn, ro'n i'n meddwl byddai system fel hyn yn 'gorfodi' PAWB i fynd ag edrych ar y blogiau Cymraeg, ble fallai byddai'r rhai CYmraeg wedi cael eu hanwybyddu gan y di-Gymraeg yn y gorffenol.

    Ond o ran y berniadau wedyn, ydy eu rhoi trwy Google Translate yn rhoi chwarae teg iddynt os nad yw'r beirniad yn dallt Cymraeg? Oedd rhaid i ti gyfieithu/esbonio tipyn o'r cynnwys i'r beirniaid eraill?

    Ta waeth, beth am gael enillydd Saesneg ac enillydd Cymraeg ymhob categori
    Byddai hynna yn 'ddatrysiad' posib, ond eto, gallai edrych fel rhyw ffics!

    Y peth yw, dw i ddim yn gwybod os mai diffyg diddordeb neu ymwybyddaieth oedd yn gyfrifol am y ffaith bod dim llawer o flogiau Cymraeg wedi eu henwebu.

    D wi'n cael yr argraff (a dw i'n deud hyn fel rhywun yng Ngaherydd) bod yr holl beth yn Caerdydd-centrig iawn yn y gorffenol, a'r trefnu'n cael ei wnedu mewn preifat ymysg teips sy'n gweithio yn y byd PR a'r cyfryngau (nid cynhyrchwyr y blogiau mwya difyr fel arfer!).

    Ac os nad o'ch chi'n digywdd bod yn bodoli mewn rhyw bybl, fyddech ddim yn gwybod am y peth. Yn y gorffenol dw i wedi enwebu blogiau o'r gogledd Rhuthun/Ruthin a llynedd Ffwtbol. Gwnes hyn gan mod yn meddwl bd y ddau yn arbennig o dda, ond hefyd gyda'r bwriad o ddenu sylw at flogiau o'r gogledd pell. Fel mae'n digwydd gwnaeth y ddau y ennill eu categoriau, ond gafodd fy enwebiadau dim cystal lwc eleni.

    ReplyDelete
  5. Diolch am eich sylwadau, Wil a Rhys.

    Dw i ddim yn siwr a gafodd digon o flogiau Cymraeg eu henwebu i gael categori Cymraeg a Saesneg ym mhob achos. A wedyn fe fyddet ti mewn sefyllfa ble y byddai yr un blogiau Cymraeg mewn sawl categori.

    Na, dw i ddim yn meddwl bod yna ryw lawer yn bod efo’r fformat, yr unig broblem yw na chafodd nifer o’r blogiau Cymraeg gorau eu henwebu yn y lle cyntaf. Os mai diffug ymwybyddiaeth sy’n gyfrifol am hynny, mae angen gwneud mwy i godi proffil y gwobrau.

    Os mai diffyg diddordeb sy’n gyfrifol, a nad yw blogwyr Cymraeg eisiau bod yn rhan o’r gystadleuaeth, yna does dim llawer o bwynt cwyno os nad ydyn nhw’n ennill.

    “Ond o ran y berniadau wedyn, ydy eu rhoi trwy Google Translate yn rhoi chwarae teg iddynt os nad yw'r beirniad yn dallt Cymraeg? Oedd rhaid i ti gyfieithu/esbonio tipyn o'r cynnwys i'r beirniaid eraill?”

    Roedd dau o’r bump beirniad yn siarad Cymraeg. Roedd y lleill o reidrwydd yn gorfod derbyn ein barn ni ar y mater – os oedden ni’n meddwl bod blog Cymraeg yn haeddu lle ar y rhestr fer, dyna oedd yn tueddi i ddigwydd.

    Nid beirniaid di-Gymraeg benderfynodd nad oedd blogiau Cymraeg am fod ar y rhestr, ond beirniaid Cymraeg oedd yn credu bod y blogiau Saesneg sydd ar y rhestr o well safon!

    ReplyDelete

Post a Comment