Gweledigaethau Leanne Wood


Mae yna gyfweliad diddorol â arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ar wefan y Guardian yr wythnos hon, er mwyn cyd-fynd â chynhadledd y Blaid ar y penwythnos.

Roeddwn i wrth fy modd yn gweld Leanne yn rhoi gymaint o bwyslais ar yr economi, mater sydd yn fy nhyb i yn haeddu llawer mwy o sylw gan wleidyddion Cymru nag y mae yn ei gael (whither y Gweinidog Menter a Busnes, Edwina Hart, y dyddiau hyn?).

Ond er bod Leanne Wood yn ei gwneud hi’n blaen bod angen gwella economi Cymru cyn gallu ystyried annibyniaeth, does yna ddim manylion pendant ynglŷn â sut yn union y bydd y blaid yn gwneud hynny.

“This economy commission that I have set up will be coming out with a raft of proposals in terms of taxation policy, so the specifics will have to wait, I'm afraid.”

Serch hynny mae hi’n rhestru rhai o’r prif broblemau sydd gan Gymru, er enghraifft:

“There are a whole host of statistics that show that people in Wales are facing cuts that are worse [than elsewhere in the UK] because the public sector here is greater, and the number of people claiming benefits here is greater. And our unemployment rates are higher, which means that there is more demand on the public purse.”

Y broblem bennaf sydd gan Blaid Cymru fan hyn yw ei bod hi’n blaid adain chwith sosialaidd, ac felly dyw hi ddim yn mynd i awgrymu’r math o atebion sydd ei angen er mwyn datrys y broblem yma. Os yw sector gyhoeddus fawr yn sefyll yn ffordd annibyniaeth, yr ateb amlwg yw bod angen lleihau maint y sector gyhoeddus. Os yw diweithdra yn uchel, mae angen cynyddu maint y sector breifat. Gellir gwneud hynny drwy fuddsoddi rhagor yn isadeiledd y wlad a gostwng treth gorfforaeth (rywbeth y mae Gogledd Iwerddon wedi bod yn galw amdano), er mwyn rhoi rheswm da i fusnesau leoli eu hunain yng Nghymru yn hytrach na Lloegr.

Ond mae Plaid Cymru yn blaid sosialaidd a Leanne Wood yr arweinydd mwyaf adain-chwith yn ei hanes. Ydi hi wir yn credu digon mewn annibyniaeth i argymell y polisïau Toriaidd bron sydd eu hangen er mwyn cau’r diffyg ariannol £6 biliwn rhwng faint mae Cymru yn ei godi a faint mae’n ei wario?

Fe fydd yn ddiddorol iawn gweld beth sydd gan gomisiwn economaidd y blaid i’w ddweud ar y mater! Ac yn fwy na hynny, a ydi pobol Cymru eisiau clywed beth fydd ganddyn nhw i'w ddweud...

Yr Iaith

Rydw i’n tueddu i ystyried dyfodol yr iaith ag annibyniaeth yn ddau fater sy’n gyfan gwbwl ar wahân. Oes, mae yna ganran o bobol yng Nghymru sydd eisiau annibyniaeth am eu bod nhw’n credu bod Cymru wedi cael cam hanesyddol a bod annibyniaeth yn fater o falchder cenedlaethol. Yn hynny o beth mae yna gysylltiad rhwng yr iaith a’r deheuad am annibyniaeth, sef bod y ddau beth yn ganlyniad i ddymuniad y Cymry i gael eu hystyried yn bobol ar wahân sydd â’u diwylliant unigryw eu hunain.

Ond yn ymarferol rwy’n cefnogi annibyniaeth am resymau economaidd, ac mae’n amlwg o sylwadau Leanne Wood ac erthygl Adam Price yn y Guardian eu bod nhw bellach yn gwneud hynny hefyd.

Beth sydd yn pryderu rhywun ydi bod sylwadau’r ddau hefyd yn ei gwneud hi’n amlwg eu bod nhw’n barod i gefnu ar ymrwymiad hanesyddol y blaid i’r iaith Gymraeg er mwyn hybu annibyniaeth. Dyma sydd gan Adam i’w ddweud:

“Welsh nationalism's fault has been its failure to communicate directly with people in all parts of Wales. A party that wanted to conserve (language and culture) and modernise (economy and institutions) at the same time was always going to run the risk of sending mixed messages. Seen through a largely external media's lens, Plaid, with its monolingual moniker, was branded a Welsh language party in the mental maps of the English-speaking majority.

“This conference is a chance to recalibrate Welsh nationalism's priorities, and train its sights squarely on the squandered potential that is today's Welsh economy.”

Hynny yw, mae angen dewis rhwng brwydro dros yr iaith ac achub economi Cymru. Mae’r economi yn bwysicach, a’r iaith yn llesteirio ymdrechion y blaid i gyfathrebu hynny. Felly hwyl fawr i’r iaith.
Mae Adam a Leanne hefyd yn barod iawn i bwysleisio’r ffaith nad y Gymraeg yw iaith gyntaf Leanne:

 “Wood is not only the first woman to lead the party, she is the first, like 80% of Welsh people, who wasn't brought up a Welsh language speaker.” – Adam Price

“I rarely use the Welsh language myself in my day-to-day work, so in some senses you could argue that they already have [a non Welsh-speaking leader].” – Leanne Wood

Naill ai mae Leanne Wood yn bod yn hynod o ddiymhongar fan hyn, neu mai hi’n mynd ati’n fwriadol i ymbellhau’r blaid oddi wrth yr iaith Gymraeg. Achos mae unrhyw un sydd wedi ei chlywed hi’n siarad yr iaith yn gwybod ei bod hi’n gwbl rhugl i bob pwrpas. Mae honni ei bod hi’n ‘non-Welsh speaking’ yn rybish llwyr.

Efallai bod arweinyddiaeth Plaid Cymru yn teimlo erbyn hyn bod y blaid wedi gwneud ei dyletswydd dros yr iaith, a bod yna gonsensws gwleidyddol sy’n golygu bod yr iaith yn ‘saff’ erbyn hyn. Mae sylwadau Leanne Wood yn sicr yn rhoi’r awgrym yna:

“What we've seen happening in Wales is that the British parties, the unionist parties, have taken on a lot of the policies that we've been advocating. We advocated the reform of the Barnett formula, measures to defend the Welsh language, for example, and the parties have come on board, on to our territory. There's no difference between the parties on those issues.”

I ba raddau felly mae’n saff i’r Blaid ddechrau ymbellhau oddi wrth yr iaith? Rydw i’n credu y bydd canlyniadau’r Censws nesaf yn ateb y cwestiwn yna i raddau helaeth.

Ond rydw i’n tueddu i fod o’r un farn a Saunders Lewis, sef bod “yr iaith yn bwysicach nag ymreolaeth”. Wedi’r cwbwl, rydw i’n credu y gallai annibyniaeth arwain at gyfoeth economaidd i Gymru. Ond mae’r iaith yn drysor sydd gennym ni yn ein dwylo nawr, ac fe fyddai yn drueni mawr gadael iddo lithro rhwng ein bysedd ni.

Comments

  1. Mae'r iaith yn bwysig ond mae hi'n tyfu yn yr ardaloedd sy'n du fas i'r Fro Gymraeg. Mae angen polisi iaith gryfach i'r Hen Dywysogaeth (tirwedd naturiol Plaid Cymru) a chadw pethau fel y mae hi yn yr hen Mers.

    ReplyDelete
  2. Wyt ti wedi gwylio'r rhaglen teledu Tynged yr Iaith gydag Adam Price?

    ReplyDelete
  3. Nagydw, Carl. Werth ei weld? Ydi o'n taflu unrhyw oleuni ar bethau?

    ReplyDelete
  4. Dw i ddim yn siŵr os ydw i'n cytuno gyda'r frawddeg 'Hynny yw, mae angen dewis rhwng brwydro dros yr iaith ac achub economi Cymru.'. Mae'r ddau yn mynd gyda'i gilydd. Ond mae'n dibynnu pa fath o economi...

    Mae polisiau economaidd call mor bwysig yn fy marn i. Economi wag yw un ffactor sy'n achosi all-lifiad - o bentrefi Cymraeg eu hiaith, o Gymru. Hefyd mae economi wag yn arwain at bob math o syniad erchyll fel niwcs yn Aberdaugleddau, gorsaf niwclear ar Ynys Môn...

    Mae diffyg dychymyg. Dw i ddim yn ymwybodol o unrhyw beth fel Mondragon yng Nghymru, er enghraifft. Dw i'n siŵr bod modd datblygu mentrau cynaliadwy o ran arferion busnes ac iaith.

    Beth wyt ti'n meddwl?

    Dw i'n gwybod dy fod ti'n cyfeirio at erthygl Adam Price ond dw i'n methu siarad ar ei rhan! Mae fe'n siarad yn y rhaglen yma:
    Tynged yr Iaith gydag Adam Price ar S4C

    23:39 - mae darn am yr economi a'r iaith (gwaith Brinley Thomas ayyb) sydd yn berthnasol i'r sgwrs yma am yr economi.

    ReplyDelete
  5. Economi *wan* o'n i eisiau dweud.

    ReplyDelete
  6. Dwi'n rhannu peth o dy bryderon ond dwi hefyd yn cytuno hefo Adam Price bod angen datblygu narratif genedlaetholgar trwy'r Saesneg.Pendraw rhesymegol dyhead cenedlaetholwyr Cymraeg i weld mwy o ryddid i Gymru yw bod rhaid cofleidio'r Gymru Saesneg er mwyn gweld hyn yn digwydd.Mae angen inni fel Cymry Cymraeg wneud defnydd o'n dwyieithrwydd i fynnu rhan yn y narratif Saesneg hwn, fel bod agwedd gydymdeimladwy at y Gymraeg yn datblygu'n elfen greiddiol ohono. Er mor bwysig yw hi i Gymry Cymraeg "fyw eu bywydau trwy'r Gymraeg", mae gofyn cenhadol arnom bellach i ymestyn ein gorwelion a chreu mwy o gysylltiadau hefo pobl di-Gymraeg. Rhaid inni beidio twf cenedlaetholdeb trwy gyfrwng y Saesneg, ond yn hytrach ei ddychmygu fel grym gweddnewidiol all helpu'r Gymraeg yn y pendraw. Dwi hefyd yn meddwl bod rhaid i Blaid Cymru feddwl o ddifrif am lunio ddiffiniad deng mlynedd o ran eu safbwynt at y y Gymraeg: a hwnnw'n seiliedig ar gynnal y Gymraeg yn yr ardaloedd Cymraeg a'i annog yn yr ardaloedd di- Gymraeg. Efallai gellid gosod targed o godi nifer siaradwyr Cymraeg i 25- 30% yn ystod y cyfnod hwn, er mwyn dangos i'r etholwyr bod ymrwymiad Plaid Cymru i'r Gymraeg yn gadarn,ond ei fod yn gymesur ac yn rhesymol.

    ReplyDelete
  7. @Carl – “Dw i ddim yn siŵr os ydw i'n cytuno gyda'r frawddeg 'Hynny yw, mae angen dewis rhwng brwydro dros yr iaith ac achub economi Cymru.'.”

    Sori os nad oeddwn i’n glir, nid fi sy’n dweud hynny, ond y dyfyniad gan Adam sy’n awgrymu hynny!

    Serch hynny, yn bersonol, dydw i ddim yn hollol argyhoeddedig y byddai annibyniaeth o les i’r iaith. Yn syml oherwydd y byddai llai o arian ar gael i’w wario beth bynnag, a hefyd oherwydd y byddai’r cyhoedd yn scriwtineiddio yn llawer agosach lle mae’r Cynulliad yn gwario’i arian pe bai Cymru yn annibynnol.

    @Aled GJ – Dw i’n cytuno bod angen gwneud mwy i geisio annog y di-Gymraeg i gredu yng ngallu y Cymry i lwyddo o’u pen a’u pastwn eu hunain.
    Mae’r iaith yn fendith ac yn fwrn mewn ffordd. Yn fendith am ei fod yn cyfoethogi ein diwylliant ni i’r fath raddau, yn fwrn am ei fod yn holltii’r wlad rhwng y Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg. Roeddwn i’n ystyried yn ddiweddar ai’r ffaith bod nifer o’n unigolion mwyaf creadigol yn creu cynnyrch Cymraeg, sy’n anweledig i’r di-Gymraeg, yn gyfrifol am y ffaith bod Cymru ei hun yn weddol anweledig ar lwyfan y byd; o’i gymharu gyda’r Iwerddon, yr Alban ayyb?

    ReplyDelete

Post a Comment