Stori ryfedd y Western Mail

Roedd stori ryfedd iawn ym mhapur newydd y Western Mail y bore ma. A dweud y gwir fe ddes i ar ei draws gyntaf ar y we, methu a gwneud pen na chynffon ohono, a chymryd mai ymdrech digon tila i lenwi rhywfaint o le gwag yn ystod dyddiau cŵn yr haf ydoedd. Ond yna fes es i’r siop bapurau amser cinio a gweld ei fod ar y dudalen flaen!

Mae rhywun fel arfer yn darllen y tu hwnt i’r paragraffau cyntaf mewn stori os ydyn nhw eisiau darlun cliriach - ond yn achos y Western Mail dw i fel arfer yn teimlo’n fwy dryslyd y mwyaf o’r erthygl ydw i’n ei ddarllen. Rydw i wedi rhoi'r gorau i gyfri sawl gwaith wrth olygu Golwg 360 ydw i wedi gofyn i un o fy newyddiadurwyr ddatblygu stori oedd wedi torri yn y Western Mail, a nhwythau yn dod yn ôl ata’i wedyn a dweud ‘um, dyw’r stori yn y Mail ddim cweit fel y mae’n ymddangos’.

Esiampl da yw’r stori ‘Welsh-only education will damage economy, say business leaders’. Dwn i ddim a yw’n haeddu linc, ond dyma fo. Mae’r pennawd yn gaddo llawer iawn, ond yn anffodus dyw’r stori ei hun ddim yn ei gyfiawnau o gwbwl. Pan ydw i’n meddwl am ‘business leaders’, rydw i’n tueddu i feddwl am Syr Terry Matthews, neu efallai pennaeth CBI Cymru. Ond na, y ‘business leaders’ yw Siambr Masnach Aberteifi. Dyma wefan busnes cadeirydd siambr masnach Aberteifi – mae’n gwerthu darnau o gychod, mae’n debyg.

Beth am stori heddiw, felly? ‘Hopes that Olympics 2012 legacy can improve Wales' productivity’ meddai’r wefan, neu ‘Olympic spirit rallying cry to transform Welsh fortunes’, yn ôl y papur newydd. Digon teg, ond digon amwys hefyd. O ystyried bod hwn yn stori dudalen flaen, byddai rhywun yn disgwyl ryw fath o gysylltiad pendant rhwng economi Cymru, a’r Gemau Olympaidd, i gyfiawnhau’r pennawd.

Mae’r llinellau agoriadol yn cyfeirio at adroddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n dangos bod yna lawer o bobol hen, anabl, a di-waith yn byw yng Nghymru. Tell us something we don’t know, ys dywed y Sais. Ond digon teg, mae’r ystadegau yn ddigon diddorol ac yn haeddu stori ar eu pen eu hunain. Efallai y gallai’r Western Mail ymchwilio i pam y mae yna gymaint o bobol hen ac anabl bellach yn byw yng Nghymru.

Mae’r erthygl yn mynd i drafferthion difrifol yn y pedwerydd paragraff:

“Politicians across the party spectrum called on Wales and the UK to learn the lessons from the dramatic turnaround in British sport as demonstrated in the Olympics.”

Rhaid cyfaddef fy mod i’n ei chael hi’n anodd gweld y cysylltiad fan hyn. Roedd Tîm GB wedi gwneud cystal yn y Gemau Olympaidd o’i gymharu â Gemau Olympaidd y gorffennol oherwydd a) Roedden nhw yn cystadlu yn eu gwlad eu hunain, b) Roedden nhw wedi cael llawer mwy o nawdd nag arfer er mwyn sicrhau eu bod nhw’n llwyddiannus. Dydw i ddim yn bychanu ymroddiad y pencampwyr eu hunain, ond mae’n arwyddocaol dw i’n meddwl bod Goldman Sachs wedi darogan y byddai Tîm GB yn cael yr union faint o fedalau y llwyddon nhw i’w hennill.

Sut ellir dysgu gwers o’u llwyddiant nhw er mwyn hybu economi Cymru, felly? Gwneud David Brailsford yn Weinidog Busnes?

Carmarthen West and South Pembrokeshire Conservative MP Simon Hart claimed a critical element of the Olympic success was the readiness of Government to fund expertise but trust athletes and coaches to devise their own strategies for success.

Arguing that such governments should take a similar hands-off approach in other areas, he said: “One of the great fallacies of governments going back decades [is] this idea there is a one-size solution in education or the economy or sport that fits the whole nation ... it never will.”

Eh? Wrth gwrs bod y Llywodraeth yn mynd i roi eu ffydd yn athletwyr a hyfforddwyr i ddyfeisio eu strategaethau eu hunain er mwyn llwyddo. Dyw Jeremy Hunt ddim am fynd lawr i’r Velodrome a dweud wrth Chris Hoy sut i reidio beic, nag ydi?

Felly mae angen i’r Llywodraeth fuddsoddi llawer iawn mwy o arian yng Nghymru, fel y gwnaethon nhw yn nhîm GB, a gobeithio y bydd yr ‘hyfforddwyr’ a’r ‘athletwyr’ yn gwneud y defnydd gorau ohono. Pwy yw’r ‘hyfforddwyr’ a’r ‘athletwyr’ yn nghyd destun economi Cymru, dw i ddim yn gwybod.

Fe allai’r erthygl ddadlau fan hyn bod angen i’r llywodraeth fuddsoddi llawer mwy yn y rhwydwaith drafnidiaeth, er enghraifft, neu ostwng trethi cwmnioedd bach, er mwyn caniatáu’r rhyddid i fusnesau flaguro. Fe fyddai’r trosiad yna yn gwneud ryw fath o synnwyr. Ond dyw’r erthygl ddim yn ymhelaethu o gwbl ac felly dydw i ddim callach.

Yna mae’r erthygl yn pendilio’n ôl at adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gan gyfeirio unwaith eto at nifer y bobol hen ac anabl sy’n byw yng Nghymru. Sut y mae’r bobol oedrannus yma’n gweddu i’r trosiad Olympaidd yma mae’n anodd gwybod. Heblaw eu bod nhw’n cystadlu yn nhîm‘y Gogs’ (Geriatrics o Gymru), tîm rygbi dros-50 oed Caernarfon.

“But the dramatic improvement in Team GB’s medal haul since its disastrous performance in Atlanta 1996 when it won just one gold has fuelled hopes that standards in education and enterprise can be transformed.”

Unwaith eto, beth yn union yw’r cysylltiad fan hyn? Dyma’r Athro Cary Cooper o Brifysgol Lancaster, sydd, hyd y gwela’ i, heb unrhyw gysylltiad â Chymru a sydd ddim yn cyfeirio at Gymru o gwbwl wrth siarad:  

He said: “Manufacturing an event is similar to a manufacturing business or a service – it’s a business and we did a fantastic job. What we have to do in my view is translate that into the workplace. Everybody says that the Americans have a can-do attitude... We just demonstrated we can do all that.”

Mae’n ymddangos ein bod ni wedi rhoi’r gorau i drafod camp athletwyr y Gemau Olympaidd nawr, ac wedi troi at y gwaith o drefnu’r Gemau eu hunain. Roedd yn dipyn o her ac fe wnaeth Llundain yn dda iawn. Nid y £10 biliwn a gafodd ei wario ar y peth oedd yn gyfrifol am hynny, mae’n amlwg, ond ‘can-do attitude’ y trefnwyr. Pe bai gan bawb yng Nghymru'r ‘can-do attitude’ yma, fyddai canran mawr o’r boblogaeth ddim yn hen nac yn anabl, sydd ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbwl.

Britain’s third place finish in the medal rankings contrasts with the 2009 Pisa research which showed Welsh children ranked behind UK and international counterparts in reading, maths and science.”

Uh? Mae’n rhaid mai hwn yw’r frawddeg mwyaf dwl yn yr erthygl gyfan. Mae’n cipio’r fedal aur, er gwaetha’r gystadleuaeth gref o bob ochor. Beth yn union yw’r cysylltiad? Does dim o gwbwl. Mae fel dweud:

“NASAs historic success in landing a robot on the planet Mars on the weekend contrasts with Ifan’s inability this morning to steer a spoon full on weetabix into his nine month old daughter’s mouth.”

Gellir cyferbynnu unrhyw lwyddiant ag unrhyw fethiant, ond does dim unrhyw fath o gysylltiad rhwng y ddau beth.

Aelod Seneddol Caerffili, Wayne David, sydd yn dod agosaf at wneud ryw fath o gysylltiad rhwng llwyddiant y Gemau Olympaidd a methiant Cymru, er nad yw’n amlwg yn ei ddyfyniad fod yn cyfeirio at un na’r llall:

The Caerphilly MP applauded the example of athletes who gave up other interests to focus on a goal and claimed this could be translated to help the economy and education levels in Wales.

He said: “We need a creative society where people feel they have a stake, where they get a buzz from contributing to the wider whole because they are part of it.”

Felly os yw pobol yn teimlo’n frwdfrydig ynglŷn â rhywbeth maen nhw’n fwy tebygol o weithio’n galed i’w wireddu. Dyma gasgliad mawr yr erthygl, ar ôl 1,500 o eiriau o nonsens llwyr.

Mae’n amlwg bod gan y Western Mail ychydig o wagle ychwanegol i’w lenwi, felly mae’r erthygl yn gorffen â:

“The ONS figures also highlight Wales’ struggle to reduce carbon dioxide emissions.”

Yn anffodus dyw’r Western Mail ddim hyd yn oed yn ymdrechu i wneud ryw fath o gysylltiad brau rhwng allyriadau carbon deuocsid Cymru a’r Gemau Olympaidd. Efallai nad oes gan gwaith dur Port Talbot yr un 'can-do attitude' a'r fflam Olympaidd.

Beth sydd gennym ni fan hyn yw erthygl tua 600 gair o hyd sy’n rhestru ffeithiau moel gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r holl nonsens am y Gemau Olympaidd wedi ei wasgu i mewn heb unrhyw gyfiawnhad o gwbl. Dyw’r erthygl ddim yn gwneud unrhyw gysylltiad rhwng y ddau beth, a dyw hi ddim hyd yn oed yn amlwg a yw'r gwleidyddol a’r arbenigwyr a ddyfynnwyd hyd yn oed yn cyfeirio at y Gemau Olympaidd, heb sôn am broblemau demograffig Cymru.

Dim ond esgus yw’r erthygl i grybwyll llwyddiant y Gemau Olympaidd am y canfed tro, ac yn fwy dan-din byth, i gyferbynnu'r llwyddiant yna efo problemau Cymru. Y neges i'r darllenydd digon diniwed sydd ddim yn gyfarwydd â thraciau’r wasg yw bod popeth Prydeinig yn wych tra bod popeth Cymreig yn wael. Synnen i daten mai dyna oedd y diben.

Y peth mwyaf siomedig oedd bod cyfle fan hyn i holi gwleidyddion ynglŷn â pham fod gan Gymru'r problemau y mae’r adroddiad yn cyfeirio atynt. Pam bod cymaint o bobol hen yn byw yma? Ydyn nhw’n symud yma i ymddeol, ydyn ni ddim yn cynhyrchu digon o fabis, beth? Pam fod gymaint o bobol anabl yng Nghymru? Mae’r stori yn cynnig sawl pos dyrys, ond yn hytrach na’u hateb, rydyn ni’n cael llond pair o sothach am ‘can-do attitude in the workplace’. Y broblem dybiwn i yw nad yw pobl anabl, pobol sydd wedi ymddeol, a phobol ddi-waith yn y gweithle yn y lle cyntaf, yn hytrach nag agwedd y bobol sy’n ddigon lwcus i fod â swydd, sydd, fe fyddwn i'n dadlau, ddim gwell na gwaeth nag ydyw yn unman arall.

Mae’r erthygl yn lled awgrymu bod ryw nam ar y Cymry sy’n ein gwneud ni’n eilradd i bobol Llundain, a lwyddodd i drefnu Gemau Olympaidd mor fawreddog. Diffyg ‘can-do attitude’, hwnna ydi o. Dylai rhywun fod wedi dweud wrth Adam Price a’i griw cyn iddo fynd i’r drafferth o ysgrifennu adroddiad hirfaith ar broblemau economi Cymru a sut i’w datrys nhw.

Comments

  1. Mae'n debyg bod awdur yr erthygl od yma wedi ffonio gwahanol wleidyddion yn gofyn iddyn nhw beth allai'r gemau eu dysgu i Gymru - ac maen nhw efo dau funud i feddwl wedi dod i fyny efo bolycs llwyr.

    Mae'r Western Mail yn nyddiau olaf ei fywyd yn plymio dyfnderoedd hunan gasineb.

    ReplyDelete
  2. O, mam bach; y WM yn mynd o ddrwg i waeth. Dolenni difyr iawn; diolch.

    ReplyDelete

Post a Comment