Sgwennu, sgwennu, sgwennu...


Pair Dadeni - John Meirion Morris
(Y pennawd uchod i gerddoriaeth cân ‘Gyrru, gyrru, gyrru’ Gruff Rhys...)

Mae’r blog wedi bod ychydig yn dawel yn ddiweddar, am fy mod i’n gweithio gyda’r nos ar nofel arall i oedolion. Dw i ddim wedi cael cymaint o flas ar ysgrifennu erioed ag ydw i dros y mis neu ddau ddiwethaf. Mae wedi bod yn bleser pur, y geiriau yn llifo ac yn byrlymu fel... um, ryw fath o raeadr neu bistyll... (dw i’n gaddo y bydd cymariaethau gwell yn y nofel, mae wedi bod yn ddiwrnod hir...)

Serch hynny, yn y cyfamser rydw i wedi cyhoeddi blog am flogio yn Gymraeg, ar wefan Global Voices. Diolch i Rhodri ap Dyfrig, un o gyfranwyr selog Haciaith, am drefnu cyhoeddi'r gyfres yma o erthyglau.

Yn ogystal â hynny rydw i’n un o feirniaid gwobr y Wales Blog Awards eleni. Rydyn ni newydd ddechrau gwahodd ymgeiswyr newydd.  Does dim categori y ‘Blog Gymraeg orau’ eleni, am ein bod ni’n credu bod blogiau Cymraeg yn ddigon da i gystadlu yn yr un categorïau â’r blogiau Saesneg.

Comments