Hapusrwydd yw... Ynys Môn?!


Map hapusrwydd Cymru
Mae’n debyg mai Ynys Môn yw’r lle hapusaf yng Nghymru, yn ôl yr indecs hapusrwydd a gomisiynwyd gan David Cameron. Ac mae’n eithaf agos at y brig drwy gydol y Deyrnas Unedig gyfan, hefyd.

Mae’n anodd gwybod i ba raddau y dylen ni gymryd canlyniadau’r arolwg yma o ddifrif. Wedi'r cwbwl, sut mae mesur bodlonrwydd poblogaeth gyfan? Mae’n dibynnu ar ba amser o’r dydd mae’r cwestiwn yn cael ei ofyn. Rydw i’n tueddu fod ar fy hapusaf tua 11.30am... wedi gwneud bore o waith yn fy stydi ar waelod yr ardd, ac yn edrych ymlaen at amser cinio. Erbyn 5pm rydw i’n tynnu fy ngwallt allan o fy mhen wrth geisio annog y plant i fwyta eu bwyd yn hytrach na’i iro dros eu gwynebau. Erbyn 7pm rydw i’n hapus eto wrth ddarllen stori iddyn nhw cyn iddyn nhw fynd i’w gwlau.

Serch hynny, mae’r canlyniadau yn eu cyfanrwydd yn awgrymu sawl peth diddorol. Mae gan y Guardian yr holl ffigyrau a map cynhwysfawr fan hyn.

Wrth edrych ar y map o Gymru, a’r Deyrnas Unedig yn ehangach, mae yna gyswllt amlwg rhwng cymunedau ôl-ddiwydiannol ac anhapusrwydd. Mae’r Cymoedd, Middlesbrough, ac ardaloedd tebyg ymysg y mwyaf digalon yn y Deyrnas Unedig.

Er eu bod nhw’n tueddu i edrych i lawr arnom ni hambons cefn gwlad, mae’n amlwg nad yw trigolion y dinasoedd mawrion, fel Caerdydd, Birmingham, Glasgow, a Llundain, yn arbennig o hapus chwaith.

Yn ôl y map, hapusrwydd yw byw yng nghefn gwlad ymhell o hwrli-bwrli pwysau bywyd yn y ddinas.

Does yna ddim cyswllt amlwg rhwng cyfoeth ariannol a hapusrwydd, yng nghefn gwlad. Mae Gwynedd, Ynys Môn, Ucheldiroedd yr Alban, ac Ynysoedd Shetland yn llefydd digon tlawd, ond yn ôl y map dyma rai o ranbarthau hapusaf y wlad. Dyw’r ardaloedd gwledig rheini yn y Home Counties sy’n gyfoethocach ddim i weld dim hapusach.

Does yna ddim cyswllt amlwg rhwng pleidiau gwleidyddol a hapusrwydd, chwaith. Mae’r Blaid Lafur mewn grym yn rhai o ardaloedd mwyaf anhapus Cymru, ond hefyd yn ardaloedd hapusaf Cymru, sef Ynys Môn a Sir y Fflint.

Byw yn y wlad

Beth yw casgliad y map, felly? Pobol sy’n byw mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol neu ardaloedd dinesig tlawd yw’r lleiaf hapus ar gyfartaledd. Mae pobol sy’n byw mewn ardaloedd dinesig cyfoethog yn weddol hapus ar y cyfan. Ond pobol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yw’r hapusaf o’r cyfan, os ydyn nhw’n byw mewn ardal dlawd ai peidio.

Rhaid dweud bod y map yn cyd-fynd â fy mhrofiad personol i, i raddau helaeth. Rydw i wedi byw yng nghefn gwlad Gwynedd, ac yna yng Nghaerdydd, ac yna yn Newcastle upon Tyne, cyn symud i Geredigion. Rydw i’n llawer hapusach yn byw yng nghefn gwlad, ar y cyfan. Mae yna swyddi sy’n talu’n well i’w cael yn y ddinas, ond rhaid gofyn ai yr arian sy’n bwysig, neu beth y mae rhywun yn ei gael am ei arian?

Cefais fy magu yng Ngwynedd yn gallu gweld Moel Eilio a Mynydd yr Eliffant drwy ffenestr fy ystafell wely. Roedd yn gymuned glos oedd yn trefnu Eisteddfod pentref bob blwyddyn. Yng Ngheredigion rydw i’n gallu rhedeg bob dydd ar hyd yr Afon Teifi rhwng Llandysul a Chastell Newydd Emlyn, y rhan fwyaf nefolaidd o Gymru yr ydw i wedi dod ar ei draws hyd yma.

Faint fyddai golygfa fel yna yn ei gostio i un o drigolion Llundain? Lle yng Nghaerdydd fyddwn i’n gallu rhedeg allan drwy ddrws y ffrynt i ddyffryn llawn caeau gwyrdd, coed, a bywyd gwyllt?
Mae tafarn hyfryd yn y pentref ac o leiaf tri bwyty o safon o fewn tafliad carreg, ac os ydyn ni wir eisiau profi’r bywyd dinesig, mae Caerfyrddin hanner awr i ffwrdd, Abertawe awr i ffwrdd, a Chaerdydd dwy awr i ffwrdd.

A dweud y gwir, ers dyfeisio’r we a Tesco Home Deliveries, alla’ i ddim meddwl am unrhyw faintais sydd gan byw yn y ddinas dros fyw yn y wlad. Serch hynny mae pobol y ddinas yn tueddu i edrych i lawr eu trwynau ar bobol y wlad, a mynnu eu bod nhw’n cael yr hwyl i gyd.

Efallai mai fi sy’n mynd yn hen!

Comments