Papur cenedlaethol dwyieithog?

Wrth drafod trafferthion y Western Mail mewn blogiad diweddar soniais am yr angen am un papur newydd cenedlaethol Saesneg a fyddai'n pontio’r bwlch rhwng y de a’r gogledd, ac yn hybu’r syniad fod Cymru yn un genedl yn hytrach na chasgliad darniog o ranbarthau, pob un yn amrywio o ran iaith, diwylliant, a gwleidyddiaeth.

Fel y dywedais i bryd hynny dydw i ddim yn credu fod y Western Mail yn bapur cenedlaethol yng ngwir ystyr y gair, yn rhannol am nad yw’n llwyr gefnogol i’r syniad o Gymru yn genedl, â’i hiaith a’i diwylliant ei hun, a hefyd oherwydd bod ei gyrhaeddiad daearyddol wedi ei gyfyngu’n bennaf i'r de.

Ar yr un pryd mae’r Cymry Cymraeg yn parhau i ddymuno am bapur newydd dyddiol yn eu hiaith eu hunain. Yn anffodus mae tranc y Byd, a sylwadau E. Morgan Humphreys yn fy mlogiad i ddoe, yn awgrymu nad oes yna lawer iawn o obaith y gwelwn ni bapur newydd dyddiol o’r fath.

Pam ddim papur newydd cenedlaethol, dyddiol, ddwyieithog, felly? Un a fyddai’n cwrdd â’r galw am bapur newydd Saesneg cenedlaethol a chenedlaetholgar, tra ar yr un pryd yn darparu newyddion Cymraeg dyddiol i’r rheini sydd ei eisiau?

Ar yr olwg gyntaf mae’r syniad yn un sy’n annhebygol o weithio. Pam fyddai pobol, yn enwedig darllenwyr uniaith Saesneg, yn fodlon talu am yr un cynnwys mewn dwy iaith wahanol?

Yn fy nhyb i, y rheswm y gallai papur newydd o’r fath lwyddo yw oherwydd yr union raniadau ieithyddol, diwylliannol, a gwleidyddol sy’n rhan mor nodweddiadol o Gymru. Ni fyddai’r rheini sydd eisiau darllen y cynnwys Saesneg, a’r rheini sydd eisiau darllen y cynnwys Cymraeg, o reidrwydd eisiau’r un math o gynnwys. Ac mae’n rhaid cyfaddef fod yna rai pethau y mae’n well gan Gymry Cymraeg eu darllen yn Saesneg, hefyd.

Un fantais o weithio ar wefan newyddion ar-lein yw bod modd gweld yn union pa erthyglau yr oedd pobol yn eu darllen, rywbeth nad yw’n bosib i newyddiadurwyr y papurau newydd ei wybod heb ofyn i’w darllenwyr yn unigol. Beth sydd wedi dod i’r amlwg o brofiad Golwg 360 a BBC Newyddion yw bod pobol sy’n troi at y tudalennau Cymraeg eisiau cynnwys gwahanol i beth sydd ar y tudalennau Saesneg. Maen nhw eisiau straeon am lenyddiaeth Cymraeg, yr Eisteddfod, S4C, Plaid Cymru, cerddoriaeth roc a phop Cymraeg, technoleg sy’n mynd i effeithio ar yr iaith, ayyb. Hynny yw, maen nhw eisiau straeon sy’n bodoli o fewn cylch iaith a diwylliant y Cymry Cymraeg.

Dydyn nhw ddim mor frwdfrydig ynglŷn â straeon y byddai modd eu trafod cystal trwy gyfrwng y Seasneg. Mae chwaraeon yn esiampl dda o hyn. Does dim iaith i chwaraeon ac felly mae’n anodd iawn i’r Gymraeg gynnig unrhyw beth yn ychwanegol i beth y mae pobol yn gallu ei gael yn y Saesneg. Yr unig amser y gall erthygl chwaraeon Cymraeg ragori ar erthygl Saesneg, yn fy nhyb i, yw pan mae yn erthygl barn o safbwynt rhywun sy’n sgwennu’n gelfydd yn yr iaith (e.e. erthyglau Alun Wyn Bevan yn Golwg neu Derec Llwyd Morgan yn Barn), neu pan mae’n gyfweliad â seren chwaraeon sy’n siarad yr iaith. Dyma efallai pam bod adran chwaraeon Cymraeg y BBC wedi cau ei drysau, am nad oedd hi yn gallu cynnig unrhyw beth arbennig drwy gyfrwng y Gymraeg nad oedd yr adran Seasneg eisoes yn ei ddarparu.

Mae’r berthynas rhwng gwefan Cymraeg a Seasneg BBC Cymru yn esiampl o sut all y ddwy iaith gydweithio ar un cyfrwng drwy ddarparu deunydd gwahanol. Mae’n wasanaeth dwyieithog, ond yn aml iawn bydd straeon yn ymddangos ar y wefan Gymraeg sydd o ddiddordeb arbennig i siaradwyr yr iaith.

Dyw hyn ddim yn golygu wrth gwrs na fyddai straeon yn ymwneud â’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn ymddangos ar y tudalennau Seasneg, ac na fydd straeon rhyngwladol neu Brydeinig yn ymddangos ar y tudalennau Cymraeg (mae straeon rhyngwladol Barn yn esiampl o’r modd y mae’n bosib dewis straeon o dramor sydd o ddiddordeb i’r Cymro Cymraeg).

Sut fyddai yn gweithio yn ymarferol? Fe fyddwn i’n awgrymu papur newydd sy’n Saesneg ar un ochor ond yn Gymraeg ar yr ochor arall. Fe fyddai tua dau draean o’r cynnwys yn Saesneg, gan fod y rhan yna o’r papur i raddau yn cymorthdalu y rhan Cymraeg. Byddai tîm o newyddiadurwyr a golygwyr gwahanol yn gweithio ar y tudalenau Cymraeg a Seasneg, ond byddai yna uwch-olygwyr fyddai yn goruchwylio gwaith pawb a datrys unrhyw ddadleuon ynglŷn â pha iaith y dylai stori ymddangos ynddo.

Pam fyddai darllenwyr uniaith Saesneg yn prynu papur newydd sy’n cynnwys 20 tudalen o newyddion Cymraeg? Wel,  pwy sydd wir yn darllen papur newydd o glawr i glawr beth bynnag? Tua hanner papur newydd y mae gen i ddiddordeb ynddo fel arfer, mae’r gweddill yn newyddion chwaraeon, canlyniadau rasio ceffylau, ysgrifau coffa, tudalennau ffordd o fyw, a mân bethau eraill nad ydw i’n malio taten amdanyn nhw. Os oes yna straeon da ar yr ochor Cymraeg a Saesneg, fe fyddai pobol yn prynu.

Comments

  1. Wel byddai yn rhaid bod i talu am y papur, amwn i, heblaw ei fod yn derbyn cymhorthdal anferth gan rhywun... Yn ddelfrydol fe allai fod yn bapur am ddim, ond o ystyried costau dosbarthu ar draws Cymru fe allai hynny fod yn anodd!

    ReplyDelete
  2. Sorry for the English, I'm a Welsh learner from Abercynon and my written Welsh isn't quite upto scratch at the moment! However, I am able to read and hold a conversion in Cymraeg so there is still hope :)

    I like your suggestion of a bilingual paper and agree that it would be better to prioritse the use Welsh in relation to uniquely Welsh-speaking topics such as Eisteddfodau, Welsh pop music, etc. The paper needs to bridge the barrier between anglophone southern Welsh culture and the Welsh-speaking Welsh culture of the north and west.

    I think bringing these two groups together is perfectly possible. Indeed it is necessary if our nation is to develop further. The rise of Welsh-medium education, immigration from y Fro Gymraeg to Cardiff and a common government has brought us all closer together. A bilingual paper that represents the conciously Welsh areas of Wales is vital.

    Sadly, we're never going to be able to live in a country where it is possible to do everything in Welsh (although I hope it remains a community language). To survive, the language needs to carve out its own niches rather than translate things that are already available in English. We should concentate on the strengths of the language i.e poetry and music rather than spreading ourselves too thinly.

    ReplyDelete
  3. Gyda llaw dw i'n cwestiynu'r dybiaeth ynglŷn â BBC.co.uk a'i thriniaeth o gynnwys Cymraeg sydd yn wan heb ddigon o fuddsoddiad a 'dan-y-cownter' heb digon o hyrwyddo.

    ReplyDelete
  4. Diolch am y neges Anon. Dw i ddim yn siwr a oes angen cadw'r Gymraeg at y pethau 'niche' yn unig - mae'n bwysig bod modd defnyddio'r Gymraeg ym mhob cyd-destun. Ond dyw hynny ddim yn golygu cyfieithu o'r Seasneg, mae'n golygu bod siaradwyr yr iaith yn creu cynnwys sy'n cwrdd a'r galw mewn sawl maes (ar y we, er enghraifft). Dw i'n bennaf yn hyrwyddo papur newydd dwyieithog am nad yw'r farchnad yn ddigon mawr i gynnal papur newydd dyddiol cyfan gwbwl Gymraeg. Mater o fod yn ymarferol a chyfaddawdu ydyw yn fwy na dim!

    Carl - dw i'n cytuno nad yw cynnwys ar-lein Cymraeg y BBC yn berffaith, o bell ffordd (yn enwedig y penderfyniad i gau yr adran Cylchgrawn!). Dim ond ei ddefnyddio fel esiampl o wasanaeth dwyieithog sy'n cynnig rhwyfaint o gynnwys gwahanol yn y ddwy iaith oeddwn i.

    ReplyDelete

Post a Comment