Paid â bod ofn y ‘bwystfil Prydeinig’


Bwystfil Albanaidd
Mae Huw Prys wedi cyhoeddi darn barn ar flog Golwg 360 yn ystyried oblygiadau dathliadau Jiwbilî'r dyddiau diweddaraf i obeithion yr Alban i sicrhau annibyniaeth. Mae’n awgrymu y gallai’r ymgyrch bropaganda hirfaith o blaid y Deyrnas Unedig yr ydym ni wedi gorfod ei ddioddef dros y dyddiau diwethaf fod yn ergyd sylweddol i obeithion Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond.

Dydw i ddim yn siwr a yw hyn yn wir. Er gwaethaf ymdrechion y wasg dydw i heb weld cymaint a hynny o frwdfrydedd o blaid Prydeindod dros y dyddiau diwethaf. Ychydig iawn o bartion stryd oedd yng Nghymru a’r Alban. Roedd hyd yn oed rhaid i’r BBC gyfaddef nad oedd yna ryw lawer o groeso i’r Jiwbilî yn yr Alban, ac roedd unrhyw gyfeiriadau at y diffyg partïon stryd yng Nghymru yn cael eu cuddio dan faner ‘EnglandandWales’. Mae'r erthygl yma yn y Guardian yn agos ati.

Ar ben hynny, dw i’n credu bod y rhan fwyaf o’r rheini fu’n dathlu’r Jiwbilî eisoes yn Brydeinwyr rhonc beth bynnag. Fel y dywedais i ar y blog yma o’r blaen, pobol sy’n chwifio baneri - nid baneri sy’n chwifio pobol. Mae’n ddrwg gen i gyfeirio hyd syrffed at waith academaidd Michael Billig, ond yn ei dyb ef, mae’r cenedlaetholdeb sy’n ffrwydro i’r wyneb yn ystod dathliad neu ryfel wedi bod yn ffrwtian dan y wyneb drwy gydol yr amser beth bynnag. Bydd jac-yn-y-bocs jac yr undeb yn ôl yn ei focs cyn bo hir.

Yn ogystal â hynny, fe fydd nifer o’r bobol fu’n dathlu’r pasiant ar y Tafwys a’r gyngerdd neithiwr yn gwneud hynny oherwydd ei fod yn gymaint o sioe. Mae gan y Telegraph ddarn barn cyfan gwbwl chwerthinllyd heddiw yn dadlau bod maint y dyrfa yn y gyngerdd neithiwr o’i gymharu â maint y dyrfa yn lansio ymgyrch ‘Ie’ yr SNP yn dangos gwendid cenedlaetholdeb Albanaidd. I ddechrau rhaid anwybyddu’r ffaith bod un yn digwydd yn Llundain a’r llall yn yr Alban (gyda llaw, syniad pwy dwpsyn oedd cynnal pob un o ddigwyddiadau'r Jiwbili yn Llundain, yn bell iawn o'r rhan fwyaf o drigolion y wlad?). Yn ail rhaid ystyried bod y cyngerdd yn cynnwys Cheryl Cole, un o’r Beatles, a haid o sêr pop a roc eraill, pob un yn gwybod bod eu parodrwydd i gymryd rhan yn sicrhau y byddwn nhw’n ‘Syr’ neu’n ‘Dame’ cyn troi rownd. Roedd y llall wedi ei gynnal mewn sinema a’r prif seren oedd Alan Cumming.

Ydych chi’n cofio’r sbloets mawr Prydeinllyd y llynedd, pan briododd Wills a Kate? Lai nag wythnos yn ddiweddarach fe enillodd yr SNP fwyafrif hanesyddol yn Senedd yr Alban. Dyw’r refferendwm annibyniaeth ddim yn digwydd nes 2014, pan fydd dathliadau’r penwythnos yma wedi pylu yn y cof.

Peidiwch a bod ofn y ‘bwystfil Prydeinig’, meddaf fi. Mae cenedlaetholdeb Cymreig ac Albanaidd yn goroesi heb holl ymdrechion propoganda y wladwriaeth a’r darlledwyr y tu cefn iddo. Ac mae hynny yn dangos eu bod, mewn gwirionedd, yn llawer cryfach...

Comments

  1. Ddim yn siwr pa gasgliad i ddod iddo o bresenoldeb Ffedogau'r Cigydd (FfC) dw i wedi bod yn dyst iddynt dros yr wythnos neu ddau ddiwethaf.

    Pythefnos yn ol, ro'n i ar wyliau yn Nhresaith a ces i fraw gweld yr holl faneri glas gwyn a choch ar y ffordd fawr (ok, doedd dim lot ofnadwy, ond digon i wneud i fy deimlo'n anghyfforddus). Do'n i wrioenddol ddim yn gywbod cyn hynny bod y fflam yn mynd drwy'r ardal.

    Treuliais penwythnos y Jiwbilol yn ardal Efrog, ac roedd y ddinas ei hun yn llawn FfC, tafarndai, gwestai a tai cyffedin - yn ogystal ag ymgyrchoedd marchnata y siopau mawr. Roedd lot o wiethgarwch jiwbilol yn y lle hefyd, ond dychmygaf bod hyn gymaint 'er budd' yr ymwelwyr.

    Roedd dod yn ol i Gaerdydd ar y pnawn Llun yn tonig llwyr - welais fawr didm wrth yrru'n ol adref. Ar fy stryd i, mond un ty oedd gyda FfC, a practical joke gan ffrindiau oedd hynny! Un unig faneri ar ein stryd oedd ar dafarn enwog y Duke of Clarence (sydd a phosteri ac arwydidon Plaid Cymru amlwg i fyny pob etholiad!).

    Er cymaint fy 'ofn' innau am don newydd o Brydeindod posib, dw i'n gobeotjoi mai rhyw one-pff ydy hyn a bod pbl ond yn ei weld fel esgus i ddathlu - siawns na all peiriant PR y teulu brenhinol ddal ati am byth. Hefyd, dychmygaf bydd lot wedi syrffedu gyda'r gemau olympaidd.

    ReplyDelete
  2. Roedd yna sylw diddorol gan Vaughan Roderick ar Twitter, yn awgrymu ei fod yn gweld mwy o fflagiau Prydeinig ar dai yng Nghymru na Lloegr.

    Mae'n werth ystyried a ydi pobol sydd allan o'u tiriogaeth naturiol yn tueddu i fod yn fwy parod i ddangos eu lliwiau. Dw i'n gwybod fy mod i'n llawer mwy parod i arddel fy nghymreictod yn Lloegr nag ydw i yng Nghymru! Efallai fely bod pobol sy'n ystyried eu hunain yn Brydeinwyr yn fwy tebygol o orchuddio eu tai gyda fflagiau yng Nghymru er mwyn mynegi eu hunaniaeth, na fydden nhw yn ganol Lloegr lle nad oes angen gwneud hynny.

    A dw i wedi rhoi dwy faner Cymru i fyny ar fy nhy dros y dyddiau diwethaf o ganlyniad i'r Jiwbili!

    ReplyDelete
  3. Hefyd, bydd refferendwm 2014 yn digwydd yn fuan wedi Gemau'r Gymanwlad yng Nglasgow. Mae natur y digwyddiad hwnnw'n golygu mai'r cenhedloedd unigol fydd yn cael eu cynrychioli. Yr Albania yn benodol fydd yn cynnal y gemau, a baneri'r wlad honno fydd yn chwifio'n bennaf, nid un yr undeb (sy'n eironig gan mai epil yr ymerodraeth Brydeinig yw'r gymanwlad yn y lle cyntaf). Gall hynny fod yn ffactor.

    ReplyDelete

Post a Comment