Mensh i Menshn


Rydw i wedi creu cyfrif ar Menshn heddiw er mwyn gweld sut beth yw’r wefan yma sy’n bygwth goruchafiaeth Facebook a Twitter. Dydw i ddim yn argymell bod unrhyw un arall yn creu cyfrif ar hyn o bryd oherwydd bod pryderon mawr ynglŷn â diogelwch y wybodaeth (cyfrineiriau, ayyb) sy’n cael ei anfon at y wefan. Mae’r wefan hefyd yn dioddef o rai problemau technegol ar hyn o bryd (rwy’n cydymdeimlo).

Y peth cyntaf sy’n taro rhywun yw y byddai yn anoddach cynnal trafodaethau yn Gymraeg ar Menshn.  Yn hytrach na thrafod â phawb am bob pwnc dan haul, rydych chi’n trafod o fewn ystafelloedd unigol, e.e. (ar hyn o bryd) uselection, women, tech, ukpolitics, euro2012. Mae hynny’n golygu eich bod chi’n trafod â chynulleidfa llawer llai, ar hap, ar ambell i bwnc penodol, felly mae’n llawer llai tebygol eich bod chi’n mynd i allu cynnal trafodaeth yn y Gymraeg.

Pe bai ryw fath o ystafell ‘Cymraeg’ yn cael ei agor yn y dyfodol fe allai hynny fod o fudd amwn i, ond dydw i ddim yn siŵr ar hyn o bryd a fydd unigolion yn gallu creu eu hystafelloedd eu hunain ynteu a ydyn nhw’n cael eu creu gan y gweinyddwyr yn seiliedig ar bynciau trafod mawr y dydd.
Fel arall dydw i ddim wir yn gweld manteision  Menshn dros Twitter. Y syniad mawr ydi bod ystafelloedd unigol yn golygu fod modd canolbwyntio ar bynciau penodol. Ond hyd y gwelaf i mae Twitter yn cyflawni hynny drwy roi’r gallu i bobol atodi hashtag at y pwnc y maen nhw eisiau ei drafod.

Ar ben hynny, dyw’r ystafelloedd caeedig yma ddim o reidrwydd yn gwneud trafod yn haws. Rydw i wedi dweud yn y gorffennol bod ceisio cynnal dadl ar Twitter fel dau ddyn mewn straightjacket a mygydau yn bwmpio i mewn i’w gilydd - h.y. bron yn amhosib. Wel ar Menshn mae hyd yn oed yn fwy anodd, am nad oes yna hyd yn oed ddolen i’r neges y mae’r unigolyn yn ymateb iddo. Yr unig fodd o wybod beth yw cynnwys y neges y mae’n ymateb iddo yw sgrolio i lawr nes eich bod chi’n dod o hyd i’r neges dan sylw.

Mewn geiriau eraill, dyw Menshn ddim yn gam mawr ymlaen ar yr hen chat rooms, sydd wedi bodoli ers canol yr 80au. Y cyfan yw Twitter yn y bôn yw chat room byd-eang. Ond mae Mensh yn teimlo fel cam yn ôl yn hytrach na cham ymlaen yn hynny o beth.

Comments

  1. Byddai'n braf gweld mwy ar Google+.
    Mae angen ffordd o gadw negeseuon mewn ieithoedd gwahanol ar wahan fel bod pobl yn cael dewis beth maen nhw gweld.

    ReplyDelete

Post a Comment