Map calonogol


Mae papur newydd y Guardian wedi cyhoeddi map sy’n dangos y safleoedd newyddion mwyaf poblogaidd fesul rhanbarth. Mae canlyniadau Cymru yn eithaf calonogol a dweud y gwir - yn ôl y map, mae’r rhan fwyaf o orllewin a chanolbarth Cymru yn dibynnu ar wefan y BBC am eu newyddion, a’r rhan fwyaf o Dde Cymru yn troi at Wales Online. Mae gan y gwasanaethau yma eu gwendidau ond o leiaf maen nhw’n darparu newyddion Cymreig, yn hytrach na newyddion o safbwynt Llundeinig yn unig fel y rhan fwyaf o’r gwasanaethau newyddion ar-lein eraill.



Mae’n fy nhiclo i braidd mae’r Telegraph yw gwefan newyddion mwyaf poblogaidd Sir Benfro! 

Mae’n anodd gwybod pa mor ddibynadwy yw’r canlyniadau gan eu bod nhw’n seiliedig ar arferion defnyddwyr Twitter. Ac o glicio ar y rhanbarthau unigol ceir yr awgrym bod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn mynychu gwefan Wales Online am y straeon rygbi yn hytrach na’r rhai Cymreig. Yn ogystal a hynny dyw Ynys Môn ddim yn bodoli. Ond fel arall mae’r map i weld yn eithaf agos ati.

Comments

  1. diddorol fod y guardian yn honni mai'r telegraph sydd fwyaf poblogaidd ym mhenfro.
    siwr bod nhw wedi cymysgu gyda'r western telegraph (y telegraph yn lleol) - un o'r papurau lleol os nad Y fwyaf yng Nghymru.

    ReplyDelete
  2. Diddorol iawn. Cymryd mai BBC News ar lefel DG yn unig sy wedi ei fesur (neu falle cyfuniad po bob fersiwn?). Wedi bod yn clicio o gwmpas blog Guardian ond dal ddim yn gallu gweld sut mae gwasnaeth Bitly (ffynhonell y data) yn gallu mesur lleoliad pobl sy;n trydar.
    Dw i didm yn dechnegol iawn, ond gyda fy IP e.e., mae'n nodi mod i yn Lloegr rhywle gan mai dyna lle mae fy narparwr ISP wedi ei leoli (neu dyna oed dyn diwgydd pan oeddwn yn edrcyh ar leoliad ymweliad at fy mlog ers talwm). Siawns bod o'n fwy manwl na hyn.

    ReplyDelete
  3. Os yw hwn wedi'i seilio ar arferion defnyddwyr Twitter, nid yw'n gynrychiadol o'r boblogaeth yn gyffredinol o gwbl a dweud y gwir. Rhaid mai dyna sy'n egluro tan-gynrychiolaeth y Daily Mail! Ond mae'n wybodaeth ddefnyddiol serch hynny.

    ReplyDelete

Post a Comment