Hwyl a Fflam


Fflag Cernyw yn cael ei ddwgyd o afael un o'r cludwyr
Mae gen i dipyn o bos i’w ddatrys, sef a fyddaf yn mynd a’r plantos i weld y ffagl/fflam Olympaidd yn cael ei orymdeithio drwy’r strydoedd. Does gen i ddim byd yn erbyn Gemau Olympaidd per se. Mae wedi troi’n jamboree corfforaethol, ond mae pob digwyddiad chwaraeon mawr o’r fath yr un peth - o gêm derfynol y Champion’s League, i Gwpan Rygbi’r Byd, i’r Superbowl, a phopeth arall. Dyw hynny ddim yn golygu nad ydw i’n mwynhau eu gwylio nhw.

Mae’n wir mae’r Natsiaid ddyfeisiodd traddodiad cludo'r fflam Olympaidd. Ond nhw ddyfeisodd y draffordd hefyd ac rydw i’n defnyddio’r rheini’n aml. Oes, mae llawer iawn o arian wedi ei wario ar y peth a ddylai fod wedi ei wario ar bethau eraill. Ond beth yw pwynt peidio mwynhau rhywbeth ar ôl difaru ei brynu? Gan mai ein harian ni sydd wedi mynd ar y peth waeth i ni gymryd mantais lawn ohono, ddim. Ac rydw i wedi mwynhau sawl gêm Olympaidd yn y gorffennol heb orfod talu ceiniog amdanynt.

Yr unig gŵyn difrifol sydd gen i am y gemau yw na fydd modd osgoi'r dathliad o genedlaetholdeb Prydeinig a ddaw yn ei sgil. Efallai y byddai modd ymdopi â’r Gemau Olympaidd ar ei ben ei hun, ond ar ôl gorfod llyncu platiad llawn o'r cwrs cyntaf, y Jiwbilî Diemwnt, mae yna berygl y byddaf yn tagu ar y prif gwrs. A’r Ewros 2012 i bwdin - Duw a’n gwaredo.

Ond a ddylen ni orwedd i lawr a gadael i’r peiriant propaganda wneud ei waith, a chladdu ein pennau yn y llawr nes bod yr olaf o’r confetti a’r bunting wedi ei glirio o’r neilltu, neu a ddylen ni wneud rhywbeth i gymryd mantais o’r digwyddiad yma? Mae’n wir bod cludwyr y fflam wedi eu gwahardd rhag cyhwfan y ddraig goch - ond mae’n debyg nad oes hawl â nhw gyhwfan unrhyw beth arall chwaith, heblaw am y ffagl ei hun, gan gynnwys Jac yr Undeb. A does dim gwaharddiad ar y rheini sy’n gwylio rhag chwifio unrhyw beth y maen nhw ei eisiau, hyd y gwelaf i. Felly pam ddim troi dathliad o Brydeindod yn ddathliad o Gymreictod a sicrhau bod gymaint o bobol a phosib yn dangos y Ddraig Goch wrth i’r fflam wibio heibio ar ei ffordd i Lundain?

Comments