Diwrnod i’r Brenin?


Yn sgîl methiant Plaid Cymru yng Nghaerffili yn yr etholiadau lleol mae ambell un eisoes wedi bod yn pwyntio bys at Leanne Wood gan ddweud bod ei gwrthwynebiad at y Teulu Brenhinol wedi atal ambell un rhag pleidleisio dros y Blaid.

Mae methiant Leanne Wood i hybu cefnogaeth Plaid Cymru yn y Cymoedd yn siom o ystyried mai ei gallu honedig i ddenu cefnogaeth yno oedd un o’i phrif rhinweddau cyn cael ei hethol. Rhaid rhoi pob chwarae teg iddi gan mai dim ond am ychydig wythnosau mae hi wedi bod yn y swydd, ond mae’n amlwg nad yw arweinydd o’r Cymoedd ar ei ben ei hun yn mynd i wneud llawer o wahaniaeth i apêl y Blaid yno.

Dydw i ddim wir yn credu bod ei diffyg cefnogaeth at y Teulu Brenhinol wedi arwain yn uniongyrchol at y gwymp yn y gefnogaeth at y Blaid yng Nghaerffili. Y gwir ydi bod cefnogaeth Plaid Cymru yn dibynnu i raddau helaeth ar ba mor boblogaidd yw’r Blaid Lafur. Pan maen nhw’n amhoblogaidd, fel yn 2008, mae’r pleidleiswyr yn tueddu i droi at Blaid Cymru, ond os yw’r Ceidwadwyr mewn grym ac yn gwneud omnishambles ohoni maen nhw’n gorfod atgyfodi’r hen arferion o bwyso yn hytrach na chyfri pleidleisiau.

Mae’n amlwg bod pobol yn tueddu i ystyried etholiadau’r cyngor yng nghyd-destun gwleidyddiaeth San Steffan. A tra bod y mwyafrif o’r Cymry yn cael eu holl newyddion o’r cyfryngau Llundeinig dyw hynny ddim yn mynd i newid. Fe allai pob un o gynghorwyr Plaid fod ymysg y gwleidyddion gorau yn y byd ond fyddai hynny ddim o bwys os nad oes unrhyw un yn gwybod am y peth.

Ta waeth, yn ôl at y busnes brenhinol yma. Yn fy mhrofiad i mae llawer iawn o aelodau Plaid Cymru yn weriniaethol. Ond a ddylai arweinydd y blaid fod mor llafar ynglŷn â’i gwrthwynebiad tuag at y Teulu Brenhinol? Wrth ystyried mai blaenoriaeth Plaid Cymru yn y pen draw yw sicrhau annibyniaeth i Gymru, ai eilbeth yw brwydro yn erbyn Mrs Windsor?

Bob tro mae Plaid Cymru yn wynebu pos fel hyn mae yna dueddiad i ystyried beth mae eu cefndryd cenedlaetholgar, llwyddiannus, yn yr SNP wedi bod yn ei wneud. Yn hytrach na’r bandiau braich ‘What would Jesus do?’ y mae Cristnogion ifanc yr Unol Daleithiau yn ei wisgo, efallai y dylid creu bandiau ‘What would Alex Salmond do?’ ar gyfer ymgyrchwyr Plaid Cymru.

Mae’r SNP wedi awgrymu eu bod nhw’n hapus i gadw'r Frenhines yn ben ar y wlad ar ôl sicrhau annibyniaeth. Mae Alex Salmond yn eithaf clos â’r Teulu Brenhinol yn ôl y sôn. Ond rhan o’i strategaeth ehangach yw hyn. Mae’r blaid yn awyddus iawn i amlygu’r pethau fyddai yn aros yr un fath pe baen nhw’n llwyddo i sicrhau annibyniaeth i’r wlad. Mae hyn yn gwneud i annibyniaeth ymddangos yn llai o gam mawr a fyddai yn peri gofid i’r etholwyr.

A ddylai Plaid Cymru fabwysiadu polisi tebyg? Rydw i’n gofyn hyn fel gweriniaethwr rhonc. Rydw i’n gyfan gwbl yn erbyn y syniad o Deulu Brenhinol, a ddim yn deall pam eu bod nhw’n apelio cymaint at weddill y boblogaeth. Ond os ydi datgan barn sy’n wrthwynebus iddyn nhw yn colli pleidleisiau i Blaid Cymru, a ddylen nhw fod yn ail ystyried? Wedi’r cwbl, annibyniaeth yw’r prif nod. Fel yn achos Jamaica, a sicrhaodd annibyniaeth yn 1962, fe fyddai’n bosib mynd i’r afael â’r Frenhiniaeth ychydig ddegawdau yn ddiweddarach.

Comments