Hysbysebion Saesneg ar wefannau Cymraeg?

Un o’r prif heriau oedd yn wynebu Golwg 360 pan lansiwyd y safle oedd annog cwmnïau oedd yn gwerthu nwyddau Cymraeg i hysbysebu yno. Roedd y dasg yn un anodd, yn rhannol oherwydd bod y wefan wedi ei lansio ar drothwy'r argyfwng ariannol. Ond hefyd oherwydd amharodrwydd cwmnïau oedd yn gwerthu nwyddau Cymraeg i hysbysebu ar y we - roedd yn beth eithaf newydd iddyn nhw.

Roedd y cwmnïoedd yma’n barod i hysbysebu mewn cylchgronau print Cymraeg, er gwaetha’r ffaith bod hysbysebion ar y wefan yn llawer rhatach i’w prynu ac yn cael eu gweld gan lawer mwy o bobol. Ac wrth gwrs mae hysbyseb ar y we yn cynnig cyfle i ‘glicio drwodd’ i wefan y cwmni.

Mae ceisio dod o hyd i hysbysebwyr Cymraeg yn her weddol unigryw i Golwg 360, ar hyn o bryd. Mae’r unig wefan Cymraeg arall o’r un maint, BBC Newyddion, yn cael ei noddi gan arian cyhoeddus. Mae yna ambell i wefan Cymraeg llai wedi ceisio denu hysbysebwyr, e.e. Maes-e a Lleol.net. Ond mae’n dalcen mor galed nad yw hi bron a bod gwerth yr amser a’r ymdrech i ddod o hyd i hysbysebwyr am yr arian sy’n dod i mewn. Y gobaith yw, wrth i’r rhithfro ddatblygu ymhellach, y bydd rhagor o wefannau yn tyfu i’r maint lle mae angen arian hysbysebwyr er mwyn eu cynnal, ac y bydd cwmnïau Cymraeg yn fwy parod i roi eu ffydd a’u harian i mewn i’r cyfrwng newydd ‘ma. Ond bydd angen amser i hynny ddigwydd.

Felly sut mae datrys y broblem yma yn y presennol? Wel, un ateb posib fyddai sefydlu ryw fath o system lle mae sawl gwefan Cymraeg yn rhannu’r un hysbysebion. Byddai unigolyn yn cael ei dalu i gasglu hysbysebion gan gwmnïau Cymraeg, ac fe fyddai’r hysbysebion yna yn ymddangos ar sawl un o’r gwefannau mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd, e.e. Golwg 360, Maes-e, Lleol.net, Blogmenai, ayyb. Byddai’r gwefannau yna wedyn yn cael canran o’r arian hysbysebu yn dibynnu  ar faint o bobol sy’n eu gweld neu’n clicio ar yr hysbyseb.

Anfantais system o’r fath ydi mai prin iawn ydi’r gwefannau Cymraeg y tu hwnt i Golwg 360 sy’n denu digon o ddefnyddwyr i ennill unrhyw arian mawr drwy hysbysebu. Efallai y byddai angen i ryw 50 o flogiau gymryd rhan er mwyn sicrhau bod y fenter yn denu digon o hysbysebwyr er mwyn gallu cyflogi rhywun i’w casglu yn y lle cyntaf.

Yr ail syniad, a’r mwyaf dadleuol, fyddai hysbysebu yn Saesneg ar wefannau Cymraeg. Beth fyddai pwynt hynny, meddach chi, os mai dim ond siaradwyr Cymraeg sy’n darllen y gwefannau yma? Wel y fantais ydi bod yna eisoes sawl cwmni Saesneg sy’n casglu hysbysebwyr rhyngwladol ac yn dangos eu hysbysebion ar sawl gwefan gwahanol. Er enghraifft gallai Golwg 360 arwyddo cytundeb â chwmni fel Message Space, a derbyn cyfran o arian yr hysbysebwyr heb orfod trafferthu chwilio am eu hysbysebwyr eu hunain. Y cyfan y byddai’n rhaid i Golwg boeni amdano oedd denu’r darllenwyr a fyddai yn gweld yr hysbysebion.

Ond a fyddai darllenwyr y wefan yn fodlon gweld hysbysebion Saesneg arno? ‘Na’ ydi’r ateb tebygol. Ond rhaid cofio bod hysbysebion Saesneg yn gwbl arferol ar S4C - eithriad yw’r hysbysebion Cymraeg. Pe bai’n rhaid i S4C chwilio am gwmni Cymraeg i hysbysebu yn bob slot fe fyddwn nhw ar eu colled yn sylweddol.

Felly pam na ddylai gwefannau Cymraeg hysbysebu yn Saesneg?

Comments

  1. Gall i ddychmygu bod hi'n her a hanner perwadio cwmniau Cymraeg i ddenfyddio'r we.

    Dim syniad faint mae Golwg360 yn godi nac yn llwyddo ei gasglu drwy hysbysebion, ond o'r tu allan, mae'n edrych yn fel bod pwy bynnag sy'n gwneud y gwaith yn cael hwyl arni. Digon hawdd i bobll fod yn burion am y peth a gwrthwynebu hysbysebion Saesneg, ond rhaid bod yn realistig. Sgwn i bethmae gwefannau newyddion tebyg mewn ieithoedd lleiafrifol eraill (megis Basgeg) yn wneud?

    O ran gwasanaeth hysbysebu lleol, mae Addiply yn swnio'n fodel diddorol, ond dw i ddim yn siwr pa mor addas fyddai o ar lefel Cymru gyfan.

    Fel ti'n deud, i wneud cynllun o rwydwaith hysbysebion fod yn werth ei osod fyny, mae angen amrwy o wefannau ble gellir gosod hysbys, dyna pam ei fod yn hanfodoll bod yna 'ecosystem' o wefannau Cymraeg popblogaidd a ddim jyst un gwefan mawr. Rhaid i Golwg360/BBC fod yn ofalus nad ydydnt yn troi allan i fod yn Facebook y Rhithfro (!) ac y dylent annog datblygiad gwefannau eraill. Byddai hyn yn fantiesiol iddynt yn y pendraw gan y byddai'n cynyddus swm o ddarllenwyr/ymwelwyr i wefannau Cymraeg, gan obeithio y cyrhaeddant eu gwewfan nhw maes o law wedi iddynt ddod i arfer a darllen Cymraeg ar-lein - rhywbeth sy'n dal yn brofiad diarth dybiwn i i lawr o Gymry Cymraeg hyd heddiw.

    ReplyDelete
  2. @Rhys,
    Facebook y Rhithfro yw... Facebook. Dylen ni bod yn hapus i weld cynnydd Golwg360!

    Dw i wedi sgwennu meddyliau eraill ar fy mlog.
    http://quixoticquisling.com/2012/04/rhwydwaith-hysbysebion-cymraeg/

    ReplyDelete

Post a Comment