A peth arall da am e-lyfrau...

Un o brif fanteision e-lyfrau yw y bydd y llyfr ar gael i’w lawrlwytho ar y we ymhell ar ôl iddo ddiflannu o shilffoedd y siopau llyfrau. Anaml iawn erbyn hyn ydw i’n gweld copi o Igam Ogam neu Yr Argraff Gyntaf mewn siopau sy’n gwerthu llyfrau printiedig Cymraeg, ond fe fydd yr e-lyfrau ar y rhith-shilff ‘am byth’.

Mae cael ei uwchlwytho i siop Kindle wedi rhoi bywyd newydd i’r Argraff Gyntaf. Dros y dyddiau diwethaf rydw i wedi derbyn negeseuon gan bobol ar Twitter yn dweud eu bod nhw wedi ei lawrlwytho a’i ddarllen. Mae’n annhebygol iawn y bydden nhw wedi gweld a phrynu copi mewn siop lyfrau erbyn hyn.

Catrinbeard: Argymhelliad yr wythnos: Yr Argraff Gyntaf @ifanmj Dechre araf, ond wedyn CYFFRO! DIHIROD! BOMS! a darlun difyr o Gaerdydd dech G20 #darllen

Catrinbeard: Gyda llaw mae nofel @ifanmj ar Cindl - os oes gennoch chi un, prynwch o leiaf un llyfr Cymraeg, er mwyn cael rhagor #darllen #21ainganrif

Garethe66: @ifanmj newydd gorffen yr argraff gyntaf ar y kindle, gret wedi joio, da iawn.

Cyn i chi feddwl mai hysbyseb tila arall i lyfrau ar Kindle yw’r cofnod yma, rydw i wedi sylweddoli dros yr wythnosau diwethaf ar un peth sydd ddim cystal ynglŷn ag e-lyfrau. Dwn i ddim a oes unrhyw un arall wedi sylweddoli, ond mae yna yna nifer sylweddol uwch o gamgymeriadau mewn e-lyfrau na mewn llyfrau print. Mae hyn yn wir am y llyfrau Cymraeg a Saesneg yr ydw i wedi eu lawrlwytho. Mae’r copi digidol o A Game of Thrones yr ydw i’n ei ddarllen ar hyn o bryd yn llawn gwallau, er ei fod ar frig siart siop Kindle Amazon.

Beth sy’n gyfrifol am hyn? Ydi’r e-lyfr wedi etiffedu yr agwedd fwy ffwrdd â hi at gywirdeb ar y we, yn hytrach na phrwffio diwyd byd print? Testun blogiad arall, efallai...

Comments