A oes pwynt dadlau am grefydd?

Tair crefydd yn cytstadlu am le
Am bron i flwyddyn mae Blog Anffyddiaeth wedi bod yn gwneud gwaith da iawn wrth drafod amryw o ddadleuon sy’n cael eu gwyntyllu gan bobol grefyddol ac Anffyddwyr (gydag ymatebion o dro o dro gan flogwyr Cristnogol, gan gynnwys Rhys Llwyd a Hen Rech Flin). Rydw i’n edmygu'r awdur am lynu yn ddiwyd at y pwnc dan sylw cyhyd, yn hytrach nag efelychu'r blog yma a sglefrio fel gyrrwr meddw o un testun i’r llall. Ymddiheuriadau i Dylan felly am dresbasu ar ei diriogaeth, ond rydw i wedi bod yn ystyried yn ddiweddar:  A oes pwynt dadlau am grefydd o gwbl?™

I roi fy myfyrdodau yn eu cyd-destun rydw i wedi bod yn Gristion pybyr a hefyd yn Anffyddiwr rhonc am gyfnodau yn ystod fy mywyd. Yn fwy diweddar rydw i’n tueddu i arnofio rhwng y ddau begwn, yn nhir neb (ebargofiant, neu limbo, fyddai’r Catholigion yn ei alw). Dydw i ddim yn berchen ar unrhyw dystiolaeth sy’n profi nad yw Duw yn bodoli, ond dydw i ddim yn berchen ar unrhyw dystiolaeth i’r gwrthwyneb chwaith. A dweud y gwir wrth i fi fynd yn hŷn rydw i wedi mynd yn llawer llai sicr o bob dim. Rydw i’n cwestiynu daliadau cryf oedd yn ymddangos i mi ar un cyfnod yn hollol amlwg a chyfiawn. Rydw i wedi sylweddoli fy mod i’n anwybodus, ac yn anwybodus ar raddfa llawer mwy nag oeddwn i wedi ei ddirnad o'r blaen. Dyna efallai pam fy mod i’n cael fy atynnu at newyddiaduraeth ac academia, sy’n gweddu i fy natur chwilfrydig a di-glem.

Beth bynnag, yn ôl i’r pwnc dan sylw: A oes pwynt dadlau am grefydd o gwbl? Rydw i’n siarad o brofiad fan hyn, fel un sydd wedi dadlau o’r naill ochr a hefyd wedi byw ar y ffin niwlog rhwng crefydd ac anffyddiaeth. Yn fy mhrofiad i mae yna un gwahaniaeth sylfaenol rhwng pobol grefyddol a phobol sydd ddim yn grefyddol - a ydyn nhw’n credu mewn Duw ai peidio? Mae hynny i weld yn eithaf amlwg, ond mae’n mynd yn groes i’r gred fod ryw fath o ddadl rhwng Cristnogion ac Anffyddwyr, a’i bod hi’n bosib ennill y ddadl honno. Anwybyddwch y Beibl am y tro. Taflwch eich copi clawr caled o lyfr diweddaraf Richard Dawkins i’r bin agosaf. A ydi’r unigolyn dan sylw yn credu mewn Duw ai peidio? Mae yna bobol glyfar iawn ar y ddwy ochor. Mae’r gred i weld yn seiliedig ar reddf mwy na dim arall.

Beth bynnag yr ateb, dyw unrhyw ddadleuon o blaid neu yn erbyn sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn gwneud taten o wahaniaeth. Fe fydd y Cristion a’r Anffyddiwr o dro i dro yn ceisio darbwyllo'r llall ei fod yn gwbl anghywir, er mwyn ei ddifyrrwch ei hun, neu am ei fod yn teimlo y gallai wneud y byd yn lle gwell. Ond does dim pwynt dadlau am nad yw’r llall yn gwrando. Pan oeddwn i’n Gristion roeddwn i’n gwbwl fyddar i ddadleuon yr Anffyddiwr. Pan roeddwn i’n Anffyddiwr doedd gen i ddim diddordeb yn nadleuon y Cristnogion, dim ond dangos eu bod nhw’n anghywir.

Rydw i’n cofio ychydig flynyddoedd yn ôl treulio sawl awr yn dadlau gyda chyfaill i mi oedd yn Gristion. Roedd yn ddigon o hwyl i ddechrau ond cyn bo hir fe aeth hi’n rhwystredig. Doedd yna ddim cyfaddawd i’w gael. Ymhen awr neu ddwy sylwais i nad oedd y Cristion hyd yn oed yn ystyried fy nadleuon i; ac i’r gwrthwyneb. Pan oeddwn i’n siarad roedd yn paratoi ei ymateb, fel ryw filwyr yn arfogi ei syniadau yn ei feddwl. A pan oedd y cyfaill yn siarad roeddwn i’n gwneud yn union yr un peth. Y rheswm am hynny oedd ein bod ni’n ymosod ar ddadleuon ein gilydd ond yn gwneud dim byd i fynd at galon y mater; y mater a oedd yn rhoi’r sicrwydd i ni anwybyddu ein dadleuon ein gilydd yn y lle cyntaf; roedd o’n credu mewn Duw, doeddwn i ddim. Doedd yna ddim byd allen i'w wneud i newid ei farn o, a doedd yna ddim byd allai o ei wneud i fy argyhoeddi i newid fy marn i.

Amwn i mai’r ddadl yn erbyn yr uchod yw bod anffyddiaeth ar gynnydd a chred yn Nuw ar drai. Mae’n amlwg fod dadleuon sy’n siglo pobol i’r naill ffordd neu’r llall. Ond ai dyna yw’r gwirionedd? A yw’r mwyafrif bellach yn penderfynu peidio mynd i gapel am eu bod nhw wedi astudio’r dystiolaeth yn fanwl a phenderfynu nad oes Duw? Ynteu ydi cymdeithas yn tueddu i dyrru i’r un cyfeiriad, a phobol yn gwneud fel ei gilydd? Wrth ddarllen am y diwygiadau yng Nghymru un o’r prif bethau sy’n taro rhywun yw pa mor entertaining oedd y cwbl. Ond yn oes yr iPad a’r Freeview does dim angen pregethwr yn mynd i hwyl yn yr awyr agored i ddiddanu’r mwyafrif. Mae’r mwyafrif llethol sydd ddim yn credu yn gryf y naill ffordd neu’r llall eisiau a) set syml o ddamcaniaethau sy’n esbonio’r byd o’u hamgylch, ac b) rhywbeth i lenwi’r amser. Pe bai'r Unol Daleithiau wedi buddsoddi’r biliynau a wariwyd yn Afghanistan ac Irac ar godi safonau byw yn y gwledydd rheini, fe fyddai Mwslimiaeth eithafol wedi edwino yn llawer cynt, dybiwn i. Mae materoliaeth yn bwyta crefydd i frecwast.

Yn y pen draw mae gennych chi eich Cristnogion (neu Fwslimiaid, Iddewon ayyb) rhonc, a’r Anffyddwyr rhonc, ac yna’r mwyafrif yn y canol sydd ddim yn teimlo’n arbennig o gryf y naill ffordd. Fe allai Duw fod yn bodoli, fe allai ddim. *codi ysgwyddau* Pryd mae’r gyfres newydd o Sherlock ymlaen? Beth am fynd am beint?

Mae barn digon wishy-washy y mwyafrif yn mynd dan groen y Cristion a’r Anffyddiwr. Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n credu yn Nuw a’r Nefoedd - wedi’r cwbl, mae Duw a’r Nefoedd yn bethau braf i gredu ynddyn nhw – ond ddim yn teimlo’n arbennig o gryf y naill ffordd neu’r llall. ‘Ond mae eich eneidiau yn y fantol!’ meddai’r Cristion. ‘Ond allech chi ddim gweld mai nonsens yw’r Duw a’r Nefoedd yma?!’ meddai’r Anffyddwyr. Mae’r mwyafrif yn codi gwar a ddim yn pryderu ryw lawer am y peth.

Mae hynny’n gadael y Cristion a’r Anffyddiwr rhonc. Efallai bod dweud eu bod nhw’n ddwy ochor i’r un geiniog yn mynd yn rhy bell. Ond beth sy’n eu huno yw eu bod nhw’n teimlo’n gryf am fater y mae’r mwyafrif yn gwbwl difater amdano. A beth bynnag y dadleuon, does dim gobaith y gwnânt nhw gytuno. Yr oll yw’r dadleuon yw pennau’r Hydra; dydi torri ambell un ohonyn nhw i ffwrdd ddim yn gwneud unrhyw ddrwg i’r gred graidd, sef bod Duw yn bodoli neu beidio. Y gred honno yw’r sail y mae’r person wedi adeiladu ei fywyd arno. Does neb yn gallu ei ddymchwel heblaw am y person ei hun.

Comments

  1. Diolch Ifan. Rwyf wedi bod yn meddwl dipyn am hyn eisoes a'n bwriadu dweud rhywbeth amdano ar y blog 'cw.

    Mae fwy neu lai'n sicr nad yw fy mlog yn newid meddwl unrhyw un sy'n arddel ffydd grefyddol gref. Nid wyf yn ddigon haerllug i dybio fel arall. Er hynny, fel rwyt yn ei ddweud, mae cryn dipyn o bobl sydd heb wir feddwl am y peth o ddifrif y naill ffordd na'r llall. Mae gan y rhan fwyaf o bobl bethau llawer gwell i'w gwneud, wedi'r cyfan. Ond os yw un neu ddau o'r rheiny'n digwydd baglu ar draws fy mlog, efallai bod modd argyhoeddi un neu ddau ohonynt. Efallai ddim.

    Y gwir yw fy mod yn ysgrifennu'r blog am dri rheswm. Mae'n bosibl mai'r un pennaf yw er mwyn ymarfer ysgrifennu. Yr ail yw bod gennyf ddiddordeb anferthol (obsesiynol, hwyrach?) yn y gwrthdaro rhwng crefydd a'r byd go iawn, a sceptigiaeth yn gyffredinol. Mae'r trydydd yn deillio o'r ail: rwy'n teimlo'n eithriadol o gryf am y mater.

    Ar ôl dechrau eithaf sigledig (o ddarllen fy ymdrechion cyntaf) rwyf bellach yn mwynhau'r ysgrifennu a'n datblygu fy arddull fy hun felly rwyf am ddal ati doed a ddelo. Mae'n braf pan mae pobl yn dweud eu bod yn darllen (sy'n digwydd a dro i dro), ac mae hynny'n fonws. Bonws pellach fyddai denu pobl oddi ar y ffens. Ond hanner-gobaith yw hynny'n hytrach na disgwyliad. Eilbeth yn hytrach na raison d'être.

    ReplyDelete
  2. Mae'n iawn trafod crefydd ond does 'na ddim pwynt ceisio argyhoeddi neb fel arall. Y dywediad doetha' glywish i erioed at y diben hwnnw oedd; o ran pobol a chanddynt ffydd, nid oes angen arnynt eglurhad, ac o ran pobl nad ydynt yn credu, ni fydd unrhyw eglurhad yn ddigon - sy'n cwmpasu'r peth mewn ffordd gynhwysfawr dwi'n meddwl.

    ReplyDelete
  3. Diolch am eich sylwadau.

    @Dylan. Dydw i ddim yn awgrymu y dylet ti roi'r ffidil yn y to, wrth gwrs! Mae dy flog yn un o'r gorau ar y rhithfro, heb os. Dw i'n mwynhau ei ddarllen er nad ydw i'n teimlo mor gryf a ti am y pwnc dan sylw.

    @Hogyn. Diolch am grynhoi y llith uchod mewn i 19 gair!

    ReplyDelete
  4. Onid ellir gwneud yr un pwynt am unrhyw bwnc dadleuol arall megis gwleidyddiaeth neu chwaraeon? Rwy'n credu mewn annibyniaeth i Gymru, byddai dadleuon gwych gan gant a mil o unoliaethwyr ddim yn peri imi newid fy marn. Mewn chwaraeon mae gallu cystadleuwyr yn cael ei brofi mewn modd gweddol wrthrychol, ond hyd yn oed pe bai tîm pêl droed Dinas Manceinion yn ennill pob cynghrair, cwpan a phencampwriaeth sydd ar gael byddai cefnogwyr United dal ddim yn cael eu hargyhoeddi mae City yw'r tîm gorau sy'n bod.

    ReplyDelete
  5. Pwynt ardderchog, Alwyn.

    Ta waeth: wedi ymateb yn llawnach ar fy mlog.

    ReplyDelete

Post a Comment