Storm mewn cwpan de (yn y grug)

Kate Roberts
Yn ddiweddar rydw i wedi tueddu i ddechrau ysgrifennu sylw ar flog arall, cyn gorfod ei drawsblannu i fan hyn am ei fod wedi tyfu’n rhy hir ac wedi crwydro oddi ar y pwnc. Dechreuodd y blogiad yma yn ymateb i’r ysgrif yma ar flog Anffyddiaeth. Roedd y blog hwnnw yn ymateb i adolygiad yr Athro Derec Llwyd Morgan am lyfr newydd Alan Llwyd am Kate Roberts.

O ganlyniad i’r sylw di-baid y mae’r cofiant wedi bod yn ei gael yn y wasg Gymraeg, dw i’n siŵr fod unrhyw un sydd â diddordeb yn y pethau yma yn ddigon cyfarwydd â hanes Kate ‘a gwraig y cigydd’. Felly dw i ddim am ailadrodd y cwbl fan hyn.

Rydw i’n teimlo fod yna wendidau yn nadleuon Alan Llwyd a Derec Llwyd Morgan. Mae'r cyntaf fel pe baen rhy barod i hawlio fod Kate yn hoyw yn seiliedig ar dystiolaeth sydd, yn fy marn i, yn ddigon amwys. Digon teg dweud fod ei llythyr yn awgrymu ei bod hi’n hoyw, ond mae’r sicrwydd 100% yn anacademaidd rhywsut. Rhaid derbyn weithiau nad oes yna atebion hawdd. Dw i ddim felly yn credu y dylid ail-werthuso ei gwaith i gyd gan dderbyn fel ffaith ei bod hi’n hoyw. Ond fel y mae Dylan yn ei awgrymu uchod mae Derec Llwyd Morgan wedi mynd yn rhy bell i'r cyfeiriad arall gan awgrymu mai gweithredoedd rhywun sy’n eu gwneud nhw’n hoyw yn hytrach na’u ‘dymuniadau’.

(Un awgrym sydd heb ei drafod eto ond sy’n werth ei ystyried yw bod elfennau lled-hoyw wedi cripian mewn i’w gwaith oherwydd ei chydymdeimlad â’i gŵr, oedd yn hoyw. Efallai ei bod hi wedi penderfynu datgelu ei hunig brofiad ‘hoyw’ iddo er mwyn dangos ei bod hi’n gallu deall sut yr oedd yn teimlo. Wedi’r cwbl, mae pawb yn gyfunrywiol i ryw raddau. E.e. gall y dyn mwyaf heterorywiol gyfaddef fod Brad Pitt yn olygus,  a dyw’r ffaith fod Kate Roberts wedi ysgrifennu am ferch brydferth mewn ffordd nodweddiadol o flodeuog ddim yn golygu ei bod hi wedi awchu am dynnu’r garthen a neidio ar ei phen.)

Ond y gwir yw fy mod i’n gweld y drafodaeth yn un weddol amherthnasol. Y tu allan i gylchoedd academaidd sy’n gorfod meddwl am ddwys am bethau fel hyn, dydw i ddim yn credu fod rhywioldeb Kate Roberts mor bwysig â hynny.

Mae yna obsesiwn rhyfedd gyda rhywioldeb yn ein hoes ni a dydw i erioed wedi deall y peth. Daeth i’r amlwg i mi yn ystod fy nyddiau coleg mai’r peth cyntaf yr ydych chi’n cael gwybod am berson hoyw yw ei fod yn hoyw. Nid gan y person hwnnw, ond gan bawb arall sy’n ei nabod. Dydyn nhw ddim yn dweud ei fod yn berson cyfeillgar, neu beth yw ei swydd, neu hyd yn oed ei fod yn berson rygbi neu ffwtbol. Rhywioldeb y person yw conglfaen gweddill ei bersonoliaeth, y niwclews y mae’r cyfan wedi ei adeiladu o’i gwmpas.

Y rhyfeddod yw nad ydw yn gallu meddwl am elfen o bersonoliaeth person sy’n llai tebygol o effeithio ar y bobol o’u hamgylch na’i rywioldeb. Dychmygwch fod gennych chi gydweithiwr. Mae’n gallu bod yn flin, mae’n gallu bod yn ddiog, mae’n tueddu i adael bwyd i bydru yn ffrij y gweithle, mae’n prynu’r rownd gyntaf bob tro wrth fynd allan i’r dafarn, mae ganddo boster o The Hobbit ar y wal tu ôl iddo yn y gwaith, mae ganddo chwaer sy’n galw i mewn i’r swyddfa i’w weld ambell dro, mae ganddo acen o’r gogledd ddwyrain. Mae pob un o’r rheini yn elfennau o’ch perthynas chi â’r person hwnnw sy’n effeithio ar eich bywyd chi o ddydd i ddydd. Os nad yw eich perthynas yn datblygu’n un rhywiol, dyw’r ffaith ei fod yn hoyw ddim o bwys o gwbl. Neu a bod yn fanwl gywir, ni ddylai fod o bwys o gwbl. Mae’n sicr o amlygu ei hun oherwydd bod gweddill y cydweithwyr yn benderfynol o gyfeirio at y ffaith byth a beunydd.

Er nad yw’r ffaith ei fod yn hoyw o unrhyw bwys o gwbl i’ch perthynas  â’r cydweithiwr rydych chi’n sicr o gael gwybod cyn dod o hyd i’r bwyd wedi llwyo yn y ffrij. Cyn iddo godi’r poster Hobbit hyd yn oed.

Dydw i ddim yn dadlau y dylai pobol hoyw guddio’r ffaith eu bod nhw’n hoyw. Fe ddylen nhw ymfalchïo yn y ffaith. Fel unrhyw leiafrif arall sydd dan warchae maen nhw eisiau dangos eu bod nhw’n falch o’r hyn ydyn nhw, a brwydro’n ôl. Ond yr unig reswm y mae’r camwahaniaethu yn eu herbyn nhw’n digwydd yn y lle cyntaf ydi ein bod ni, fel cymdeithas, fel dynoliaeth, yn hollol obsessed â rhywioldeb.

Heb sôn am beidio â chael effaith ar y bobol o’u cwmpas, dydw i ddim hyd yn oed wedi fy argyhoeddi fod rhywioldeb person hoyw yn cael cymaint â hynny o effaith ar bersonoliaeth y person hwnnw. Dyw’r dymuniadau rhywiol sy’n trigo yn fy mhen ddim byd i’w wneud gyda gweddill fy mhersonoliaeth i. Mae’n rhaid i fi ymdopi â nhw, oes, naill ai drwy weithredu arnyn nhw, neu eu hanwybyddu. Ond mewn byd nad oedd yn obsessed â rhywioldeb fe fyddai modd i fi wneud hynny, ar ôl dod o hyd i bartner parod, heb gael fy meirniadu'r naill ffordd neu’r llall.

Yn anffodus am ein bod ni’n byw mewn byd sydd yn gwneud môr a mynydd o rywioldeb, mae pobol hoyw wedi eu gyrru i alcoholiaeth, neu i’w lladd eu hunain. Nid am eu bod nhw’n hoyw, ond oherwydd ymateb cymdeithas i’r ffaith eu bod nhw’n hoyw. Pe baen ni’n gadael llonydd iddyn nhw ni fydden nhw’n teimlo unrhyw ‘gywilydd’ ac yn hapus i fyw ei bywydau yng nghwmni pa bynnag enaid hoff gytûn y bydden nhw’n dod ar ei draws.

Mae stori Kate Roberts ei hun yn wers ynglŷn â’n hobsesiwn gyda rhywioldeb . Fe fuodd ei gŵr Morris farw’n ifanc o alcoholiaeth, ar ôl gorfod cuddio’r berthynas rhyngddo ef a dyn arall. Mewn byd delfrydol fe fyddai neb wedi malio taten am y peth. Beth am fyw mewn byd delfrydol a pheidio malio taten am rywioldeb Kate Roberts?

Comments

  1. Wela i ddim pam na allai ymdriniaeth queer theory o waith Kate Roberts fod yn ddadlennol iawn. Ond go brin mai rhywun fel Alan Llwyd yw'r person i wneud hynny, ac nid dyna a geir yn ei lyfr yn ôl pob tebyg. Byddai'n ddiddorol ei ddarllen, serch hynny.

    Yn ogystal â'r pwynt y canolbwyntiais i arno ar fy mlog, camgymeriad arall yr Athro Morgan (ac Alan Llwyd hefyd, os wyf wedi deall yn iawn) yw edrych ar rywioldeb fel mater du a gwyn. Hynny yw, bod Kate Roberts unai'n un peth neu'r llall. Yn amlwg, yn achos rhywioldeb mae modd i'r gwir fod yn dipyn cymhlethach na hynny.

    ReplyDelete
  2. Dyma fi wedi dod ar draws rhywun sy'n siarad sens ar hyn i gyd o'r diwedd. Da.

    ReplyDelete

Post a Comment