Diflannu o’r Golwg


Mari a Magw - mae Magw yn un oed ddydd Iau
Fis diwethaf tynnodd Blogmenai sylw at gyflwr marwaidd a diffrwyth y rhithfro yn ddiweddar, gan gynnwys madredd drewllyd y blog yma. Ond roedd yn ddigon caredig i ddweud fy mod i’n tueddu i gyhoeddi unrhyw sylwadau sy’n dod i fy mhen ar Flog Golwg yn hytrach na fan hyn.
Beth bynnag dyma fy mlog personol i ac yn gyfle i fwydro am bethau sydd wedi bod yn mynd ymlaen yn fy mywyd yn ddiweddar (deffrwch yn y cefn). Y newid mwyaf ydi fy mod i ar fin diflannu o’r Golwg - na, dydw i ddim wedi dyfeisio clogyn sy’n fy ngwneud yn anweledig,  à la Harry Potter, ond yn hytrach yn rhoi’r gorau i olygu Golwg 360.

Daeth y penderfyniad wedi i mi gael y cyfle i wneud doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor a bydd hynny’n fy niddori am y 3, 4, neu 5 o flynyddoedd nesaf (mwy na hynny a fyddai i mewn trwbwl). Dw i wedi bod yn gweithio i Golwg am bum mlynedd nawr ac maen nhw’n gwneud gwaith gwych gydag adnoddau llawer prinnach na’r cyfryngau eraill ac yn haeddu pob cefnogaeth at y dyfodol.

Felly efallai y bydd y blog yma yn brysurach dros y blynyddoedd nesaf.

Ar yr ochor lenyddol fe fydda i yn trafod fy ail nofel, Yr Argraff Gyntaf, yng Nglwb Llyfrau Canolfan y Mileniwm ar 20 Medi. Croesi i bawb sydd eisiau dod! Dw i hefyd wedi dechrau taflu syniadau at ei gilydd yn y gobaith y bydd nofel arall yn dechrau ffurfio yno’n rhywle.

O ran teulu, mae fy merch fach Magw Jên yn un oed ddydd Iau, a babi arall ar y ffordd ar 1/11/11 (dyddiad hawdd i’w gofio hwnna), felly rydyn ni’n ddigon prysur ym Mhenrhiwllan!

Comments

Post a Comment