Yr Argraff Gyntaf

Na, dw i heb ddiweddaru'r blog yma ers chwe mis. Ond fyddai'n well gen i ddiflannu heb smic ac ail ymddangos heb esboniad, fel y tyrchod daear yng ngardd mam, na gwneud sioe mawr o gau'r blog i lawr a wedyn sleifio'n ôl gan smalio nad oes dim byd wedi digwydd.

Hynny a rydw i'n gallu cael fy 'nghic' blogio drwy gyfrannu at Blog Golwg 360.

Beth bynnag, rydw i'n cyfrannu eto am fod gen i rywbeth i'w werthu - fy ail nofel, ar ôl Igam Ogam nol yn 2008. Cafodd Yr Argraff Gyntaf ei gyhoeddi'n swyddogol gan y Lolfa ddoe ac rydw i wedi bod yn brysur yn ymddangos ar Wedi 3, yn siarad gyda'r Western Mail, ac yn ceisio defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i blygio'r peth gora alla'i. Mae hyd yn oed fy merch wythnos oed, Magw Jên, wedi ymuno yn yr ymgyrch farchnata!

Dyma'r sbiel ar gefn y nofel:
Mae'n wythnos fawr yn hanes Caerdydd. Mae'r clwb pel-droed ar ei ffordd i Wembley a'r Brenin ar fin agor giatiau Amgueddfa Genedlaethol newydd y ddinas.

Dim ond ar ei wyliau mae'r ditectif o'r Ariannin, Enoch Jones. Ond pan gaiff golygydd y papur newydd lleol ei lofruddio digon buan y mae hen wlad ei dadau yn troi'n hunllef...

Yn wahanol i Igam Ogam, oedd yn nofel ffantasiol, fe benderfynais i ysgrifennu nofel nofel dditectif tro 'ma. Roedd Igam Ogam yn hawdd iawn i ysgrifennu felly roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n trio gwneud rywbeth cwbwl wahanol oedd yn fwy o her. Dwi'n teimlo mai'r unig ffordd i wella fel awdur, neu unrhywbeth arall, ydi herio dy hun a gwneud rywbeth sy'n anghyfarwydd a gweld sut wyt ti'n ymdopi.

Fe wnaeth y nofel dyfu yn eithaf 'organig' a dweud y gwir ac allai'm honni mod i wedi cynllunio'r cwbwl o'r dechrau, ond fe ges i fy ysbrydoli yn bennaf gan nofelau ditectif Raymond Chandler. Penderfynais i leoli'r nofel yma yn tua'r un cyfnod, y blynyddoedd rhwng y ddwy ryfel byd, yr un cyfnod a rhai o'i nofelau ditectif cyntaf o e.e. The Big Sleep.

Dim ond yn ddiweddarach daeth y penderfyniad i leoli'r nofel yng Nghaerdydd ond wrth ymchwilio i hanes y ddinas ddes i'n ymwybodol pa mor lliwgar a diddorol oedd o. Roeddwn i wedi bod yn fyfyriwr yno a dair mlynedd a heb lot o syniad am hanes y lle, a fyddwn i'n dychmygu bod lot o bobol yn yr un cwch a fi. Mae'r brifddinas yn cael ei chyflwyno fel lle newydd o hyd ond mae yna hanes diddorol iawn yno.

Mae rhannau helaeth o'r nofel wedi ei lleoli yn Nhre Biwt a Temperance Town sydd wedi eu chwalu erbyn hyn a'u disodli gyda lot o adeiladau newydd sgleiniog. Roedd hynny'n gymhelliad i leoli'r nofel yn y cyfnod ond wrth i fi ddarllen yr hanesion am Fae Caerdydd wnes i sylweddoli ei fod o'n le peryglus a llwigar iawn a'n berffaith er mwyn lleoli nofel dditectif.

Pan sylweddolais i bod agor Amguddfa Cenedlaethol Cymru a Caerdydd yn ennill y Gwpan FA wedi digwydd o fewn dyddia i'w gilydd wes i sylweddoli fod hynny'n gyfle rhy dda i'w golli o ran gweu stori drwy'r ddau ddigwyddiadu mawr yn hanes y ddinas.

Er mai nofel hanesyddol yw hi mae'r hanes yn dod yn ail i'r stori dditectif. Wrth i fwy o bobol ddarllen llyfrau Cymraeg mae yna fwy o ofyn am lyfrau sydd yn hwyl i'w darllen yn unig dwi'n meddwl. Dyna oeddwn i'n anelu ato gydag Igam Ogam a'r nofel yma a dwi'n credu os ydi nofel yn hwyl i'w sgwennu dylai hi fod yn hwyl i'w darllen hefyd.

Beth bynnag, gobeithio wnewch chi brynu'r nofel, a gobeithio wnewch chi ei fwynhau!

Comments

  1. Ffaelu aros i ddarllen hon - dwi wrth fy modd a stwff chandler. Meddwl bo ti di sbotio bwlch yn y farchnad gymraeg 'fyd, chware teg.

    Garmon

    ReplyDelete

Post a Comment