Pethau bychain... i’w cofio wrth ysgrifennu nofel

Fy silff llyfrau
Rydw i newydd sylweddoli ei bod hi’n ddiwrnod Pethau Bychain, heddiw. Felly roeddwn i’n meddwl y byddai’n syniad i fi gyfrannu rhywbeth, siŵr o fod!

Rydw i newydd gyhoeddi fy ail nofel, Yr Argraff Gyntaf, yr wythnos hon, felly dyma gyfle da i rannu yr ychydig (iawn) ydw i wedi ei ddysgu am roi nofel at ei gilydd. Dwi'n dipyn o newyddian i fyd sgwennu o hyd, ond rydw i wedi gwneud digon o gamgymeriadau elfennol i fedru sylwi arnyn nhw erbyn hyn.

Dau lyfr sydd wedi bod o gymorth mawr i fi ydi Self-Editing for Fiction Writers gan Renni Browne a Dave King, a Crafting Scenes gan Raymond Obstfeld ac rydw i wedi dysgu/dwyn rhai o’r argymhellion isod ganddyn nhw. Ond dw i'n torri yr argymhellion mor aml ag ydw i'n cadw atyn nhw!

Cymeriadau sy’n bwysig - Un camgymeriad ydw i’n tueddu i wneud wrth ysgrifennu ydi creur’r plot yn fy meddwl yn gyntaf. Rydw i wrth fy modd yn creu’r plot, ac mae’n tueddu i ddod cyn unrhyw beth arall i fi. Yn anffodus rydw i’n rhoi’r cert o flaen y ceffyl braidd.

Yn yr Argraff Gyntaf, er enghraifft, herwgipiodd y cymeriadau'r stori roeddwn i wedi ei pharatoi o flaen llaw a’i gyrru i gyfeiriad gwahanol. Mae’n bosib newid y plot i siwtio’r cymeriadau ond yn anoddach o lawer newid cymeriadau i siwtio’r plot, heb iddyn nhw fynd yn anghyson.

Pe bai gen i fwy o hunan ddisgyblaeth fel awdur byddwn i’n datrys y cymeriadau’n gyntaf, am mai nhw sy’n gyrru nofel yn ei hanfod ac nid y plot.

Dal sylw’r darllenydd – Mae’n bwysig dal sylw’r darllenydd, nid yn unig ar ddechrau’r nofel, ond hefyd ar ddechrau bob golygfa neu bennod newydd. Un ffordd amlwg o wneud hynny yw dechrau gyda deialog. Ond yr egwyddor ehangach rydw i’n meddwl yw ‘dechrau yn y canol’. Hynny yw, peidio ei gwneud hi’n amlwg ar y dechrau beth sy’n mynd ymlaen a gorfodi’r darllenydd i ddarllen ymhellach er mwyn cael gwybod beth sy’n digwydd.

Mae angen amrywio wrth gwrs, rhag ofn i’ch nofel ddechrau swnio fel un gan Dan Brown!

E.e. mae un o bennodau Fel Aderyn gan Manon Steffan Ros yn dechrau gyda’r geiriau ‘Diolch byth ei bod hi’n bwrw’. Pwy sy’n siarad? Pam ar y ddaear mae’r person yn falch ei bod hi’n bwrw? A fydd y person yn gwlychu? Darllenwch yn eich blaen i gael gweld!

Dangos yn lle dweud - Mae hwn yn gyngor sy’n cael ei gynnig gan sawl golygydd. Yn hytrach na dweud rhywbeth wrth y nofelydd, e.e. ‘Dyw Gwydion a’i fam ddim yn dod ymlaen’, dylid dangos hynny drwy gyfrwng deialog a gweithredoedd y cymeriadau.

Effaith teledu i ryw raddau ydi bod darllenwyr heddiw eisiau ‘gweld’ bob golygfa ond drwy wneud hynny bydd y darllenydd yn dod i adnabod y cymeriadau yn well ac yn cael ei hudo i mewn i fyd y nofel.

Deialog - Peidiwch â dweud fod rhywun yn dangos rhyw emosiwn os ydi eu deialog neu eu gweithredoedd eisoes yn cyfleu hynny. E.e. “Dwi’n dy gasáu di!” meddai Ifan yn flin. “Dw i angen cysgu,” meddai Magw yn flinedig. Mae’r deialog yn cyfleu hynny heb fod angen esbonio wedyn - dyw darllenwyr ddim yn dwp.

Dyw deialog mewn nofel ddim yn realistig, neu fe fyddai’n llawn siarad gwastraff brawddegau ar eu hanner, a pobol yn dweud ‘yh... ym’. Ond darllenwch eich deialog yn uchel er mwyn sicrhau ei fod yn swnio fel ryhwbeth y byddai rhywun yn ei ddweud go iawn.

Torri’r deialog - Mae deialog yn tueddu i ddarllen yn well os ydi’n cael ei dorri’n ddarnau trwy osod disgrifiadau neu symudiadau cymeriadau yn y canol, yn hytrach nag ymddangos fel un blocyn diflas. Dyma enghraifft o’r Argraff Gyntaf. Y sigarét yw’r ‘toriad’:
Safodd Daniel yn ei unfan a bu bron i John daro i mewn iddo.
‘A!’ meddai, a theimlo rhyddhad mawr. ‘Pam na wedest ti hynny wrtha i ’te? Mae’n gas ’da fi wneud y gnoc gelain.’
Gosododd law ar ysgwydd eiddil John a phlygu i lawr i siarad wyneb yn wyneb ag e. ‘Ti’n gweld y tŷ draw fan ’na?’
Pwyntiodd at ddrws mawr du ar un o’r tai ar ochor draw’r stryd. Beddfaen o ddrws. ‘Fan ’na mae gweddw’r golygydd yn byw, yn rhif 21, Tudor Street. Dyna shwd wyt ti’n mynd i ennill dy grystyn yn y swydd ’ma.’
Gwelodd Daniel lygaid y crwt yn llenwi mewn braw. ‘Chi moyn i fi gyfweld â gwraig y dyn sy wedi marw?’
Petrusodd Daniel am ennyd. Efallai na ddylai fod mor galed ar y bachgen. ‘Ocê ’te, mi ro i ychydig o help llaw i ti, gan mai hwn yw dy dro cynta di.’ Bachodd sigarét o boced ei got a’i rhwyllo rhwng ei wefusau. ‘Dyna i gyd sy rhaid i ti gofio wrth wneud y gnoc gelain yw’r chwe “c” – Cuddio, cnoc, caniatâd, cyfweld, cipio, camarwain… a… ym… a… copi.’
‘Saith “c”?’
‘Wedyn, ca dy ben. Dyna’r wythfed i ti. I ddechrau, cuddia dy lyfr nodiadau, mae e’n codi ofan ar bobol. A dy gamera. Diawl, ti ddim mewn rasys ceffyle.’
Hanes cymeriadau - Mae’n well rhyddhau gwybodaeth bwysig am gymeriadau dros amser na cheisio cyfleu'r cyfan i’r darllenydd mewn un llith wrth gyflwyno’r cymeriad hwnnw.

Un tric da er mwyn cyflwyno rhywfaint o gefndir cymeriad A yw trwy gael cymeriad B a C i siarad amdano tu ol i’w gefn. E.e. yn yr olygfa yma rydym ni’n dysgu rhywfaint o hanes Cynog gan Daniel:
Edrychodd John yn betrus ar Daniel.
‘Paid â phoeni. Rwyt ti wedi gwirfoddoli am y shifft nos yn barod,’ meddai Daniel. ‘Sdim lot gwaeth alle fe’i wneud i ti.’
‘’Blaw am roi’r sac i fi?’
‘Alli di ond gobeithio,’ meddai Daniel.
Edrychodd John ar y papur yn ei law. Dim ond rhyw ddau baragraff oedd heb eu gorchuddio â llawysgrifen anniben y golygydd nos.
‘Wnei di ddysgu lot fawr gan Cynog,’ meddai Daniel. ‘Y newyddiadurwr mwya profiadol ar y papur, heb os, nawr bod yr hen rech ’na wedi cico’r bwced. Wedi bod yn olygydd ar y shifft nos ers blynyddoedd. A paid poeni, mae e’r un mor ddeifiol ’i dafod pan wyt ti’n gwneud rhywbeth yn iawn.’
Safbwynt - Mae’n bwysig dewis y safbwynt y mae’r olygfa yn cael ei weld ohono ac aros gydag ef. Os ydych chi’n neidio yn ormodol o un un cymeriad i’r llall mae yna beryg y bydd y darllenydd yn drysu. Os oes rhaid newid safbwynt ynghanol golygfa gwnewch hynny’n hollol glir.

Yn Igam Ogam roedd bron pob golygfa o safbwynt Tomos Ap, ond yn yr Argraff Gyntaf ces i dipyn mwy o drafferth, yn enwedig mewn un olygfa yn y dafarn pan oedd tua phum cymeriad o bwys yn trafod gyda’i gilydd. Yr ateb yn y pen draw oedd gadael bwlch ar y dudalen rhwng meddyliau un cymeriad a dechrau meddyliau cymeriad arall.

Smwddio - Dyna ydw i’n galw’r broses o ail ddarllen dros beth ydw i wedi ei ysgrifennu dro ar ôl tro a’i newid wrth i fi fynd ymlaen. Mae drafft cyntaf bob tro’n wael, heb os. Dyna lle mae’r rhan fwyaf o bobol yn digalonni a meddwl na fyddan nhw byth yn ysgrifennu unrhyw beth o werth.

Dim ond drwy ‘smwddio’ – darllen drosodd a golygu, dro ar ol tro - tan fod pob crych a brawddeg chwithig wedi mynd y bydd yn gwella, dros amser. Wrth ddarllen copi terfynol Igam Ogam, er enghraifft, roeddwn i’n ymwybodol iawn mai’r golygfeydd oedd wedi eu ‘smwddio’ yn fwyaf trwyadl oedd y rhai gorau, beth bynnag eu cynnwys.

Cadw pethau’n syml – Ddylai’r un awdur drin ei ddarllenwyr fel twpsynod ond mae’n rhaid gwerthfawrogi nad ydyn nhw wedi eu trwytho yn y stori i’r un graddau â chi. Bydd rhaid pethau sy’n ymddangos yn amlwg i chi yn cael eu camddeall yn llwyr gan y darllenydd. Mae’n bwysig esbonio pethau a’u gwneud nhw’n amlwg, yn enwedig os ydyn nhw’n bwysig i blot y nofel.

Mae’n anodd gwybod tan bod y golygydd neu’r prawfddarllenydd cyntaf yn darllen y nofel beth yn union sy’n debygol o ddrysu pobol. E.e. gydag Igam Ogam y dryswch pennaf oedd fod yna ddau dŷ mewn un fferm!

Un ffordd arall o osgoi dryswch yw rhoi enwau digon gwahanol i’ch cymeriadau. Roeddwn i’n darllen nofel neithiwr a roedd tri chymeriad ar yr un dudalen gydag enwau digon tebyg yn dechrau gyda ‘C’! Roedd hynny’n ddigon i ddrysu unrhyw un.

Mae’n bosib ysgrifennu nofel ar ddwy lefel. Er enghraifft, mae Igam Ogam yn nofel antur weddol syml ar un lefel ond roeddwn i hefyd wedi cynnwys nifer o themâu oedd yn gweithio ar lefel arall os oedd gan y darllenydd ddiddordeb ynddyn nhw. Ond mae’n bwysig nad oes rhaid i’r darllenydd astudio’r nofel fel darn o waith cwrs Lefel-A er mwyn deall y plot.

Dyna'r oll! Oes yna unrhyw awduron eraill yn darllen hwn wedi gwneud eu rhestr eu hunain? Rhowch wybod ac fe wna i ychwanegu dolen draw.

Comments

  1. Cofnod da. Dw i'n cofio cyfweliad gyda Martin Amis. Dwedodd e rywbeth fel "rhaid i ti orffen, jyst gorffen ac wedyn ti'n gallu gwybod beth sydd gyda thi" - a golygu wedyn. Dw i ddim yn sgwennu nofelau ond mae'n gweithio gyda ysgrifennu yn gyffredinol. (Dw i ddim yn hoffi Martin Amis gymaint chwaith!)

    ReplyDelete
  2. Dwi'n cytuno i ryw raddau... ond y broblem gyda jesd gorffen dwi'n meddwl ydi unwaith ti'n gwybod beth sy da ti mae'n anodd iawn ei newid o! Os ydi beth sy da ti yn crap, beth allet ti ei wneud am y peth? Allet ti newid cynnwys pennodau a golygfeydd ond fel arall rhaid i ti sgwennu'r holl beth eto. Dwi'n meddwl falle bod o'n well darllen dros popeth sy gen ti hyd syrffed wrth i ti ei sgwennu, ac os ydi o'n mynd i gyfeiriad crap ceisio newid 'llif yr afon' wrth i ti fynd yn dy flaen.

    Ond mae'r broses o sgwennu yn slog, sdim dowt. Rhaid i ti gael syniad wyt ti'n teimlo'n gryf amdano i dy ysbrydoli i sgwennu neu rwyt ti'n mynd i gael trafferth symbylu dy hun i sgwennu. Felly mae 'jed gorffen' yn fuddugoliaeth bach ar ei ben ei hun.

    A dw i ddim yn meddwl bod awdur byth cweit yn gwybod beth sydd gyda fo, chwaith. Ti'n lot rhy agos at y gwaith i'w ddarllen o'n wrthrychol!

    ReplyDelete

Post a Comment