Maes Eisteddfod barhaol

Fe wnaeth Chris Cope awgrymu syniad diddorol iawn ar ei flog dydd o’r blaen, sef sefydlu maes parhaol i’r Eisteddfod Genedlaethol “rywle yn y canolbarth”.

Dw i ddim am ddadlau a ydi hynny’n syniad doeth ai peidio - fe wnes i unwaith ar Maes-e a chael fy saethu lawr mor gyflym â giangstar yn Chicago ar ddiwrnod St Valantine’s.

Ond rhai i mi gyfaddef fy mod i wedi bod yn breuddwydio yn ddiweddar ynglŷn â sut fyddai maes eisteddfod barhaol yn edrych! Fe es i hyd yn oed mor bell a chreu map o fy maes delfrydol i, pe bawn i’n filiwnydd...



Mae'r Maes ei hun ar ffurf Croes Geltaidd fel bod pawb yn gwybod lle mae nhw o hyd. Dyma brif fanylion y map...

1 - Y Pafiliwn ei hun. Adeilad priodol wedi ei adeiladu o gerrig. Yn ogystal â llwyfan a lle i 2,000 o bobol eistedd fe fyddai hefyd yn cynnwys amgueddfa am hanes yr Eisteddfod, Gorsedd y Beirdd, diwylliant ac iaith Cymru, ayyb. Byddai'r rheini yn cael rywfaint o fusnes drwy’r flwyddyn. Hefyd fe fyddai yna stafelloedd llai ar gyfer darlithoedd ac yn y blaen. Byddai’r adeilad wedi ei addurno gyda ffenestri lliw yn darlunio cymeriadau o chwedloniaeth y wlad.

2 - Y gerddi. Dyma fyddai prif ffynhonnell incwm y maes drwy gydol y flwyddyn. Byddai ymwelwyr yn talu’n unswydd i gael cerdded o amgylch rhai o’r gerddi gorau ym Mhrydain.

3 - Y stondinau. Cyfres o adeiladau cerrig, 150 ohonyn nhw ar bob chwarter o’r maes. Dim gwres canolog, dim ond caeadau i’w cau nhw bob blwyddyn ar gyfer yr eisteddfod nesaf. Byddai stondinwyr yn talu mwy am le yn y stondinau agosach i’r mynediad a llai am y stondinau yn y cefn. Byddai pob stondin o fewn cyrraedd signal Wi-Fi y Pafiliwn, (fel bod gan bawb gysylltiad i Golwg360 i weld y canlyniadau, wrth gwrs). Byddai yna lwybr tu cefn i’r stondinau fel nad oes angen llusgo offer ar hyd y gerddi.

4 - Cylch Gorsedd y Beirdd a’r eisteddle. Dim cerrig plastig a dim gorsedd wedi ei guddio yng nghornel y cae tu ôl i stondinau eraill. Byddai yna eisteddle ar ffurf amffitheatr Rufeinig i bobol gael eistedd a gwylio’r seremonïau.

5 - Llyn yng nghanol y gerddi (os nad yw fy sgwigls i ddynodi mai dŵr ydi o yn ddigon eglur).

6 - Y fynedfa i’r maes. Wal Glastonbury-aidd bob ochor iddo. Mae’r meysydd parcio, maes b a’r maes carafanau tu hwnt.

7 - Hen dderwen - man cyfarfod i bobol cyn iddyn nhw fynd i’r maes, neu ar ôl gadael.

8 – Coedwig Hansel a Gretel-aidd fel nad yw neb yn crwydro’r rhy bell o’r maes.

9 - Ar bob pegwn i’r ‘Groes Geltaidd’ fe fyddai yna gerflun mawreddog o un o brif gymeriadau chwedloniaeth Cymru. A chofeb i Archdderwyddon, enillwyr y Goron, Gadair, ayyb.

Comments