Cloriau Cymraeg

Dw’n i ddim os taw fi sy’n talu mwy o sylw yn ddiweddar ta ‘be ond dw i’n siŵr bod cloriau llyfrau Cymraeg wedi gwella yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Dyle chi ddim barnu llyfr wrth ei glawr, wrth gwrs, ond mae’n amlwg bod pobol yn gwneud, a bod clawr deniadol yn denu mwy o bobol i ddarllen llyfrau Cymraeg.

Dyma rai o fy ffefrynnau yn ddiweddar...


Dyma lyfr ydw i newydd ei orffen, Mr Blaidd. Mae’r llyfr yn wych ac mae’r clawr yn arbennig. Dw i’n falch eu bod nhw wedi newid steil cloriau Llwyd Owen a dweud y gwir am ei fod o’n myn braidd yn undonog ar ôl y trydydd llyfr.


OK, falle mod i braidd yn biased gyda’r clawr yma. Ond dim fi wnaeth gynllunio’r clawr i Igam Ogam, felly mae gen i’r hawl i’w ganmol o! Ro’n i wrth fy modd pan welais i’r clawr gan yr artist Adam Fisher, roeddwn i’n meddwl bod hwn, a gweddill ei waith o, yn wych.


Dwi’n credu bod gan nofelau’r Daniel Owen enw am fod braidd yn hen ffasiwn a byddai hynny a'r enw 'Y Llyfrgell' wedi bod yn ormod i rai pobol dwi’n meddwl. Diolch byth am y clawr gwych sy’n rhoi gwir awgrym o gynnwys y nofel. Digwydd bod dw i ar ganol darllen hwn nawr, ar ôl colli’r copi wnes i brynu yn y Steddfod (dw i’n siŵr deith o i’r golwg yn y flwyddyn 2020 pan mae llyfrau yn ddarfodedig).


Dw i heb gael cyfle i ddarllen Cwrw Am Ddim eto - er bod Chris Cope wedi gwrth-ddweud unrhyw resymau oedd gen i dros beidio gwneud - ond mae’r clawr yn grêt.


Mae cloriau nofelau pob un o nofelau Dewi Prysor yn reit dda, ond Crawia yw'r gorau hyd yma yn fy marn i. Gwaetha’r modd dw i heb gyrraedd Madarch eto (er nes i joio Brithyll) felly dw'n i ddim sut beth yw’r cynnwys!

Comments