Yn y dechreuad...


Roedd yna stori yn y Telegraph yr wythnos diwethaf am athro sy’n honni nad Duw wnaeth greu’r byd o gwbl. Yn ôl yr Athro Ellen van Wolde, “a respected Old Testament scholar and author”, fe wnaeth y cyfieithwyr gamgymeriadau o’r dechrau. Yn hytrach nag ‘Yn y dechreuad fe wnaeth Duw greu'r ddaear a’r nefoedd’ dylai’r Beibl fod wedi dweud ‘Yn y dechreuad fe wnaeth Duw wahanu’r ddaear a’r nefoedd’.

Cyn i chi feio’r hen William Morgan am y boob yma, dim fo oedd ar fai, ond ryw hen hen hen hen Dad-cu iddo o’r dwyrain canol, Sacheus Morgan efallai.

Y pwynt yw, mae dechreuadau yn bethau amwys. Petai chi’n darllen hwn yn y Saesneg drwy Google Translate, fe fyddai’n dweud wrthoch chi bod yr Athro ‘ma yn honni mai Duw wnaeth greu’r byd. Yn gyfan gwbwl i’r gwrthwyneb i beth mae o’n ei ddweud yn y Gymraeg. Digon posib bod Iesu wedi treulio 33 mlynedd yn crwydro’r ddaear yn hol dŵr o’r Rhine, ac yn atgenhedlu bob trydydd dydd, ond fydden ni ddim callach.

Felly dyma fod yn eglur o’r dechrau. Mae gen i ‘web presence’ yn barod, ac mae dolen i’r wefan ar y dde - ond yn anffodus mae o ar server fy mrawd, sy’n tueddu i droi’r cyfan i ffwrdd cyn mynd i’w wely er mwyn safio trydan. Felly dw i wedi cilio i fan hyn.

Fy swydd i yw Prif Is-olygydd Gwefan newyddion Golwg 360. Cyn hynny roeddwn i’n Ddirprwy Olygydd ar y cylchgrawn Golwg. Fydda’i ddim yn defnyddio’r gweflog yma i drafod fy ngwaith, na chwaith y newyddion, yn bennaf oherwydd fy mod i eisoes yn gwneud hynny yn Adran Sylwadau gwefan Golwg 360.

Mae’r blog yma’n le i bethau anniddorol amdana’i nad oes neb yn malio taten amdanyn nhw. Efallai nad yw hynny’n hysbyseb da i’r safle ond dw i ddim yn malio taten am gynnwys lot o wefannau ond yn eu mynychu nhw’n ddyddiol.

Y pwnc dan sylw yn bennaf fydd fy hobi o ysgrifennu. Drwy ryw ryfedd wyrth fe wnaeth fy nofel gynta’, Igam Ogam, ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008. Cyn hynny roeddwn i’n ysgrifennu heb gyhoeddi er fy mwynhad fy hun, ond os ydi pobol eraill yn joio hefyd waeth i fi ryddhau’r cynnyrch ddim!


Comments

  1. Ti wedi bod yn ffidlan gyda'r peiriant amser eto? Yn 2008 oedd yr Eisteddfod yng Nghaerdydd!

    Licio'r blog neywdd (y cynnwys a'r patrymlun).

    ReplyDelete
  2. Ti'n llygad dy le! Wedi newid y dyddiad nawr.

    ReplyDelete

Post a Comment