Trump, Brexit, rhyddfrydiaeth a chenedlaetholdeb

Yr Arlywydd Etholedig Donald Trump
Rwy’n credu bod yna ddau ffactor wrth wraidd buddugoliaeth Trump yn yr Unol Daleithiau a Brexit yn y Deyrnas Gyfunol.

Rhif 1

Yn gyntaf, system etholiadol a oedd yn gorfodi dewis rhwng dau ganlyniad a oedd, i’r mwyafrif o bobl, yn annymunol.

Yn y ddau achos, roedd pobl eisiau datgan eu hanfodlonrwydd gyda’r drefn fel yr oedd, ond yr unig fodd o wneud hynny oedd dewis opsiwn eithafol a fyddai yn gwneud pethau’n waeth.

Refferendwm a arweiniodd at Brexit wrth gwrs, ac mae’r rheini yn bethau prin, ond mae system ddemocrataidd yr Unol Daleithiau wedi bod yn llanast ers degawdau ac mae angen ei atgyweirio.

Rhwng etholaethau wedi eu gerimandro, y gornestau cychwynnol, dylanwad arian ar y broses, a’r coleg etholiadol ei hun, does yna ddim llawer yma sy’n gwneud unrhyw fath o synnwyr.

Esgorodd y system hon ar ddau ymgeisydd hynod o wael, a gorfodwyd pobl yr Unol Daleithiau i ddewis rhyngddynt am nad oedd y system mewn gwirionedd yn caniatáu unrhyw ddewis amgen.

Yn anffodus rwy’n credu bod y modd y mae’r wlad bellach wedi ei rwygo i lawr y canol yn ganlyniad uniongyrchol i orfodi pawb i ddewis rhwng y Democratiaid a’r Gweriniaethwyr.

Mae angen llawer mwy o hyblygrwydd o fewn ein systemau democrataidd os ydyn nhw am osgoi twf eithafiaeth yn y dyfodol. Mae cynrychiolaeth gyfrannol a phleidlais sengl drosglwyddadwy yn hanfodol.

Rhif 2

Mae’r term ‘neo-ryddfrydiaeth’ wedi colli ei ystyr drwy orddefnydd dros y blynyddoedd diwethaf. Ond beth bynnag ydan ni’n ei alw, mae’n amlwg bod yr etholwyr wedi cael llond bol ohono.

Dyw hyn ddim yn unrhyw beth newydd. Wedi’r cwbl, roedd y geidwadaeth radicalaidd a oedd yn rhan o dwf cenedlaetholdeb Cymreig diwylliannol yn yr 20fed ganrif yn ymateb i raddau i ryddfrydiaeth eithafol yr 19eg ganrif.

Mae masnach rydd yn cyfoethogi pawb, ond rhai yn fwy na’i gilydd. Ac nid yw’r manteision mor amlwg pan ddaw hynny ar draul ystyriaethau diwylliannol a chymdeithasol.

Does dim dwywaith bod nifer o gefnogwyr Trump yn hiliol. Ond y cwestiwn yw i ba raddau y mae'n ymateb i newid demograffig a diwylliannol cyflym yn yr Unol Daleithiau.

Roeddwn i’n anhapus o weld Donald Trump yn cael ei ddisgrifio fel ‘nationalist’. Y gwir yw bod Hillary Clinton yn genedlaetholwr hefyd, ond bod ei chenedlaetholdeb hi yn un sydd â gwedd ddinesig iddo.

Mae Donald Trump yn genedlaetholwr ethnig a diwylliannol. Wrth addo gwneud America yn fawr unwaith eto, yr hyn a oedd yn ei addo mewn gwirionedd oedd ei ddychwelyd i oes pan nad oedd unrhyw her i reolaeth, diwylliant ac iaith y mwyafrif croenwyn.

Rwy’n credu bod y pwyslais ar ddiwylliant ac iaith yn bwysig yma. Er ei fod yn ddyn croenddu, roedd Barack Obama yn dderbyniol i nifer o’r un bobl a bleidleisiodd dros Trump.

Roedd ei fagwraeth yn golygu ei fod yn gallu pontio ffiniau diwylliant pobl croenwyn a chroenddu.

Llwyddodd i apelio at y dosbarth gweithiol croenwyn, tra bod Hillary wedi ceisio eu hanwybyddu a dibynnu ar bleidlais pobl croewyn oedd ag addysg a grwpiau lleiafrifol. Methodd y strategaeth hon.

Mae iaith yn ystyriaeth arall wrth drafod dylanwad poblogaeth Hispanaidd yr Unol Daleithiau. Mae disgwyl i ddefnydd y Sbaeneg barhau i dyfu wrth i’r boblogaeth gyrraedd 30% o drigolion yr Unol Daleithiau.

Mae’n hawdd i ni ar y chwith wfftio pryderon o’r fath a dyheu am fyd amlddiwylliannol lle mae pawb yn gyfartal. Ond yn anffodus mae nifer yn gweld rhyngweithio rhwng diwylliannau gwahanol yn debycach i ‘tug of war’ – yn eu tyb nhw, does dim modd i ddylanwad y grwpiau lleiafrifol dyfu heb i ddylanwad y grŵp gwyn mwyafrifol grebachu.

Mae ymchwil wedi dangos bod twf poblogaeth groenddu neu Hispanaidd yn golygu bod cymunedau croenwyn yn fwy tebygol o bleidleisio dros y blaid Weriniaethol.

Roedd nifer yn meddwl y byddai'r newidiadau demograffig yn yr Unol Daleithiau yn siŵr o fod o fudd i’r Democratiaid, ond ymddengys y bydd yn hytrach yn hybu’r Gweriniaethwyr, yn y tymor byr beth bynnag.

Casgliad

Y ddau ffactor hyn gyda’i gilydd oedd y cyfuniad peryglus.

Roedd bai ar y sefydliad yn achos Brexit ac etholiad Trump. Roedd y Democratiaid wedi hybu Trump gan feddwl mai ef fyddai'r ymgeisydd hawsaf i’w faeddu.

Roedd Cameron yn yr un modd wedi cynnig refferendwm ar Brexit gan feddwl y byddai'r bobl yn gochel rhag ddewis mor eithafol.

Yn y ddau achos roedd y mwyafrif diwylliannol wedi cael cymaint o lond bol gyda’r drefn ryddfrydol fel ag yr oedd fe ddewison nhw neidio oddi ar y clogwyn i’r tywyllwch.

Mae angen i ni gynnig dewis i’r etholwyr sydd rywle rhwng y ddau begwn hyn os ydyn ni am atal twf ffasgaeth yn yr Unol Daleithiau ac yn Ewrop.

Comments

  1. Fel yn hanes Brexit roedd y bleidlais Trump ar ei gryfaf mewn taleithiau lle nad oes llawer o fewnfudo. A fel yn achos Brexit ardaloedd ol ddiwydiannol giciodd yn erbyn y tresi - nid rhai ethnig gymhleth.

    ReplyDelete

Post a Comment