Adolygiad o ffilm Y Llyfrgell

Euthum i Gaerfyrddin neithiwr er mwyn gweld ffilm newydd yr awdures Fflur Dafydd a’r cyfarwyddwr Euros Lyn, sef Y Llyfrgell / The Library Suicides. Roedd yn braf iawn gweld y sinema yn orlawn (roedd ychydig fel camu i bafiliwn yr Eisteddfod oherwydd nifer y wynebau cyfarwydd a welais i yno). Dywedodd un o’r porthorion nad oedd erioed wedi gweld dangosiad mor brysur. Y gobaith yw y bydd yn ddechrau oes aur newydd o ffilmiau Cymraeg, ac y bydd modd mwynhau’r rheini ar y sgrin fawr yn yr un y modd.

Mae yna nifer o adolygiadau wedi eu cyhoeddi eisoes, y rhan fwyaf gan y rheini sydd wedi gwylio’r ffilm gydag isdeitlau ac sydd ddim yn gyfarwydd gyda’i gefndir ar ffurf nofel. Felly roeddwn i’n meddwl y byddai yn werth cyhoeddi adolygiad gan rywun a oedd wedi anwybyddu’r isdeitlau a hefyd wedi darllen y nofel wreiddiol. Rydw i wedi penderfynu cyhoeddi un adolygiad heb sbwlwyr er mwyn eich annog chi oll i weld y ffilm, ac atodiad gyda sbwlwyr oddi tanodd er mwyn trafod ambell broblem â rhai elfennau o’r ffilm.

Yn fyr: Roedd y ffilm ben ac ysgwydd uwchben unrhyw gynhyrchiad Cymraeg a welais ers degawdau, o bosib ers Hedd Wyn, a enwebwyd am Oscar yn 1993. Roedd yr actio, gan Catrin Stewart, Ryan Teifi, Dyfan Dwyfor, Sharon Morgan a Carwyn Glyn yn wych drwyddi draw. Roedd y cyfarwyddo a’r golygu hefyd o’r safon uchaf.

Y Nofel Wreiddiol
Un fantais sydd gan y ffilm dros y nofel yw ei allu i ddangos i ni'r Llyfrgell Genedlaethol ei hun. Gellid dadlau mai’r adeilad yw prif gymeriad y ffilm mewn gwirionedd. Mae’r cyfarwyddwr wedi gwneud defnydd meistrolgar o’r neuaddau mawrion, y cerfluniau (e.e. un siot effeithiol iawn o gofeb Tryweryn John Meirion Morris), a ffasâd yr adeilad, ond hefyd y coridorau claustrophobic a’r staciau lle y cedwir y llyfrau eu hunain. Roedd y nofel ei hun yn dipyn o blockbuster a oedd yn ysu am gael ei hail-greu ar gyfer y sgrin fawr ac mae cynhyrchwyr y ffilm wedi cymryd mantais lawn o’r posibiliadau y mae'r lleoliad yn ei gynnig. Ar nodyn cenedlaetholgar roedd hefyd yn braf hefyd gweld adeilad sy’n eicon cenedlaethol yn cymryd ei le ar y sgrin fawr, ochr yn ochr gyda Thŷ’r Cyffredin a’r Lincoln Monument! Piti nad oedd Llywodraeth y Cynulliad yn barod i’r Senedd gael yr un driniaeth yn y ffilm James Bond ddiweddaraf.

Mae Fflur Dafydd wedi gwneud gwaith effeithiol iawn o addasu ei nofel, a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn 2009, ar gyfer y sgrin fawr. Yn wir, y tu hwnt i’r syniad canolog, sef bod gefeilliaid sy’n gweithio yn y Llyfrgell yn ceisio gwneud am academydd y maent yn ei feio am farwolaeth eu mam, mae wedi rhwygo bron i bob dim allan a’i adeiladu o’r newydd ar gyfer dibenion y sgrin. Gallaf ddychmygu bod y broses honno wedi bod yn un boenus iawn i’r awdur - does neb yn mwynhau torri un o’i anwylon ei hun yn ddarnau mân. Ond bu’n ddewr ac mae wedi lleihau’r cwbl i’w elfennau angenrheidiol - yr efeilliaid, Ana ac Nan, yr academydd Eben, a’r porthor Dan y mae ei bresenoldeb yn cawlio eu cynllun.

Mae’r elfennau dyfodolaidd wedi mynd, o bosib yn rhannol oherwydd bod y presennol wedi dal i fyny â nhw i ryw raddau (roedd digideiddio ac e-lyfrau yn ymddangos yn futuristic iawn yn 2009). Does dim cymaint o ddychan y byd academaidd Cymreig yma chwaith, sy’n ddewis call o ystyried bod y ffilm wedi ei anelu at gynulleidfa ryngwladol.

Dyfan Dwyfor - John McClane Y Llyfrgell?
Mae troi’r ffilm yn thriller a chadw’r ffocws ar y pedwar prif gymeriad drwyddi draw yn golygu bod y plot yn symud yn ei flaen yn gyflym ac yn ddiffwdan. Llwyddir i drafod themâu yn ymwneud â’r cof, colled a marwolaeth mewn modd cynnil ac effeithiol heb darfu’n ormodol ar lif y naratif - nes y diwedd, o leiaf.

Yn anffodus nid yw pob elfen o’r naid o’r nofel i’r sgrin mor llwyddiannus. Un broblem gyda chanolbwyntio’n unig ar yr efeilliaid, Ana a Nan, ac Eben yw nad yw’r un o’r cymeriadau hyn yn arbennig o gydymdeimladol. Oherwydd bod y ffilm yn amharod i ddatgelu nes yn hwyr iawn yn y ffilm pwy yw’r dihiryn/od go iawn a pwy yw’r arwr/esau nid ydym byth yn siŵr iawn pwy i’w gefnogi. Dylai’r golygfeydd pan mae Ana/Nan yn hela Eben drwy goridorau'r Llyfrgell fod yn llawn tensiwn, ond am nad ydym yn siwr iawn ar y pwynt hwnnw ai'r efeilliaid neu’r academydd yw’r goodies neu'r baddies mae’n anodd gwybod pwy i bryderu drosto.

Yr ateb efallai oedd naill ai datrys yr amwyster hwnnw yn gynharach, neu esgyn Dan y Porthor i fod yn gymeriad amlycach – yn fath o John McClane yn Die Hard: Y Llyfrgell. Dyma’r unig gymeriad y mae’r gwyliwr yn gwybod y dylai ei gefnogi drwyddi draw. Ond nid yw’n cael llawer o gyfle i ddylanwadu ar y naratif am ei fod yn amlach na pheidio wedi ei gloi y tu ôl i ddrysau caeedig.

Cwynion bychain yw’r rhain serch hynny ac rwyf am bwysleisio nad oeddynt wedi amharu yn ormodol ar fy mwynhad o’r ffilm. Dyma film sy’n haeddu cael ei gweld ar y sgrin fawr, ac os oes gennych chi gyfle i wneud hynny yn y dyfodol agos, rwy’n eich annog chi i fynd amdani cyn y bydd y tocynnau prin oll wedi diflannu.

Bydd y diweddglo ar ei ben ei hun yn siwr o fod yn destun trafod am flynyddoedd i ddod...


Ana neu Nan? Neu'r ddwy?
Sbwylwyr – i’r ffilm a’r llyfr

Os nad ydych chi wedi gweld y ffilm eto, peidiwch â darllen dim pellach!

Cwestiynau, cwestiynau, cwestiynau...

Fel y dywedais uchod, testun trafod amlwg i'r rheini sydd wedi gweld y ffilm fydd y diweddglo. Bum yn ei drafod â fy mhartner yr holl ffordd adref yn y car. Yn bersonol roeddwn i’n teimlo ei fod ychydig yn rhy glyfar ac yn difetha rywfaint o’r emosiwn a deimlais wrth wylio gweddill y ffilm. I ddechrau, roedd ychydig yn rhy debyg i ddiweddglo Fight Club, a oedd mor effeithiol a dylanwadol fel ei fod wedi mynd yn ychydig bach o cliché yn y cyfamser. Yn ail, golygai bod yr emosiwn a deimlwn wrth ystyried marwolaeth un o’r efeilliaid funudau ynghynt wedi ei chwalu’n llwyr, oherwydd mae’n debyg nad oedd hi bellach yn bodoli. Yn drydydd, mae’n awgrymu na ddigwyddodd bron i ddim byd a welwyd ar y sgrin yn ystod yr awr a hanner flaenorol mewn gwirionedd, oherwydd roedd y cyfan bron yn ddibynnol ar Ana a Nan yn bod mewn lleoliadau gwahanol yn y Llyfrgell ar yr un pryd (e.e. sut allen nhw fod ar y naill llaw yn hela Eben yn y llyfrgell ac yn cael rhyw â Dan y Porthor dan glo mewn ystafell arall? Pwy oedd wedi eu cloi nhw i mewn?) Mae’r diweddglo hefyd yn amlygu ambell i plot hole a fyddai wedi ei anwybyddu fel arall, e.e. sut oedd yr efeilliaid yn gobeithio awgrymu bod Eben wedi ei ladd ei hun pan oedd CCTV ym mhobman yn yr adeilad - fyddai rhoi Glyn i gysgu ddim yn atal y dyfeisiau yma rhag recordio yr hyn a ddigwyddodd.

Efallai y dylid bod wedi gwneud defnydd o’r twist ar ddiwedd y llyfr, a oedd yn fy marn i’n dipyn gwell, sef bod y chwaer (drwg) sy’n byw yn dwyn hunaniaeth y chwaer (dda) a fu farw, gan feio’r cwbl arni hi. Byddai wedi bod yn ergyd ychwanegol yn y ffilm petai hi hefyd wedi dwyn ei chariad, heb iddo ef wybod y gwahaniaeth rhyngddynt!

Yn anffodus teimlwn fod y twists cyson (mae cymeriadau yn dod o farw i fyw yn bur aml) yn golygu nad oedd yr elfennau thriller yn gweithio mor effeithiol. Weithiau roedd yn anoddach teimlo’r tensiwn oherwydd y teimlad y byddai fy nghanfyddiad o’r hyn a oedd yn wir ac yn gelwydd yn cael ei chwalu eto o fewn munudau.

Rwy’n credu bod y dirgelwch ynglŷn â marwolaeth Elena Wdig yn ddigon cryf ynddo’i hunain i gynnal y plot drwyddi draw ac efallai y dylid bod wedi gadael i’r ffilm fod yn thriller ychydig yn symlach, heb yr amwyster ‘llenyddol’.

Ond eto, mân gwynion yw’r rhain, ac rwy’n credu bod y ffaith bod cynnwys y ffilm yn dal i droi yn fy mhen fore trannoeth yn arwydd da iawn! Yr un peth sy’n sicr yw fy mod i’n ysu am gael gwylio’r ffilm eto, er mwyn gweld a oes cliwiau a fydd yn golygu bod jig-so’r diweddglo’n syrthio i’w le.

Comments