Os oedd angen ysgogiad ar genedlaetholwyr Cymru i weithredu, dyma fo. Nid yn unig y mae Cymru allan o’r UE, ond wedi gostwng rhaff y gilotîn o’i gwirfodd. Ond mae’r canlyniad wedi digwydd - rhaid meddwl yn gadarnhaol:
Am y tro cyntaf ers cannoedd o flynyddoedd, mae modd cynnig gweledigaeth sy’n gwneud synnwyr ariannol o Gymru sy’n annibynnol o Loegr.
Pleidleisiodd 17 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru dros Aros. Ond dim ond 52% i 48% oedd y bwlch. Ac o ystyried y rhwyg demograffig rhwng yr hen a’r ifanc, fe allai fod yn debycach i 50-50% mewn rhyw ddegawd.
Yn wahanol i’r Alban, doedd y Cymry ddim yn meddu ar y wybodaeth oedd ei angen arnynt er mwyn pleidleisio. Faint oedd yn gwybod am gyfraniad ariannol enfawr yr Undeb Ewropeaidd i orllewin Cymru a’r Cymoedd dros y degawdau diwethaf? Ail-adroddwyd y neges hon o fewn bybl rhwydweithiau cymdeithasol, ond nid oedd yn cyrraedd y ddemograffeg honno a fyddai yn penderfynu’r bleidlais.
Rwy’n dilyn gwleidyddiaeth Cymru’n frwd, ond roedd gwleidyddion Cymru yn dawedog iawn yn yr wythnosau cyn y refferendwm. Yn enwedig felly'r Blaid Lafur yr oedd eu pleidleiswyr yn y cymoedd mor allweddol i’r canlyniad. Dywedodd Carwyn Jones mai dyma’r refferendwm pwysicaf yn hanes Cymru, ond os felly pam na welwyd canran o’r un ymdrech a aeth i mewn i amddiffyn seddi targed yn Etholiad y Cynulliad? Nid oedd amseru Etholiad Cymru gwta fis a hanner ynghynt yn help yn hynny o beth, ond roedd wythnosau lawer i fwrw ati gyda’r gwaith. Ni welwyd gwleidyddion o Gymru yn y prif ddadleuon ar y teledu, fel y gwelwyd Nicola Sturgeon a Ruth Davidson. Y tu hwnt i Blaid Cymru, ni wnaethpwyd ymdrech gwirioneddol i osod y ddadl o fewn cyd-destun Cymreig.
Yn fyr - gwnaethpwyd cam gwael a'r Cymry o ran eu hysbysy am fanteision yr UE ac oblygiadau'r penderfyniad.
Yn fyr - gwnaethpwyd cam gwael a'r Cymry o ran eu hysbysy am fanteision yr UE ac oblygiadau'r penderfyniad.
Y broblem oesol yw bod gormod o Gymry yn cael eu newyddion o bapurau newydd Llundeinig, a chyfryngau darlledu sydd yn dilyn agenda newyddion y papurau rheini. Mae’r papurau hyn yn atgynhyrchu disgwrs cenedlaetholdeb Prydeinig, a gwrth-Gymreig a gwrth-Ewropeaidd. Fe fydd datrys hyn yn dalcen caled - ond byddai mynd i’r afael a’r broblem ac awgrymu datrysiadau yn fan cychwyn. Dylai hyn fod yn flaenoriaeth i’r mudiad cenedlaethol os ydynt am ennill tir dros y degawdau nesaf, yn hytrach nag rywbeth i rwgnach amdano a gwneud dim byd yn ei gylch.
Mae angen i ni genedlaetholwyr Cymreig fynd ati dros y blynyddoedd nesaf i newid barn eu cyd-Gymry ynglyn â'r Undeb Ewropeaidd. Os gall llipryn diegwyddor fel Farage ein tynnu allan o’r UE, gallwn gyda’n gilydd ennill mynediad yn ôl - a hynny yn bennaf oherwydd y byddai o fudd i Gymru. Ac mae angen cyfryngau arnom a fydd yn pwysleisio ein bod yn Gymry, ac y dylid ystyried yr oblygiadau i Gymru cyn pleidleisio.
Gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon yn bygwth gadael y Deyrnas Gyfunol a llywodreath newydd asgell-dde yn ymffurfio yn San Steffan a fydd yn awyddus i ddal gafael ar yr hyn sy'n weddill, mae yna beryg gwirioneddol i Gymru gael ei llyncu. Mae heddiw yn groesffordd a fydd yn penderfynu a yw Cymru'n tyfu'n genedl-wladwriaeth neu yn bodloni ar fod yn 'EnglandandWales' yn barhaol.
Comments
Post a Comment