Yr Eisteddfod ar Groesffordd

Caethiwo'r Eisteddfod - neu ei gadael yn rhydd?
Does dim byd yn fwy tebygol o gynnau dadl ymysg y Cymry Cymraeg – neu o leiaf garfan benodol ohoni, y ‘dosbarth canol’, neu ‘bobl y pethe’ – na cheisio newid yr Eisteddfod.

Dysgodd y trefnwyr y wers honno wrth fygwth mynd a’r ŵyl i Lerpwl yn 2008!

Criw digon ceidwadol yw’r Eisteddfodwyr selog. Nid yw unrhyw newid, o werthu cwrw ar y maes i wahanu'r maes carafanau a’r pebyll, yn debygol o rygnu eu bodd.

Gwyr unrhyw un sy’n ymddiddori rhywfaint yn hanes yr ŵyl bod yr Eisteddfod wedi newid yn sylweddol drwy gydol ei hoes. A bu achwyn bob cam o’r ffordd.

Dyma ddyfyniadau o un gyfrol o’r Geninen yn 1887:

“... mae’r Eisteddfod Genedlaethol Gymreig wedi ymddirywio cymaint nes y mae wedi dyfod yn fwy o ‘Music Festival’ Seisnig nag o Eisteddfod mewn gwirionedd.”- Gwyndodig “... mae amryw o hen gefnogwyr yr Eisteddfod wedi dod i gredu ma nid y rheilffordd a achosa farwolaeth yr iaith Gymraeg, ond yr Eisteddfod.” – Glanffrwd

Rwy’n cofio’r amheuon pan ddatgelwyd y Pafiliwn Pinc am y tro cyntaf nôl yn 2006. Nawr mae fel petai wedi tyfu’n symbol o’r Eisteddfod ei hun.

Mae newid yn anochel ac i’w groesawu, ac mae nifer o’r traddodiadau Eisteddfodol sydd mor annwyl i ni erbyn hyn yn ganlyniad i ddyfeisiadau damweiniol neu fwriadol dros y degawdau.

Steddfod y Stryd

Serch hynny, rhaid hefyd gwerthfawrogi bod yr Eisteddfod wedi ei gadw ar y cledrau hyd yma drwy union ymdrechion y Steddfodwyr selog rheini sy’n reit hoff o gwyno.

A bu gwrthdaro sylweddol eisoes rhwng y rheini sy’n frwd o blaid y syniad o gynnal Eisteddfod 2020 ar strydoedd Caerdydd a’r rheini sy’n benderfynol yn erbyn.

(Yn anffodus Twitter bu prif gyfrwng y ddadl hyd yn hyn, gan olygu ei fod wedi troi mewn dim i or-gyffredinoli a dadlau dros ystyr geiriau.)

O’m rhan i, rydw i’n berffaith fodlon rhoi tro ar y syniad, ond hefyd yn gofidio am agwedd ffrwd â hi ambell un sy’n benderfynol o fwrw ymlaen â newid sylfaenol i’r ŵyl er nad oes unrhyw gadarnhad eto beth fydd y trefniadau.

Hyd y gwelaf i, mae yna bryderon gwbl ddilys ynglŷn â’r syniad - ac ni wneith unrhyw ddrwg o gwbl i’w gwyntyllu yn y sffêr gyhoeddus.

Nid ydynt yn golygu bod y person sy’n gwneud yr awgrymiadau yn a) negyddol, b) yn casáu Caerdydd, na chwaith c) eisiau byw mewn ‘ghetto’ Cymraeg ar wahân i weddill y bydd.

Gŵyl yw’r Eisteddfod

Nid adlewyrchu byd-olwg cyfyng ac allgynhwysol y mae’r dymuniad i gynnal yr Eisteddfod mewn cae diarffordd.

Gŵyl yw’r Eisteddfod, ac fel llawer i ŵyl arall a gynhelir yn ystod misoedd yr haf, aiff pobl yno ar eu gwyliau.

Un o brif rinweddau gwyliau yw cael dianc o amgylchedd cyfarwydd i rywle newydd a gwahanol.

Nid wyf yn credu bod y rheini sy’n gwrthwynebu Eisteddfod stryd yng Nghaerdydd yn synio felly am nad ydynt yn hoffi’r brifddinas, ond yn wir am eu bod yn or-gyfarwydd â hi.

O ddewis gwyliau, nid yw treulio wythnos ar stryd ddinesig (yng Nghaerdydd neu unrhyw ddinas arall) yn cymharu’n ffafriol yn eu meddyliau a chael ymlacio gyda photel o gwrw ynghanol cefn gwlad ar ddiwrnod braf o haf.

Cefnogir y dybiaeth hon gan ystadegau’r Eisteddfod eu hunain. Lle yw’r ardal fwyaf poblogaidd o ran nifer yr ymwelwyr? Y Bala. Ardal o harddwch naturiol sy’n bell o bobman.

Yr union fath o le y mae pobl yn hoffi mynd ar eu gwyliau.

Rhaid cofio felly mai gŵyl yw’r Eisteddfod, nid gwasanaeth. Mae pawb sy’n mynychu yn gwneud am eu bod yn cael ryw fwynhad o wneud hynny.

Nid cenhadwyr ydynt, i’w gyrru yma a thraw gan ddeallusion y genedl er mwyn argyhoeddi pobl sydd ddim yn hoffi Eisteddfota.

Y peryg wrth newid cyfeiriad er mwyn apelio at gynulleidfa newydd, ydi eich bod chi’n methu ac yn colli eich cynulleidfa wreiddiol hefyd.

Maen blastig
Y pryderon

Dyma’r pryderon hyd yma, rhai gen i a rhai sydd wedi eu cywain gan eraill (croeso i chi ychwanegu rhagor yn y sylwadau):

1.) Does dim naws gŵyl ynghanol dinas fawr. Di-enaid a diflas oedd Eisteddfodau’r Urdd yng Nghaerdydd.

2.) Mae strydoedd Caerdydd yn llawn siopau. Pa obaith sydd gan stondinwyr dan y fath amgylchiadau? Ydw i’n debygol o bicio i stondin Cadwyn os oes John Lewis rownd y gornel? Hmmm...

3.) Mae’r Eisteddfod yn anferth - mae cannoedd o stondinau a neuaddau. Ni fydd modd cynnwys y cyfan mewn un stryd neu sgwâr. O ganlyniad fe fydd wedi ei wasgaru yma a thraw, heb ganolbwynt i’r cwbl.

4.) Byddai 20,000 o ymwelwyr dyddiol yn anweledig ynghanol torfeydd arferol Caerdydd. Caiff yr elfen gymdeithasol Gymraeg ei wanedu yn sylweddol.

5.) Bydd Eisteddfod sy’n fwy hygyrch i bobl Caerdydd yn llai hygyrch i bawb arall. Yn ogystal â chyrraedd ar drên neu gar bydd angen teithio ar fws neu ar droed i ganol y ddinas. Os oes maes carafanau neu bebyll fe fydd ymhell o ganolbwynt yr ŵyl.

6.) Ni fydd yr ŵyl deuluol. Mae rhieni yn caniatáu i’r plant grwydro’r maes yn weddol sicr y bydd wynebau cyfarwydd o’u cwmpas ac y byddant yn saff. A fyddant yn cael yr un pen rhyddid ar strydoedd Caerdydd? Anodd credu.

7.) Sut fydd yr Eisteddfod yn talu ei ffordd? Mae’n anhebygol y bydd busnesau lleol yn fodlon gweld cau stryd gyfan i’w siopwyr arferol. O godi arian ar bobl i ymweld â’r pafiliwn, darlith neu gig yn unig, fe fydd llai o gymhelliad i bobl daro i mewn arnynt os ydynt yn cael crwydro’r ‘maes’ am ddim. Ydi’r Eisteddfod yn ddigon sicr yn ariannol i beryglu newid ei fodel busnes yn llwyr?

Y ddadl o blaid

Beth felly yw’r brif ddadl o blaid Eisteddfod ar y stryd? Yr hen gastanwydden  honno, ‘Mynd a’r Eisteddfod at y bobol’, ac er fy mod i yn sicr o blaid hynny rwy’n credu na ddylid mynd i eithafion.

Mae’r Eisteddfod eisoes yn ŵyl deithiol. Gwneir ymdrech ymwybodol bob blwyddyn i symud yr ŵyl hwnt ac yma er mwyn rhannu’r budd economaidd a diwylliannol, ac arbed y drafferth i bobl sydd ddim yn Eisteddfodwyr selog i symud ati hi.

Roedd hyn yn angenrheidiol yn nyddiau cynnar yr ŵyl pan oedd yn amhosib bron teithio o un pen o Gymru yw’r llall, ond rydym wedi parhau â’r traddodiad drwy ddewis.

Nid oes yr un ŵyl fawr arall yn mynd i’r fath ymdrech. Y Sioe Frenhinol, Gŵyl y Gelli, Glastonbury, Green Man, Sesiwn Fawr, Wakestock - maent oll wedi eu hysbysebu’n ddigon celfydd ac yn darparu cymhelliad digonol i bobol fod eisiau mynd atyn nhw.

Buddsoddir yr elw, nid mewn codi adeiladau parod am wythnos y flwyddyn, ond mewn gwella’r cyfleusterau ar y maes fel bod yr arlwy yn well y flwyddyn ganlynol.

(Yn wir mae yna ddadl y byddai’r ŵyl yn fwy llwyddiannus wrth ddenu’r di-Gymraeg a’r di-diddordeb o ollwng pac a gwario’r arian hwn ar wella’r hyn sy’n cael ei gynnig ar y maes.)

Gallwn dderbyn bod yr Eisteddfod eisoes felly yn mynd y tu hwnt i’r un ŵyl fawr arall er mwyn cyrraedd pobl, ac ar ei cholled yn ariannol o ganlyniad.

Ond ymddengys nad yw’r teithio hwn yn ddigon - yr awgrym erbyn hyn oedd nad oedd maes Eisteddfod 2008 yn y Brifddinas yn ddigon hygyrch i’r trigolion.

Roedd wedi ei ‘guddio’ ymaith lle na fyddai neb byth yn dod ar ei draws.

Ar sail y cwynion hyn fe fyddech chi’n meddwl bod yr ŵyl wedi ei chynnal mewn rhyw warws diarffordd neu gyrion dwyreiniol y ddinas, neu ar Ben y Fan.

Ond cafodd ei chynnal reit yn ganol y ddinas. Braidd na ellir bod wedi dod o hyd i leoliad mwy canolog.

Piciais i o’r maes i’r sinema i wylio'r ffilm Batman newydd ar ddydd Mawrth yr ŵyl. Pan orffennodd y ffilm, roedd gen i ugain munud i gyrraedd yn ôl i’r maes ar gyfer un o ddigwyddiadau’r pafiliwn ac roeddwn i yno gyda deg munud i’w sbario.

Os ydi rhywun eisiau mwynhau arlwy'r Eisteddfod heb symud modfedd, mae modd gwneud hynny ar S4C ac ar app.

I’r rheini o Gaerdydd oedd am fynychu, nid oedd ymlwybro drwy Barc Biwt yn ormod i’w ofyn, siawns. Roedd yna hyd yn oed sgwteri i gludo’r henoed o un pen o’r parc i’r llall.

Efallai nad oedd rhai pobl yn ymwybodol bod yr Eisteddfod yno. Ond mae yna lawer yn digwydd mewn prifddinas – gormod yn wir i wybod am y cwbl.

Roeddwn i yn y brifysgol yng Nghaerdydd pan oedd ffeinal Cwpan FA wedi ei gynnal droeon yn y ddinas, a blaw bod un o fy nghyd-letywyr wedi tynnu fy sylw at y ffaith ni fyddai gen i syniad.

Y gwirionedd yw bod gŵyl y tu ôl i ddrysau caeedig ar strydoedd Caerdydd yn debygol o fod yn fwy anweledig na chodi pafiliwn mawr binc ynghanol prif faes hamdden y ddinas.

Mae pafiliwn mawr yn ennyn chwilfrydedd, yn denu diddordeb. Fe fyddai Eisteddfod stryd yn toddi i’w hamgylchedd.

Eisteddfod Casnewydd - dyddiau da!
Cydbwysedd

Ai diffyg hyder yn yr ŵyl sydd y tu cefn i’r dyb hon bod angen mynd a hi yn fwyfwy agos at bobl o hyd?

Ydyn ni wedi colli hyder yn ein galli i ddenu pobl at yr ŵyl, ac felly yn credu bod angen eu rhwydo?

Oes angen i’r Eisteddfod fod yn ryw fath o venus fly trap, yn llechu ymysg strydoedd Caerdydd yn disgwyl i gael traflyncu pobl sy’n digwydd taro heibio?

Rwy’n credu bod elfen o ddiffyg hyder yma – ond yn fwy perthnasol efallai yw’r newid yng nghymeriad yr Eisteddfod ei hun.

Mae maes yr Eisteddfod wedi mynd yn rhy fawr, ac yn rhy ‘gaeedig’, yn enwedig felly gyda’r nos.

Does dim cymhelliad bellach dros adael y maes ei hun o gwbl.

Mae’r dyddiau pan oedd yr Eisteddfod yn ‘cau siop’ tua 6pm wedi dod i ben dros y blynyddoedd diwethaf, yn sgil cynnig cerddoriaeth byw a thafarndai yno.

Un o’r Eisteddfodau cyntaf i fi eu mynychu oedd un Casnewydd yn 2004. Mae gen i atgofion cynnes o droedio maes gwledig, prydferth yn ystod y dydd.

Ond ar ôl 6pm roeddwn i ac eraill yng nghefn bws mini (wedi ei yrru gan Fred Ffransis, yn ôl yr hyn ydw i’n ei gofio) i ganol y ddinas am noswaith o rialtwch.

Ym Meifod yn 2003, gwelais Tudur Owen yn gwneud stand up am y tro cyntaf yn un o neuaddau'r dref.

Roedd yr arlwy gyda’r nos yn eich gwahodd i ymweld â gweddill y gymuned.

Mae Eisteddfod o’r fath yn cynnig y gorau o’r ddau fyd. Y Maes gwledig gyda’r dydd a’r ddinas (neu’r dref) gyda’r hwyr.

Mae angen dychwelyd at y cydbwysedd hwnnw. Nid mynd o un eithaf i’r llall - maes sydd fel dinas, i ddinas sydd fel maes - yw’r ateb yn fy nhyb i.

Comments