Bron i ddeg mlynedd yn ôl taniwyd fy niddordeb mewn
llenyddiaeth Gymraeg wedi i mi gael benthyg y nofel Seren Wen ar Gefndir Gwyn
gan un o'm ffrindiau. Doeddwn i heb ddarllen nofel Gymraeg ers blynyddoedd cyn
hynny - ers dyddiau Cysgod y Cryman ac yr ‘Stafell Ddirgel yn yr ysgol
uwchradd. Doedd cylch fy narllen yn Saesneg ddim yn arbennig o eang chwaith -
fe fûm i’n byw ar ddiet melys o nofelau Terry Pratchett ac ambell i awdur
ffantasi arall ers blynyddoedd. Ond roedd Seren Wen ar Gefndir Gwyn, gan Robin
Llywelyn, wedi dal fy nychymyg yn syth. Roedd yn helpu wrth gwrs ei fod yn
nofel ffantasi / ffuglen wyddonol o’r math yr oeddwn i eisoes yn ei fwynhau.
Ond yn fwy na hynny fe wnaeth i mi sylweddoli fod yna bethau i’w mwynhau yn
Gymraeg nad oedd ar gael yn Saesneg - ni fyddai Seren Wen ar Gefndir Gwyn wedi
gallu bodoli mewn unrhyw iaith arall. Roedd y Gymraeg tafodieithol yn gymeriad
yn y nofel i’r un graddau a Gwern Esgus, Siffrwd Helyg a'r lleill.
Rydw i wedi parhau i ddarllen a mwynhau, ac hyd yn oed ceisio
ysgrifennu, nofelau Cymraeg ers hynny.
Mae Ebargofiant yn nofel arall hollol unigryw. Cefais fy
atgoffa o Seren Wen ar Gefndir Gwyn sawl gwaith wrth ei darllen - yn bennaf am
ei bod, yn y bôn, yn nofel ddigon hwyliog yn llawn cymeriadau hoffus, a’i bod yn
yr un modd yn ryw fath o gymysgedd o ffantasi a ffuglen wyddonol.
Un peth arall sydd gan y nofel yn gyffredin â Seren Wen
yw y bydd nifer o ddarllenwyr yn cael trafferth ei deall hi ar y dechrau.
Derbyniad digon cymysg a gafodd Seren Wen - er gwaetha’r ffaith bod beirniaid y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod 1992 wedi dweud ei bod yn gampwaith - a hynny oherwydd
ei bod wedi ei ysgrifennu mewn tafodiaith ogleddol. (Mae yna grynodeb da iawn
o’r hanes yn Rhwng Gwyn a Du: Agweddau Ar Ryddiaith Gymraeg Y 1990au, gan
Angharad Price.)
Os oedd pobl yn cael trafferth deall tafodiaith Seren
Wen, hoffwn i weld eu hymateb i Ebargofiant! Mae’n gymysgedd o dafodiaith ac
orgraff anghyffredin. Mae yna rifau yn gymysg â geiriau, geiriau mewn rhes heb
fylchau rhyngddyn nhw, a’r holl eiriau ac enwau gwneud y mae rhywun yn eu disgwyl mewn nofel ffuglen wyddonol. Mae’n debyg bod y Cyngor Llyfrau wedi awgrymu y dylai’r awdur ei gwneud yn haws ei darllen. Rwy’n falch na wnaeth
hynny, ond rhaid cyfaddef fy mod i wedi straffaglu braidd drwy fwd y tudalennau
cyntaf, gan ddarllen ac ail-ddarllen bob brawddeg gan geisio gwneud synnwyr
ohonynt.
Wy yw’r nofel hon, gyda phlisgyn trwchus.
Mae’n anodd torri drwy’r plisgyn allanol hwnnw, ond o ddyfalbarhau gellid cael
mynediad at y melynwy hynod flasus y tu mewn. Erbyn rhyw chwarter ffordd drwy’r
nofel, pan mae’r plot wir yn dechrau symud o ddifri, roedd y darllen yn dod yn
ddigon rhwydd. Erbyn ei diwedd doeddwn i ddim hyd yn oed yn sylwi ar yr
orgraff, heblaw bod yr awdur yn dewis tynnu sylw ati (ac mae’n rhan hollbwysig
o’r plot a’r themâu canolog). Roedd yn fy atgoffa o ddysgu i ysgrifennu mewn
llawrfer newyddiadurol - yr iaith oedd mor ddiarth i ddechrau, wedi troi’n ail
natur yn fuan iawn.
Un peth a oedd o ddefnydd mawr i mi oedd darllen y
geiriau yn uchel - fel yr hen fynachod yn eu sgriptoria - nes fy mod i wedi
deall eu hystyr nhw. Cyn hir daeth yr iaith yn rhan annatod o wead y nofel
ac yn rhan o’r pleser o ddarllen.
Dydw i ddim am ddweud gormod am y melyn wy sydd y tu mewn
i’r plisgyn - y byd, y plot, y cymeriadau, a’r themâu. Digon yw dweud fy mod
i’n torri bol eisiau trafod y cyfan gyda rhywun arall sydd wedi profi’r cyfan!
Mae yna sawl dirgelwch o fewn y plot i gnoi cil arnynt, ac rwy’n credu y bydd y
themâu canolog yn destun dehongli a thrafod am amser hir iawn.
Efallai bod hyn i gyd yn gwneud i’r nofel swnio fel pe
bai’n waith hynod o galed – ond fel y dywedais i, mae’n nofel hynod o hwyliog, ac yn ddoniol, hefyd.
Fel Seren Wen, dyma nofel sydd wedi rhoi archwaeth newydd
i mi am lenyddiaeth Gymraeg. Nofel hollol unigryw, na fyddai wedi gallu bodoli
mewn unrhyw iaith arall.
Mae eisiau rhywle i'w thrafod. Mewn byd cyfiawn byddai'r orgraff yn cael ei mabwysiadu fel iaith gyfrin gan grŵp isddiwylliant Cymraeg.
ReplyDelete