Yr Urdd, Urddo, a'r Frenhines


Cynan yn urddo'r Frenhines


Rhaid cyfaddef fy mod i wedi fy siomi braidd gan barodrwydd ambell un o hoelion wyth ein diwylliant i fynd i Loegr i gwrdd â’r Frenhines. O fewn y pythefnos diwethaf cafwyd wybod bod yr Archdderwydd Christine James wedi bod draw i Balas Buckingham, a heddiw clywyd bod Prif Weithredwr yr Urdd Efa Gruffudd Jones wedi derbyn MBE.

Does gen i ddim unrhyw fath o gasineb personol tuag at unrhyw aelod o’r Teulu Brenhinol. Maen nhw’n gwneud swyddogaeth digon diflas yn fy marn i, yn enwedig y Frenhines a ddylai fod wedi cael ymddeol degawdau yn ôl. Dydw i ddim chwaith yn ei beio hi oherwydd bod ei 1000x hen-dad-cu wedi torri pen Tywysog olaf Cymru i ffwrdd. Brenhinoedd yn brwydro am diriogaeth oedd y rhain, ac fe fyddai Tywysogion Cymru wedi gwneud yn union yr un fath i frenhinoedd ac arglwyddi Lloegr pe bai modd iddynt.

Serch hynny rydw i’r credu bod Teulu Brenhinol bellach yn anacroniaeth ac wedi ei ddarostwng yn ddim mwy nag arf PR er mwyn hybu buddiannau’r rheini sydd am reoli ein cymdeithas. Mae gan 'bennaeth ein gwladwriaeth' lai o rym na bron i bawb arall yn y wlad - mae'n cael ei thywys o le i le i ysgwyd llaw â hwn a'r llall. Nid yw ei Hymerodraeth Prydaeinig bellach yn bodoli, ac roedd yn beth digon atgas tra’r oedd yn bod, felly wela i ddim pam y byddai unrhyw un yn teimlo bod cael bod yn aelod ohono yn anrhydedd.

Roedd trydariad gan Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, yn crynhoi teimladau nifer ar y pwnc:


“Methu credu fod menyw ddawnus, ifanc Gymreig yn meddwl fod yna werth bod yn Member of the British Empire yn 2014.”


Mae Christine James wedi ceisio wfftio’r feirniadaeth am ei hymweliad hithau â Phalas Buckingham drwy ddweud:


“Yn bersonol doeddwn i ddim yn gweld problem gyda’r peth. Hynny yw, roeddwn i’n gweld e’n wahoddiad gan bennaeth gwladwriaeth – tasen ni wedi cael gwahoddiad gan bennaeth gwladwriaeth Ffrainc, neu beth bynnag, bydden ni wedi bod yn falch iawn o fynd â’r gore o farddoniaeth Gymraeg yno.”


Alla i ddim credu ei bod hi wir wedi meddwl bod derbyn gwahoddiad gan Frenhines Lloegr yr un fath a mynd i weld Arlywydd Ffrainc. Mae’r ddwy yma yn nabod Cymru yn ddigon da i wybod y byddai plygu glin i’r Cwîn yn ennyn y fath ymateb, ond wedi penderfynu gwneud hynny beth bynnag. Pam felly?

I raddau mae penderfyniad Efa Gruffudd Jones yn gwneud mwy o synnwyr. Wedi’r cyfan derbyn yr anrhydedd yn rhinwedd ei swydd mae hi. Anrhydedd i’r Urdd yw hi yn y bôn, er mwyn adnabod gwaith da'r mudiad. Ond wedi dweud hynny alla i ddim dychmygu bod nifer o’r rheini sy’n ymwneud a’r mudiad eisiau cael eu cysylltu ag ymerodraeth Prydain, chwaith.

Ond dydw i ddim yn gweld ryw lawer o gyfiawnhad o gwbl am ymweliad yr Archdderwydd â Phalas Buckingham. Dywedodd Christine James mai’r bwriad oedd “dathlu’r ffaith bod barddoniaeth fel cyfrwng yn ffynnu ym Mhrydain ar hyn o bryd”. Wrth gwrs fe ddigwyddodd y dathliad hwn ar 19 Tachwedd ac ni chafodd y byd wybod nes 20 Rhagfyr. Os mai tynnu sylw at gryfder barddoniaeth Brydeinig oedd y nod, pam cadw’r peth dan eich het archdderwyddol am fis cyfan?

Rydw i’n aelod o’r Orsedd a’r syniad yn fy nhyb i oedd ei fod yn system anrhydeddau oedd yn bodoli ochr yn ochr ag un Lloegr, yn hytrach na bod islaw iddo. Drwy fynd i Balas Buckingham a chyrtsio i’r Frenhines mae’r Archdderwydd wedi awgrymu nad yw hynny’n wir. Efallai mai fel Christine James y bardd yr aeth hi yno, ond allai hi ddim stopio bod yn Archdderwydd am noson dim mwy na y mae’r Pab yn gallu rhoi’r gorau i fod yn Bab am noson, neu’r Prif Weinidog y Prif Weinidog. Mae mynd i Balas Buckingham yn Archdderwydd a chyrtsio i’r Frenhines (fel sydd rhaid i bob un sy’n ei chyfarfod hi wneud) yn gosod cynsail anffodus yn fy marn i.

“Does dim problem… a dweud y gwir mae’r Frenhines yn aelod o’r Orsedd,” meddai Christine James.

Mae hynny’n wir ond fe ymunodd 1946, ond roedd hwnnw’n oes wahanol. Doedd y Frenhines ddim yn Frenhines. Roedd yr Eisteddfod yn parhau i fod yn un ‘frenhinol’ ac agwedd y Cymry Cymraeg yn llai gweriniaethol. Ac wedi’r cwbl dim ond Urdd Ofydd y cafodd Elisabeth... hynny yw, yr haen isaf o’r tair sydd ar gael.

Yr unig esboniad alla i feddwl amdano yw eu bod nhw ill dwy wedi gwirioni at gael eu gwahodd i gwrdd â’r Frenhines, ac wedi derbyn er gwaethaf yr ymateb anochel! Ond hoffwn i gael gwybod os oes esboniad arall am y peth - wedi'r cwbl dydyn ni heb glywed ochr Efa Gruffudd Jones o'r stori o gwbl.

Ond fel arall; bring back Robyn Lewis, all is forgiven. :P

Comments

  1. Edrychwch ar drydar y Tori Alun Cairns. Mae hwn yn gwneud y 'gyfrinach' yn amlwg i bawb.

    "Llongyfarchiadau I Efa @Yr_Urdd am dderbyn MBE wrth y Frenhines. Falch I weld y Cymry Cymraeg yn dod yn rhan o'r sefydliad Prydeinig!"

    -See thro' you we can Mr UK-

    ReplyDelete
  2. Y broblem efo Efa yn derbyn 'ar ran yr Urdd' ydi hyn - mae derbyn 'anrhydedd' fel hyn yn gynhenus ymhlith pobl sy'n ymwneud a'r Urdd - i rai does yna ddim problem, ond i eraill mae'n weithred gweddol agos at frad. Dydi hi ddim yn briodol derbyn rhywbeth ar ran pobl sy'n cael yr hyn a dderbynir yn broblem sylweddol.

    ReplyDelete
  3. Yn achos Efa, yr hyn sy'n arbennig o ddwl yw'r ddadl y byddai gwrthod wedi bod yn weithred wleidyddol, ac na ddylai pennaeth yr Urdd dynnu sylw gwleidyddol ati'i hun. Wrth gwrs, mae derbyn yn weithred yr un mor wleidyddol yn union. Mae popeth yn wleidyddol.

    Mae diffinio'r safiad pro-sefydliadol fel un normal ac angwleidyddol yn hen dric anghynnes a niweidiol.

    ReplyDelete
  4. Os ochr yn ochr y mae anrhydeddau'r Orsedd ac anrhydeddau Lloegr yn bodoli, ai'r trefn cywir yw fod y Cymry Cymraeg i dderbyn y cyntaf yn unig, a'r Cymry Digymraeg i dderbyn yr ail? Oblegid nid yw yr Orsedd fel arfer yn urddo y Cymry Digymraeg. Mae hyn yn arwain at ddeuoliaeth annymunol. Anrhydedda'r Orsedd wasanaethau tuag at yr iaith a diwylliant Cymraeg, a mae hyn yn hollol gywir: dyna'r nod, wedi'r cwbl. Pwy sydd i urddo'r Cymry Digymraeg yn ein plith na ellid eu hurddo gan yr Orsedd, ond a ddirmygir pe dderbynent unrhyw anrhydedd gan y Frenhines?

    ReplyDelete

Post a Comment