Arlwy y Scotsman |
Mae hyn yn amlygu tueddiad eithaf od ymysg
cenedlaetholwyr – sef cydnabyddiaeth bod y wasg yn eu herbyn nhw, a bod y wasg
yn ddylanwadol iawn wrth liwio barn y cyhoedd, ond amharodrwydd i wneud ryw
lawer ynglŷn â hynny. Maen nhw’n canolbwyntio eu holl ymdrechion ar ennill grym
gwleidyddol ond ddim rhyw lawer ar reoli allbwn y cyfryngau.
Yng Nghymru mae’r sefyllfa hyd yn oed yn fwy rhyfedd -
mae cenedlaetholwyr yn cwyno ar un llaw am ogwydd y Western Mail, ond ar y llaw
arall bod gwagle mawr yn y cyfryngau yng Nghymru sydd heb ei lenwi gan unrhyw
un. Does yna’r un gwasanaeth newyddion cenedlaethol yng Nghymru. Mae’r Western
Mail yn honni bod yn bapur cenedlaethol, ond nid yw ei ddylanwad yn lledu
ymhell y tu hwnt i ffiniau Sir Gâr. Cangen o gorff Prydeinig yw BBC Cymru ac
mae’r rhy ddiduedd i fynegi barn naill ffordd neu’r llall ar ddyfodol Cymru.
Pam felly nad yw cenedlaetholwyr yn llenwi’r gwagle amlwg
sydd i’w gael yn y cyfryngau yng Nghymru? Un ateb o bosib yw eu bod nhw wedi
canolbwyntio eu hegni ar geisio sicrhau bod papurau newydd, cylchgronau a
gwefannau Cymraeg ar gael, ac felly yn anwybyddu'r angen am bapurau newydd,
cylchgronau a gwefannau cenedlaetholgar Saesneg.
Mae’n siŵr y gellid dadlau bod y Gymraeg wedi bod yn
rywfaint o fwrn ar genedlaetholdeb dinesig Cymreig yn gyffredinol, ond fel un
sydd ddim yn credu bod pwynt i genedlaetholdeb heb ddiwylliant unigryw yn sail
iddo dydw i ddim am wneud hynny.
A fyddech chi yn cyfrannu arian tuag at sefydlu papur
newydd Saesneg, ar yr amod bod ei ogwydd golygyddol yn un cenedlaetholgar?
Rwy’n teimlo y byddai yn fuddsoddiad gwerth chweil i genedlaetholwyr - yn
enwedig fel nad yw Cymru yn ei chael ei hun yn yr un twll a chenedlaetholwyr yr
Alban pan ddaw’r amser, â phob ffynhonnell newyddion yn eu herbyn.
Byddwn. Am faint wyt ti'n gofyn? :p
ReplyDeleteWel byddai'n rhaid penderfynu ar ffurf y cyhoeddiad gyntaf! Tua £500? :P
ReplyDeleteMi fuaswn i yn cyfrannu ond rwy'n siwr bod lawer wedi cyfrannu £500 tuag y Byd ond heb unrhyw beth yn ol yn ei buddsoddiant, felly rwy'n credu fuasa nifer yn amheus o fuddsoddi £500 i rhywbeth arall.
ReplyDelete"A fyddech chi yn cyfrannu arian tuag at sefydlu papur newydd Saesneg, ar yr amod bod ei ogwydd golygyddol yn un cenedlaetholgar?"
ReplyDeleteWrth gwrs, mae yna gannoedd o filoedd o Gymru ddi-gymraeg yn y Cymoedd sy'n teimlo'n Gymreig nid Prydeinig ond ddim yn pleidleisio i Blaid Cymru.
Ond cofiwch, y Daily Mail yw'r papur newydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru ac mae nifer o'r proto-genedlaetholwyr yma yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd, mewnfudwyr, Islam ac yn bur wrth-Seisnig!
Diwedd y gan yw'r geiniog! Mae crowdffyndio'n gweithio - dangosa fantolen!
ReplyDelete