Lle fydd S4C yn mynd? |
Mae S4C wedi cyhoeddi ei bod yn ystyried symud rhai swyddi o Gaerdydd i naill ai Wynedd neu Sir Gaerfyrddin. (Hynny
yw os na fydd Qatar wedi llwyddo i’w llwgrwobrwyo i symud yno ar y funud olaf).
Rydw i’n gallu uniaethu â phenderfyniad
S4C. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ger Caernarfon, ond yn byw ger Caerfyrddin.
Pam ddim symud y plant i’r gogledd i fod yn gofis Dre?
Wedi’r cwbl, er nad oes prinder Cymry
Cymraeg i’w cael yma, mae’n amlwg bod yr iaith yn araf ddirywio. O fynd i lawr
i siop y pentref dydw i’n aml ddim yn clywed acenion Cymreig heb son am yr iaith Gymraeg. Fe es i ag un o’r plant i ddiwrnod mabolgampau mudiad meithrin ychydig
fisoedd yn ôl, a chael dipyn o sioc mai ni oedd yr o’r ychydig deuluoedd yno
oedd yn siarad Cymraeg.
Oni fyddai yn haws symud y plant i fyny i
Gaernarfon, felly, a sicrhau eu bod nhw’n cael eu magu mewn tref lle mae'r
mwyafrif helaeth yn siarad Cymraeg?
Mae yna un ddadl amlwg yn erbyn, sef - pa
obaith i’r Gymraeg yn yr ardal yma os yw’r Cymry Cymraeg yn codi pac ac yn
symud oddi yma?
Dyna pam nad ydw i’n cytuno â dadl
Cai dros symud S4C i Gaernarfon. Dydw i ddim yn dweud na ddylid symud S4C i
Gaernarfon, ond dydw i ddim yn credu bod gwendid y Gymraeg yng Nghaerfyrddin
yn rheswm dros beidio symud i'r dref honno – i’r gwrthwyneb a dweud y gwir.
Yn un peth, dydw i ddim yn credu bod
cyflwr yr iaith yng Nghaerfyrddin mor ddu ag y mae Cai yn ei awgrymu. Fel y
soniais uchod, dyw pethau ddim yn wych. Ond o ran niferoedd, os nad canran, mae
yna lwyth o Gymry Cymraeg yma. Fe fûm i’n siopa yng Nghaernarfon ddoe ac yn
siopa yng Nghaerfyrddin heddiw. Yng Nghaernarfon ges i wasanaeth Saesneg - yng
Nghaerfyrddin heddiw, fe gefais i wasanaeth uniaith Gymraeg.
Byddai lleoli S4C yn yng Nghaerfyrddin yn
hwb i’r iaith yno - nid yn y dref yn unig, ond yn yr ardal o boptu iddi. Fe
fyddai yn denu nifer o Gymry Cymraeg i fyw, neu i aros, yn yr ardal. Ac fe fydden nhw’n Gymry Cymraeg
mewn swyddi da a chanddynt ddawn dweud -y math all ddylanwadu ar wleidyddion ac
ar arferion ieithyddol pobl eraill yr ardal. Dydw i ddim yn dadlau y byddai
lleoli S4C yno yn gwneud newid anferth i ddyfodol yr iaith - yn yr un modd nag
yw lleoli’r Eisteddfod genedlaethol yn y sir
y flwyddyn nesaf yn mynd i wneud newid anferth i ddyfodol yr iaith. Ond
dyw hynny ddim yn ddadl dros gynnal yr Eisteddfod yng Ngwynedd bob blwyddyn.
Ni fyddai diffyg Cymraeg yng Nghaerfyrddin yn atal S4C rhag ffynnu yno, chwaith - mae wedi ffynnu cyhyd yng nghanol Caerdydd, wedi'r cwbl.
Ni fyddai diffyg Cymraeg yng Nghaerfyrddin yn atal S4C rhag ffynnu yno, chwaith - mae wedi ffynnu cyhyd yng nghanol Caerdydd, wedi'r cwbl.
Medd Cai: “Ond mae yna lefydd lle mae'r llif yn erbyn yr
iaith mor gryf fel y byddai unrhyw effaith cadarnhaol yn cael ei foddi.
Mae tref Caerfyrddin ymysg y llefydd hynny... Y broblem efo tref
Caerfyrddin ydi bod y Gymraeg yn marw yno...”
Y broblem efo’r
ddadl yma ydi ei bod yr un mor gymwys yng nghyd-destun Cymru gyfan. Mae’r iaith
Gymraeg yn marw yng Nghymru. Os ydyn ni’n fodlon gadael Caerfyrddin i’w ffawd, does dim llawer o obaith i weddill
y wlad. Nid ryw fath o Arch Noa sy’n mynd i gario’r iaith i borfeydd breision
yw Caernarfon, Penygroes, a’r ychydig lefydd eraill lle mae’r mwyafrif yn
siarad yr iaith. Os ydyn ni eisoes yn cilio yno ac yn derbyn nad oes dim y
gellid ei wneud dros lefydd fel Caerfyrddin, mae wir wedi canu ar yr iaith.
Dydi'r Gymraeg ddim yn marw yn llawer o weddill Cymru Ifan - mae'r proffil demograffaidd yn iach yn llawer o'r wlad yn yr ystyr bod mwy o bobl ieuengach yn siarad yr iaith na sydd o bobl mewn oed mawr. Dydi hynny ddim yn wir am lawer o Sir Gaerfyrddin - er fy mod yn derbyn bod y patrwm yn well yn rhai o'r llefydd gwledig o gwmpas tref Caerfyrddin.
ReplyDeleteUn o'r prif resymau am sefyllfa'r Gymraeg yn Sir Gar ydi di faterwch ei chyngor sir. Does yna ddim arwyddion bod y di faterwch yna'n newid. Dydw i ddim yn dadlau y dylid gadael y Gymraeg yng Nghaerfyrddin i'w ffawd - dwi jyst yn dweud bod defnyddio rhywbeth sydd a'r potensial i hybu iaith yn wastraff mewn ardal lle mae'r ddemograffeg yn ei gwneud yn anochel y bydd y canrannau yn parhau i gwympo am ugain mlynedd o leiaf.
Rwy'n cytuno bod dirywiad mawr wedi bod yn Sir Gaerfyrddin - ond er bod y canran wedi syrthio'n bell mae'n parhau yn iachach na'r cyfartaledd yn genedlaethol. Dim ond yn Ynys Mon, Ceredigion a Gwynedd mae'r Gymraeg yn fwy iach. Os yw'r Gymraeg yn marw yng Nghaerfyrddin, mae wedi marw yn bron i bobman arall yng Nghymru. Os gadael Caerfyrddin i'w ffawd fe fyddwn ni'n gwneud yr un fath yng Ngheredigion mewn 10 mlynedd, Ynys Môn mewn 20... A bydd Morrisons Caernarfon ddim yn cael unrhyw ffwdan dod o hyd i staff mewn 30.
ReplyDeleteDydw i ddim yn dweud na ddylai S4C fynd i Gaernarfon gyda llaw - mae yna ddadleuon cryf dros wneud hynny - dim ond dweud ydw i na ddylai cryfder yr iaith yno fod yn un ohonyn nhw.
ReplyDeleteGwynedd neu Sir Gâr?
ReplyDeleteBeth am gael talwrn y prifeirdd?
a'r wobr fydde cael lleoliad newydd s4c - mewn pryd i'w plant gael swyddi !
Deud ydw i os mai cynllunio ieithyddol ydi'r nod nad ydyw'n gynllunio da i leoli'r sefydliad lle na chaiff fawr o effaith.
ReplyDeleteFaint o pobol mae S4C yn cyflogi 50-100. Fydd ychydig o cannoedd o siaradwyr dwyiethog yn dylnwadu diwylliant ardal. Fel Gog fyddwn awgrymu fydda cael mwy o dylanwad yn caerfyrddin na Caernarfon felly. Cytuno efo Ifan a'r pwint yma. Na fydda 200 o Groegwyr symud i ardal gwneud y lle mwy groegaidd!??!?!
ReplyDeleteClywch, clywch. Mae yna dueddiad i orliwio dirywiad yr iaith yn yr ardal hon. Ond eto, mae Cai yn taro'r hoelen ar ei phen - difaterwch ac hyd yn oed gelyniaeth tuag at yr iaith yw nodweddion Cyngor Sir Gaerfyrddin.
ReplyDeleteOnd Cneifiwr a yw'r difaterwch hwnnw tuag at yGymraeg wir yn alewyrchu barn y boblogaeth? Mae yna fwy o gynghorwyr PC nag unrhyw grŵp arall. Tra bod trwch poblogaeth y sir yn parhau o blaid y Gymraeg ni ddylid rhoi'r ffidil yn y to.
ReplyDeleteCai does dim tystiolaeth na fyddai lleoli S4C yng Nghaerfyrddin yn cael effaith. Fe allet ti ddadlau bod gwendid y Gymraeg yn y sir yn golygu bod mwy o angen am hwb i'r iaith nag yng Nghaernarfon.
Rwyt ti'n dweud bod yr ystadegau yn dangos dirywiad anorfod, ond maen nhw hefyd yn dangos bod canran uwch o bobl ifanc y sir yn siarad Cymraeg na bron i unrhyw ran arall o Gymru. Gallai symud S4C i'r ardal argyhoeddi y bobl ifan rheini bod yr iaith yn berthnasol y tu hwnt i'w dyddiau ysgol. Does dim angen perswadio disgyblion ysgolion Caernarfon bod yr iaith yn berthnasol yn yr un modd.
Y pwynt efo tref Caerfyrddin Ifan ydi bod y canrannau o blant sy'n siarad y Gymraeg yn is na chanran y pensiynwyr. Mae hyn yn sefyllfa anarferol yng nghyd destun Cymru gyfan. Mae dirywiad felly yn anorfod yn yr ardal honno - ddim am byth ond yn y dyfodol canolig - 20 mlynedd efallai. Dwi ddim yn dweud na fyddai yna ddim effaith o gwbl - ond yr hyn ti'n ei wneud ydi defnyddio adnodd sydd a photensial i greu cynnydd i liniaru ychydig ar ddirywiad. O safbwynt cynllunio ieithyddol mae hynny'n wastraffus.
ReplyDeleteDydi barn y cyhoedd ddim yn bwysig yn y ddadl yma fel y cyfryw - dydi agwedd y weinyddiaeth tuag at y Gymraeg, ddim yn debygol o newid yn y dyfodol agos - felly mae un o prif resymau tros y dirywiad yn aros mewn lle.
Dwi'n lecio'r ffordd mae cefnogwyr Y Fro yn creud taw 'synnwyr cyffredin' yw adleoli i Gaernarfon. Mae na syniad digon afiach ynghlwm yn hyn bod modd creu rhyw fath o ffortress Gwynedd all ddangos i'r twpsod eraill sut ma gneud hi.
ReplyDeleteFydd na ddim llawer o swyddi'n symud yn y bôn, a symbolaidd fydd y symud HQ yn fwy na unrhyw hwb swyddi anferth. Sir Gâr ydi'r no-brainer felly, gan bod Capten Dyfed eisoes yn gwneud PR push reit lwyddianus am odidowgrwydd Cyngor Gwynedd.
Fe dybiwn i y byddai cryn bwysau'n dod gan y llywdoraeth i fynd i Sir Gar hefyd. Ardal Plaid Cymru neu ardal Llafur? P'un chi'n meddwl geith hi?
Fydd hi werth mynd i Gaerfyrddin jest i glywed cyfryngis y Gogs yn diawlio bod Ieuan Air yn dda i ddim iddyn nhw bellach a fod rhaid nhw ddechrau cyfansoddi caneuon cwyno/sgriptiau teledu am yr A487 yn lle'r A470.
"Y pwynt efo tref Caerfyrddin Ifan ydi bod y canrannau o blant sy'n siarad y Gymraeg yn is na chanran y pensiynwyr. Mae hyn yn sefyllfa anarferol yng nghyd destun Cymru gyfan."
ReplyDeleteOnd mae hynny o ganlyniad i ganran uchel o bensiynwyr sy'n siarad Cymraeg yno, yn hytrach na chanran isel o bobl ifanc sy'n siarad yr iaith. Beth bynnag, rwy'n credu bod angen ystyried y sir yn ei chyfanrwydd, yn hytrach na'r dref yn unig, wrth ystyried effaith symud S4C yno, gan bod pobl yn teithio i weithio yn y dref o bob rhan o'r sir, ac o waelod Ceredigion a dwyrain Sir Benfro. Mae'r canran o bobl ifanc sy'n siarad yr iaith yn y rhannau hyn ymysg y iachaf yng Nghymru. Os wyt ti'n edrych ar ystadegau Sir Gaerfyrddin yn ei chyfanrwydd mae'r ffigyrau ar eu gwaethaf ymysg y canol oed, 45-49, ac yn gwella yn sylweddol wrth symud yn ol drwy'r ystod oedran. Felly rwy'n gweld dy ddadl bod Caerfyrddin ryswut y tu hwnt i achubiaeth yn eithaf od - mae'n parhau yn un o brif ganolfannau yr iaith.
"Ardal Plaid Cymru neu ardal Llafur? P'un chi'n meddwl geith hi?"
Mae gan PC AC ac AS yn Sir Gar, yn ogystal a mwy o seddi yn y cyngor na neb arall, felly mae'n ddadlauol a ydi hi'n 'ardal Llafur'.
(Gyda llaw, fel un a sy'n teithio ar hyd yr A487 i'r gogledd bob wythnos, allai dystio ei bod hi'n llawer brafiach na'r A470!)
Dydw i ddim wedi dweud bod Caerfyrddin y tu hwnt i achubiaeth Ifan. Dweud ydw i bod y canrannau yn rhwym o syrthio am tua ugain mlynedd arall. Mae'r patrymau oedran yn sicrhau hynny.
ReplyDeleteMae ardaloedd mwy Cymreig a llai Cymreig na Chaerfyrddin efo proffeil demograffaidd llawer iachach. Trosglwyddiad iaith sal, nid canran uchel o siaradwyr Cymraeg sydd y tu ol i'r gwahaniaeth rhwng plant a henoed.
Dydi'r busnes plaid ddim yn bwysig - i lywodraeth San Steffan mae S4C yn atebol.
Hefyd i ategu pwynt Jason ar fy mlog i - dydi Caerfyrddin ddim digon pell o Gaerdydd i wneud i neb godi pac - cymudo fyddai pobl.
Mae pobl yn comiwtio o Gaerfyrddin i Gaerdydd, ac o Gaerdydd i Lanelli. Fydde symud swyddi i Sir Gar ddim o reidrwydd yn golygu fod pobol yn symud
ReplyDeleteIfan,
ReplyDeleteDwi'n nodi bod ti newydd ddweud bod ti am edrych ar y sir yn ei chyfanrwydd, ond i weld pa mor bell mae Tref Caerfyrddin wedi dirywio, mi wnes i edrych ar syt mae canran siaradwyr Cymraeg Oedran 3-14 yn cymharu efo wardiau mwyaf Cymraeg Siroedd eraill.
Tref Caerfyrddin (3-14 oed): 41.5%
Gwynedd 100% (Morfa Nefyn!)
Isle of Anglesey 95% (yn Llangefni)
Ceredigion 90%
Conwy 89%
Carmarthenshire 88% (er gwybodaeth : Llanfihangel-ar-Arth - Ceredigion yn y bon.. ;-)
Denbighshire 87%
Pembrokeshire 83%
Powys 82%
Neath Port Talbot 80%
Monmouthshire 53%
Flintshire 53%
Swansea 49%
Torfaen 49%
Rhondda Cynon Taff 47%
Wrexham 46%
Caerphilly 44%
Newport 42%
Blaenau Gwent 41%
Cardiff 37%
Vale of Glamorgan 35%
Bridgend 33%
Merthyr Tydfil 31%
Fellu dim ond 5 sir yng Ngymru sydd heb ward efo canran uwch o blant sy'n siarad Cymraeg na Tref Caerfyrddin (mi ro'n i'n synnu bod Caerdydd ddim yn uwch).
Dwi'n siwr bod y 41.5% o blant Tref Caerfyddin efo Cymraeg 'gwell' na llawer ward mewn siroedd eraill a chanran llawer uwch, ond os mae symyd S4C i ardal fwy Cymreig ydi'r syniad, o leiaf symudwch o i dref sydd efo canran go lew o blant sy'n gallu siarad Cymraeg - mae na ddigon o ddewis.
Hoffwn wybod pam nad yw S4C yn ystyried Aberystwyth
ReplyDeleteIoan, dyw hi ddim yn deg cymharu siroedd cyfan a tref unigol! Byddet ti'n gweld yr un tueddiad mewn trefi eraill fel Aberstwyth o'i gymharu efo'r cefn gwlad o'u cwmpas.
ReplyDelete"dydi Caerfyrddin ddim digon pell o Gaerdydd i wneud i neb godi pac - cymudo fyddai pobl."
Rwy'n cytuno - fel y dywedais mae yna nifer o resymau dros ffafrio Caernarfon dros Gearfyrddin. Ond dyw gwendid yr iaith ddim yn un ohonyn nhw yn fy nhyb i.
"Ioan, dyw hi ddim yn deg cymharu siroedd cyfan a tref unigol! Byddet ti'n gweld yr un tueddiad mewn trefi eraill fel Aberstwyth o'i gymharu efo'r cefn gwlad o'u cwmpas."
ReplyDeleteDim mater o fod yn 'deg' ydio - cytuno am Aberystwyth, ond fasa fo ddim yn wir am Caernarfon, Llangefni, Bethesda, Pwllheli, Porthmadog etc.
Dwi ddim yn gweld y pwynt o symud i Gaerfyrddin - waeth i ti symud i Orllewin Caerdydd ddim - pa ardal fydd efo'r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg ifanc mewn 20 mlynedd (heb son am y nifer uchaf hyd yn oed heddiw)?