Yr Eisteddfod a’r Teulu Brenhinol


Na, nid dadl ynglŷn ag a yw’r Frenhines yn parhau yn aelod o’r Orsedd ar ôl iddyn nhw weithredu’r rheol iaith sydd gen i ar eich cyfer chi (mae hi yn dal i fod yn aelod, mae’n debyg. Sy’n braf am mai dim ond Urdd Ofydd yw hi, ac felly rydw i’n gallu edrych i lawr fy nhrwyn arni o frig fy maen llog Derwyddol).

Fel yr ydych chi’n ymwybodol mae’n siŵr, rydw i’n gefnogwr brwd o’r Eisteddfod ac yn edrych ymlaen at yr ŵyl yn yr un modd ag y mae’r merched acw yn edrych ymlaen at eu hymweliad blynyddol gan Siôn Corn. Ond yn anffodus eleni, oherwydd pwysau gwaith a’r pellter daearyddol rhyngof i a maes y brifwyl, mae’n annhebygol y bydda i’n mynychu am y tro cyntaf ers i’r Eisteddfod ymweld â Dinbych y tro diwethaf nôl yn 2001.

Felly  o flaen y teledu fydda i gyda’r nos yn gwylio’r uchafbwyntiau. A dyna lle y büm i heddiw yn gwylio ac yn gweld eisiau ynganiadau coeth Rhun ap Iorwerth (beth ddigwyddodd i hwnnw?).

Ac wrth wylio’r arlwy o’r Eisteddfod fe sylwais i ar un peth – mae’r modd y mae’r BBC yn ymdrin â’r Eisteddfod bron yn union yr un fath a’r modd y maen nhw’n ymdrin â’r Teulu Brenhinol.

Rydw i a sawl gweriniaethwr arall wedi ffromi dros yr wythnosau diwethaf wrth weld y BBC yn rhoi’r fath sylw di-feirniadaeth i Mrs Windsor. Doedden nhw ddim yn herio’r sefydliad yma o gwbl, ac yn rhoi’r argraff pob gafael bod pawb yn caru’r peth ac yn cael yr amser gorau posib - pa bynnag ‘ddigwyddiad’ yr oedden nhw’n rhan ohono (genedigaeth frenhinol neu’n Jiwbilî diemwnt neu beth bynnag). Propaganda y byddai Gogledd Korea yn falch ohono, medd rhai.

Dydw i ddim yn awgrymu bod yr Eisteddfod yn cael hanner cymaint o sylw a’r Teulu Brenhinol. Ond mae’r BBC yn adrodd ar yr ŵyl yn yr union yr un modd. Mae’r cyflwynwyr yn cymryd yn ganiataol o’r dechrau bod pawb sy’n gwylio wrth eu bodd, ac yn canolbwyntio’n ddi-dor ar bopeth cadarnhaol a hwyl sy’n digwydd o’u cwmpas. Mae seremonïau sy’n ddigon gwirion ar yr olwg gyntaf yn cael eu trin â pharch a difrifoldeb llwyr gan y sylwebydd. Does dim cwestiynu, dim herio, dim ond moliant, a gwenu, a hwyl a sbri. Does gan y newyddiadurwr sy’n mynychu ddim diddordeb mewn creu stŵr a sgandal. Maen nhw hefyd yn mwynhau, ac ar ochr yr Eisteddfod. (Mae eu hanner nhw'n cystadlu yn y corau!)

Hyn i gyd er bod, mae’n siŵr, canran bychan a gwydn o’r boblogaeth sydd ddim ar ochr yr Eisteddfod, yn credu bod yr holl beth yn wastraff amser, ac a fyddai’n hoffi gweld diwedd arno am byth.

Ai propaganda yw ymdriniaeth y BBC o’r Eisteddfod felly? A ddylen nhw lusgo Elfed Roberts i mewn i'r stwdio a'i holi yn dwll ynglyn a lle mae'r arian cyhoeddus yn mynd? A ddylen nhw wahodd pobl sydd ddim yn hoffi'r Eisteddfod ymlaen i herio, a dechrau gwneud straeon negyddol am bobl mewn cadeiriau olwyn yn sownd ar y maes, a pheryglon yfed dan-oed ym Maes B? Na, medden ni, achos rydym ni wrth ein boddau efo’r Eisteddfod. Mae’n beth gwych ac fe ddylai’r ymdriniaeth yn y wasg adlewyrchu hynny. Os mae stori negyddol yn ymddangos yn y wasg, rydyn ni'n mynd yn amddiffynnol. Dydyn ni ddim am weld ein sefydliad ni dan y lach. Ond dyna y mae cefnogwyr y Teulu Brenhinol yn ei deimlo amdanyn nhw, hefyd...

Efallai y dylid derbyn bod y BBC, pan maen nhw’n adrodd ar ddigwyddiadau mawr o’r fath, bydded y rheini’n Eisteddfodau, neu’n Glastonbury, neu’n Gemau Olympaidd, neu’n Jiwbilïau, neu beth bynnag, yn cael rhoi gwrthrychedd i’r naill ochr ac ymuno yn yr hwyl. Wedi’r cwbl, does neb eisiau darlledwr cenedlaethol sy’n spoilsbort.

Comments

  1. Dyna lle mae Golwg (i fod) a blogwyr (tasa na fwy fel ti) mor bwysig de! Mae'n symptom o coverage unrhyw ddigwyddiad mawr dydi. Gei di ddim critique o ynfydrwydd rheolau bridio cwn ar Crufts gan Channel 4 chwaith. Wel, ddim yn ystod y coverage Crufts beth bynnag.

    ReplyDelete
  2. A bod yn deg dydw i ddim yn meddwl bod diffyg parodrwydd yn Golwg i fynd ar ol straeon negyddol am sefydliadau Cymraeg. Y broblem yw diffyg amser/adnoddau i wneud y math o newyddiaduraeth ymchwiliadol sydd ei angen. Problem sy'n effeithio newyddiaduraeth ledled y byd y dyddiau yma (ond un nad yw'r BBC yn dioddef cymaint ohono!).

    ReplyDelete

Post a Comment