Mari Glwys yn joio ar y maes |
Fe fûm i’n cadw cofnod ers blynyddoedd o ffigyrau ymwelwyr
yr Eisteddfod. Pan oeddwn i’n gweithio i Golwg roedd yr Eisteddfod yn eu gyrru
nhw draw bob dydd ac roeddwn i’n gwneud nodyn ohonyn nhw. Y dydd o’r blaen fe
ddes i ar draws tudalen
Wicipedia yn nodi’r ffigyrau – ond o edrych ar y cyfeiriadau ar waelod y
dudalen daw’n amlwg mai’r ffigyrau oeddwn i wedi eu cyhoeddi ar Golwg 360 oedd ffynhonell
y rhan fwyaf ohonynt! Felly waeth i mi gyhoeddi’r ffigyrau diweddaraf fan hyn
ddim. Dyma’r cyfan yr oeddwn i’n gallu dod o hyd iddynt yn fy ffeiliau (rwy’n
siwr bod mwy i’w gael ond o bosib wedi eu colli). Dydw i ddim yn cofio beth
oedd ffynhonell y rhan fwyaf ohonynt, ond mae’r rhan fesul dydd wedi dod gan yr
Eisteddfod eu hunain. Os oes gennych chi rai cynharach, rhowch wybod.
Nos Wener 1
|
Dydd Sadwrn 1
|
Dydd Sul 1
|
Dydd Llun
|
Dydd Mawrth
|
Dydd Mercher
|
Dydd Iau
|
Dydd Gwener
|
Dydd Sadwrn
|
Dydd Sul
|
Cyfanswm
|
|
Abergele 1995
|
167,225
|
||||||||||
Bro Dinefwr 1996
|
167,931
|
||||||||||
Meirion 1997
|
173,221
|
||||||||||
Bro Ogwr 1998
|
163,321
|
||||||||||
Môn 1999
|
161,725
|
||||||||||
Llanelli 2000
|
162,047
|
||||||||||
Dinbych 2001
|
142,609
|
||||||||||
Tyddewi 2002
|
126,751
|
||||||||||
Maldwyn 2003
|
155,390
|
||||||||||
Casnewydd 2004
|
1,011
|
16,172
|
14,046
|
18,080
|
15,142
|
22,438
|
18,771
|
24,505
|
15,548
|
2,072
|
147,785
|
Eryri 2005
|
1,451
|
15,932
|
12,759
|
20,720
|
19,182
|
21,343
|
20,737
|
26,307
|
19,389
|
-
|
157,820
|
Abertawe 2006
|
3,770
|
16,565
|
14,483
|
20,123
|
18,074
|
20,741
|
19,205
|
23,199
|
19,277
|
-
|
155,437
|
Fflint 2007
|
1,009
|
16,710
|
13,848
|
18,608
|
17,463
|
23,092
|
21,089
|
23,941
|
19,184
|
-
|
154,944
|
Caerdydd 2008
|
1,634
|
17,681
|
13,072
|
20,423
|
17,236
|
20,952
|
22,659
|
27,873
|
15,167
|
-
|
156,697
|
Meirion 2009
|
1,245
|
18,216
|
15,292
|
19,658
|
18,113
|
24,794
|
23,027
|
24,166
|
20,178
|
-
|
164,689
|
Blaenau Gwent 2010
|
3,136
|
14,702
|
25,097
|
15,461
|
13,363
|
16,126
|
18,096
|
17,294
|
13,658
|
-
|
136,933
|
Wrecsam 2011
|
1,586
|
17,881
|
16,794
|
16,048
|
17,004
|
20,898
|
17,902
|
23,428
|
17,351
|
-
|
148,892
|
Bro Morgannwg 2012
|
2,520
|
18,207
|
15,305
|
16,121
|
13,126
|
19,368
|
20,016
|
19,097
|
15,007
|
-
|
138,767
|
Sir Ddinbych 2013
|
2,202
|
16,571
|
16,032
|
15,754
|
17,813
|
19,626
|
19,864
|
28,237
|
17,507
|
-
|
153,606
|
Un peth a ddaw i’r amlwg wrth edrych ar y ffigyrau yw bod nifer yr ymwelwyr wedi syrthio dros y blynyddoedd. Mae Eisteddfod Sir Ddinbych eleni yn cymharu’r ffafriol â’r Eisteddfod ar yr un safle yn 2001... ond rhaid cofio mai dyna oedd blwyddyn clwy traed a’r genau, felly roedd y niferoedd yn anghyffredin o isel o ystyried y lleoliad ffafriol. Cymhariaeth well efallai fyddai Meirion 1997 a Merion 2009 - cwymp o bron i 9,000, o 173,221 i 164,689.
Dydw i ddim yn gwybod a yw hynny’n
arwyddocaol ai peidio. Roedd y dyrfa uchaf mewn gêm Chwe Gwlad yn 1975 ond dyw
hynny ddim yn golygu bod y gystadleuaeth yn llai poblogaidd heddiw. Efallai bod
mwy yn dewis gwylio ar y teledu wrth i safon y darlledu wella.
Serch hynny, rhaid cofio hefyd bod mwy a
mwy o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar y Maes ei hun erbyn hyn, er mwyn annog
pobl i brynu tocynnau. Roedd y ffigwr o 28,237 o bobl ar y Maes ar y dydd
Gwener eleni yn rhannol o ganlyniad i docynnau rhatach gyda’r nos i wylio
Edward H Dafis yn perfformio ger y bar.
Daw’n amlwg hefyd fod gwahaniaethau o ran
niferoedd rhwng y gwahanol ranbarthau o Gymru. Er mai dim ond pedair gwaith yr
ymwelodd yr Eisteddfod â gogledd-orllewin Cymru yn yr 19 mlynedd a nodwyd
uchod, roedd cyfartaledd nifer yr ymwelwyr (164,364)
yn uwch na chyfartaledd unrhyw ran arall o Gymru. Ymwelodd yr Eisteddfod â’r
de-ddwyrain chwech o weithiau ond dim ond 149,816 yw cyfartaledd nifer yr
ymwelwyr. Roedd y cyfartaledd yn y de-orllewin a’r gogledd ddwyrain, sef
153,042 a 153,455, bron yn union yr un peth.
Wrth gwrs nid denu ymwelwyr yw unig nod yr
Eisteddfod – mae angen mynd i ardaloedd di-Gymraeg hefyd er mwyn lledaenu’r
newyddion da bod yr iaith Gymraeg yn fyw.
Diolch am hyn.
ReplyDeleteCasnewydd 2004 oedd fy hoff Eisteddfod i, rwy'n credu.
Sylwi bod ffigurau Tyddewi'n isel, ond os cofiaf yn iawn roedd y tywydd yn wirioneddol hunllefus (nid fy hoff gyfnod yn byw mewn pabell mewn cae, o bell bell ffordd).
Yn y cyd-destun yma, nid yw ffigurau eleni gystal ag yr oeddwn wedi meddwl. Hmm.
Tyddewi braidd yn bell o bobman hefyd. Un o'r llefydd mwyaf diarffordd yng Nghymru mae'n siwr. A heb anghofio y camerau cyflymder ar y ffordd adref... :P
ReplyDeleteWedi hoffi Meifod 2003, Casnewydd 2004 (am mai dyna'r blynyddoedd y bum i'n gwesrylla), Caerdydd 2008 (wnes i ennill rywbeth!) a Bala 2009 (hel straeon ar y maes).
Wrth edrych yn ol fy hoff Eisteddfodau oedd y rhai wnes i wneud ymdrech go iawn a buddsoddi rywbeth ynddyn nhw. Y rhai gwaethaf oedd pan wnes i jesd troi fyny am y diwrnod heb ddim cynllun a cyflawni dim.
YEESSSS - cyfiawnhad dros greu'r rhestr ar Wicipedia! Diolch am lenwi'r bylchau - dw i am fentro eu defnyddio ar y Wicio, ond falle gyda nodyn ar y dudalen sgwrs yn esbonio mai o'r cofnod yma y daethant.
ReplyDeletePetai'r amser gyda fi, hoffwn roi blitz go iawn i'r erthyglau Eisteddfod ar Wicipedia - mwy o fanylion (h.y stats) ar y rhai am steddfodau unigol a thrawsneiwd yr erthygl am y Steddfod yn gyffredinol.
Ie Rhys mae angen ychydig o waith arnyn nhw. Lluniau o'r cadeiriau ayyb fyddai'n braf. Efallai y byddai yn werth cysylltu efo'r Eisteddfod eu hunain am wybodaeth. Fe wna i helpu os ga'i amser!
ReplyDelete